3. Cywirdeb
Disgrifiad
Mae dibenion yr elusen yn cael eu rhoi ar flaen unrhyw benderfyniadau o ran buddsoddiadau.
Rhesymeg
Mae holl weithgareddau elusen, gan gynnwys gwneud buddsoddiadau, yn cael eu cyflawni i gefnogi a hyrwyddo dibenion yr elusen. Felly, mae angen dealltwriaeth ar y cyd ymysg ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor o ddibenion yr elusen, sut mae buddsoddiadau’n hyrwyddo neu’n gwrthdaro â’r dibenion hynny, a risgiau i enw da a gwrthdaro rhwng buddiannau sy’n ymwneud â’r buddsoddiadau.
Canlyniadau allweddol
- Mae ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor yn cael eu harwain yn llwyr gan fuddiannau’r elusen ac nid ydyn nhw’n caniatáu i gymhellion, barn na buddiannau personol effeithio ar y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen.
- Mae’r ystod lawn o opsiynau sydd ar gael i hyrwyddo dibenion yr elusen yn cael eu hystyried.
- Mae gwrthdaro rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau yn cael ei archwilio a’i gofnodi, ac mae camau priodol yn cael eu cymryd i reoli unrhyw wrthdaro.
- Mae risgiau i enw da mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen yn cael eu harchwilio a’u cofnodi, ac mae camau priodol i reoli unrhyw risgiau i enw da yn cael eu pennu a’u cymryd.
- Mae cyfleoedd i ddylanwadu a gweithredu ar y cyd yn cael eu hystyried.
- Mae gwrthdaro rhwng buddiannau mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen yn cael eu nodi, eu rheoli a’u cofnodi.
- Mae’r amgylchiadau posibl o ran budd preifat i ymddiriedolwyr (neu staff neu aelodau pwyllgor) mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen yn cael eu nodi a’u trin yn briodol.
Ymarfer
Cywirdeb
Gosod dibenion yr elusen ar y blaen wrth wneud penderfyniadau o ran buddsoddiadau
Mae ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor yn cael eu harwain yn llwyr gan fuddiannau’r elusen ac nid ydyn nhw’n caniatáu i gymhellion, barn na buddiannau personol effeithio ar y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen.
Mae gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth ar y cyd o ddibenion yr elusen. Mae ymddiriedolwyr hefyd yn deall bod buddsoddiadau’n arf i gyflawni’r dibenion a sut gallai buddsoddiadau hyrwyddo neu weithredu yn erbyn dibenion yr elusen. Mae hyn yn cael ei gofnodi hyn ym mholisi buddsoddi’r.
Dibenion elusen yw’r hyn y mae wedi’i sefydlu i’w gyflawni. Bydd y dibenion wedi’u rhestr yn nogfen lywodraethu’r elusen.
I’r mwyafrif o elusennau, bydd buddsoddiadau yn canolbwyntio ar fuddsoddi arian wrth gefn yr elusen (mae hyn yn cynnwys arian a gedwir mewn cyfrif banc a’r pethau a gedwir mewn portffolio buddsoddi) neu arian a gedwir at brosiect penodol.
I rai elusennau, yn enwedig y rheini â gwaddol neu arian sylweddol wrth gefn, bydd buddsoddiadau hefyd yn darparu enillion ariannol (incwm neu dwf cyfalaf) i gyllido gweithgareddau’r elusen.
Gellir hefyd ddefnyddio buddsoddiadau i ddatblygu dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft, drwy fuddsoddiad cyfrifol, effaith neu gymdeithasol.
Dylai pob ymddiriedolwyr gael dealltwriaeth a rennir o ddibenion yr elusen a sut mae’r elusen yn bwriadu cyflawni’r dibenion hynny drwy ei gwaith, ac yn ei dro, sut mae unrhyw fuddsoddiadau sydd gan yr elusen yn helpu i gyflawni’r dibenion.
Mae ymddiriedolwyr a staff yn deall sut mae’r dewis o unigolion sy’n ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi yn effeithio ar y ffordd y mae dibenion yr elusen yn cael eu rhoi ar y blaen.
Gan gydnabod bod y cyfrifoldeb cyfreithiol dros fuddsoddiadau’r elusen yn gorwedd gyda’r bwrdd ymddiriedolwyr yn ei gyfanrwydd, mae ymddiriedolwyr a staff yn archwilio ac yn gweithredu dulliau i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi’r elusen yn gynhwysol ac yn cynnwys y rhai sydd ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad, nid dim ond cyllid a buddsoddiadau.
Mae ystod eang o unigolion ymysg yr ymddiriedolwyr a’r staff sy’n ymwneud â’r canlynol:
- penderfynu sut bydd buddsoddiadau’n hyrwyddo dibenion yr elusen
- archwilio gwrthdaro â’r dibenion
- archwilio risgiau i enw da
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio i’r dulliau y mae buddsoddiadau yn hyrwyddo dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft drwy ddulliau buddsoddi cymdeithasol, buddsoddi effaith neu fuddsoddi cyfrifol.
Investments that conflict with the charity's purposes
Mae amrywiaeth eang o ymddiriedolwyr a staff sy’n ymwneud â chanfod ac ystyried gwrthdaro rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau, gan gynnwys y rheini sydd ag arbenigedd yn nibenion yr elusen.
1. Y dibenion fel y maen nhw yn nogfen llywodraethu’r lywodraethu elusen. Dylai’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn archwilio’r rhain er mwyn sicrhau eglurder a dealltwriaeth ar y cyd.
2. Mae’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn, sy’n cael ei gefnogi gan staff ac aelodau pwyllgor, yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio a chanfod gwrthdaro posibl. Gallai’r pwyntiau cychwyn ar gyfer trafodaeth gynnwys y canlynol:
- yr ymddiriedolwyr neu’r staff hynny sydd ag arbenigedd penodol nibenion yr elusen: (er enghraifft ymddiriedolwr sydd â chefndir mewn ymchwil mewn elusen iechyd) yn cynnig diwydiannau neu sectorau penodol a allai achosi gwrthdaro
- ystyried gwrthdaro uniongyrchol ac anuniongyrchol (er enghraifft, gallai elusen ymwybyddiaeth o gamblo ystyried elw o gamblo yn wrthdaro uniongyrchol, tra bo’r argyfwng hinsawdd yn wrthdaro anuniongyrchol a fydd yn effeithio ar allu’r elusen i hyrwyddo ei dibenion yn y dyfodol)
- ymddiriedolwyr a staff gydag ystod eang o brofiad yn trafod y diwydiannau neu’r sector hynny a allai achosi gwrthdaro
- meysydd allweddol y mae elusennau eraill wedi ystyried eu cyfyngu neu eu heithrio o’u buddsoddiadau, er enghraifft: alcohol; profi anifeiliaid; arfau; gweithgareddau sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd neu golli bioamrywiaeth; gamblo; torri hawliau dynol; safonau llafur; pornograffi; tybaco
- gofyn i reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi’r elusen am restr o’r diwydiannau a’r sectorau y mae’r cwmnïau ym mhortffolio cyfredol yr elusen yn gweithredu ynddynt, ac unrhyw sgorio ESG mewnol neu allanol y maen nhw’n eu defnyddio i ganfod diwydiannau neu gwmnïau a allai fod yn beryglus
Rhaid i drafodaethau ganolbwyntio ar ddibenion yr elusen a rhaid i ymddiriedolwyr beidio â chaniatáu i gymhellion, barn neu fuddiannau personol effeithio ar y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud. Mae rhai buddsoddiadau’n peri risg ariannol heb wrthdaro â dibenion yr elusen.
3. Cynnal ymarfer cydbwyso - Nododd dyfarniad cyfreithiol Butler Sloss ‘pan mae penderfyniadau anodd i’w gwneud sy’n ymwneud â gwrthdaro posibl neu niwed i enw da, mae angen i’r ymddiriedolwyr arfer barn dda drwy gydbwyso’r holl ffactorau perthnasol, yn enwedig maint y gwrthdaro posibl yn erbyn y risg o niwed ariannol.'
- i ganfod tebygolrwydd a difrifoldeb y gwrthdaro posibl. Gallai hyn gynnwys trafodaeth o’r bwrdd ymddiriedolwyr, gyda staff a rhanddeiliaid; clywed gan arbenigwyr neu ystyried safbwyntiau gwahanol. Efallai y bydd anghytuno a phenderfyniadau anodd, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y rhain yn cael eu rheoli fel bod pob llais yn cael ei glywed.
- b) defnyddio arbenigedd eich bwrdd/pwyllgor, eich rheolwr/cynghorydd buddsoddi, ac os oes angen arbenigwyr allanol, i ganfod pa mor debygol a difrifol yw unrhyw effaith ariannol bosibl sy’n deillio o eithrio neu gyfyngu ar fuddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion yr elusen. Rhaid i’r rheini sy’n darparu arbenigedd mewn perthynas â’r effeithiau ariannol allu dangos tystiolaeth o’r effeithiau ariannol mewn ffordd y gall y bwrdd ymddiriedolwyr cyfan ei deall. Gallai’r effeithiau ariannol gynnwys cynnydd neu ostyngiad mewn anwadalrwydd, neu newid i’r elwau posibl (incwm neu enillion cyfalaf). Dylid ystyried effeithiau ariannol dros gyfnod priodol o amser, er enghraifft, gorwel amser byrrach i elusennau ag ychydig iawn o arian wrth gefn neu orwel amser hirdymor i elusennau â gwaddol ac sy’n bwriadu bodoli dros gyfnod mwy hirdymor.
4. Cydbwyso’r gwrthdaro posibl â’r effaith ariannol a phenderfynu pa wrthdaro â dibenion y mae angen ei osgoi neu ei reoli. Dylid cofnodi hyn yn y polisi buddsoddi.
Sefydliad Friends Provident (rhif elusen 1087053)
Ymddiriedolaeth Barrow Cadbury (rhif elusen 1115476)
Sefydliad Guy's & St Thomas' (rhif elusen 1160316) Investment and Property
Mae strategaeth Asthma + Lung UK (rhif elusen 326730) yn cynnwys ymrwymiad i frwydro dros aer glân i bawb, lle bynnag y mae unigolyn yn byw neu’n cael ei eni yn y DU. Buddsoddiadau cydnabyddedig fel y maes lle gallai’r elusen wneud y gostyngiadau mwyaf yn ei hôl troed carbon, a nodi cynllun i symud buddsoddiadau a chyfraniadau blynyddol yr elusen i bensiynau staff allan o danwydd ffosil lle bynnag y bo modd.
Worldwide Fund for Nature (rhif elusen: 1081247) Mae Adroddiad Blynyddol 2022/23 yn nodi mai ‘polisi buddsoddi WWF-UK yw cynnal gwerth gwirioneddol ein buddsoddiadau a chynyddu incwm drwy bortffolio amrywiol sy’n cyd-fynd â phwerau a dyletswyddau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr. Mae hyn yn cael ei ategu gan ein polisi buddsoddi cymdeithasol gyfrifol, sy’n hyrwyddo egwyddorion datblygu cynaliadwy a gwelliannau i’r amgylchedd ac fe’i cynlluniwyd i sicrhau nad oes unrhyw gysylltiad â buddsoddiadau a allai fod yn anghyson â’n cenhadaeth a’n hamcanion. Mae amrywiaeth fawr o fuddsoddiadau posibl yn cael eu heithrio ar y sail hon, gan gynnwys unrhyw fuddsoddiadau yn y diwydiant tanwydd ffosil, y diwydiant echdynnu neu’r sector hedfan, gan hefyd ystyried meini prawf buddsoddi cadarnhaol, cymdeithasol gyfrifol, amgylcheddol a llywodraethol. Mae’r holl fuddsoddiadau tegwch yn cael eu sgrinio i sicrhau bod y portffolio’n cydymffurfio â’n polisi buddsoddi.’
Ymddiriedolaeth New Cross Gate (rhif elusen: 1118010)
‘Polisi Gosod: Mae Ymddiriedolaeth New Cross Gate yn ariannu cyfran sylweddol o’i gweithgareddau elusennol a chefnogaeth i grwpiau cymunedol lleol eraill drwy ddefnyddio incwm sy’n cael ei gynhyrchu o nifer o eiddo preswyl a masnachol. Prynwyd yr eiddo gan gynllun y Fargen Newydd i Gymunedau y Llywodraeth Ganolog (2001-2011) a throsglwyddwyd yr asedau i’r Ymddiriedolaeth yn 2013 ar y ddealltwriaeth y byddem ni’n defnyddio’r incwm rhent o’r eiddo i gefnogi ein hamcanion elusennol.
Yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, diben y buddsoddiadau hyn yw sicrhau’r enillion ariannol gorau i’r Ymddiriedolaeth. Byddwn ni’n cydymffurfio â’r gofyniad hwn gan sicrhau ar yr un pryd bod y busnesau sy’n defnyddio ein heiddo masnachol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion elusennol. Byddwn ni’n annog tenantiaid sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal; yn esthetig, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ni fyddwn yn prydlesu ein heiddo masnachol i fusnesau y mae eu gweithgareddau’n groes i gyflawni’r amcanion hyn, er enghraifft bwcis neu gwmnïau benthyciadau tymor byr. Ar gyfer ein heiddo preswyl, byddwn ni’n landlord da, yn darparu gwasanaeth ymatebol i’n tenantiaid ac yn darparu eiddo diogel, wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, deiliadaeth sefydlog a rhent teg iddynt.’
Mae canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau yn cadarnhau bod "Os byddwch yn nodi y gallai buddsoddiad (cyfredol neu arfaethedig) wrthdaro â dibenion eich elusen...mae hyn yn ffactor perthnasol ar gyfer eich penderfyniad...Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen."
Ymddiriedolwyr yn pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys maint y gwrthdaro ac unrhyw effaith ariannol sy’n deillio o’r sylw a roddir i’r gwrthdaro hwnnw.
Pan fydd ymddiriedolwyr, a’r staff sy’n gweithio gyda nhw, wedi gwneud ymarferiad sy’n nodi ac yn ystyried achosion o wrthdaro rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau (fel yr argymhellwyd ac yr edrychwyd arnynt uchod), ac wedi nodi y gallai buddsoddiad wrthdaro â dibenion yr elusen, mae CC14 yn nodi:
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen.
Mae CC14 hefyd yn nodi:
- Mae’r gyfraith yn dweud mai chi sydd i benderfynu os ydych am wneud y buddsoddiad neu beidio, gan weithredu yn unol â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr, a chydbwyso’r canlynol:
- yr holl ffactorau sy’n berthnasol i amgylchiadau a phenderfyniadau buddsoddi eich elusen
- maint unrhyw wrthdaro posibl a pha mor debygol a difrifol ydyw
- unrhyw effaith ariannol bosibl o benderfyniad i eithrio’r buddsoddiad a pha mor debygol a difrifol yw hyn
Yn nyfarniad cyfreithiol Butler Sloss o 2022, nododd y barnwr yr hyn a gredai, yn ei farn ef, “oedd y gyfraith o ran ymddiriedolwyr elusennau a oedd yn ystyried ystyriaethau anariannol wrth ymarfer eu pwerau buddsoddi":
- Mae pwerau buddsoddi ymddiriedolwyr yn deillio o’r weithred ymddiriedolaeth neu’r offerynnau llywodraethu (os oes rhai) a Deddf Ymddiriedolwyr 2000.
- Prif ddyletswydd drosfwaol ymddiriedolwyr elusennau yw datblygu dibenion yr ymddiriedolaeth. Rhaid ymarfer y pŵer buddsoddi felly er mwyn datblygu’r dibenion elusennol.
- Fel arfer, cyflawnir hyn drwy gael cymaint â phosibl o elwau ariannol ar y buddsoddiadau sy’n cael eu gwneud; mae’r meini prawf buddsoddi safonol a nodir yn adran 4 Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn gofyn i ymddiriedolwyr ystyried pa mor addas yw’r buddsoddiad a’r angen am amrywiaeth; trwy gadw at y meini prawf hynny a chymryd cyngor priodol, bydd yr elwau ariannol gorau yn cael eu hennill ar lefel risg briodol er budd yr elusen a’i dibenion.
- Gwneir buddsoddiadau neu effaith gymdeithasol neu fuddsoddiadau sy’n ymwneud â rhaglenni gan ddefnyddio pwerau ar wahân i bwerau buddsoddi yn unig.
- Pan waherddir buddsoddiadau penodol rhag cael eu gwneud gan yr ymddiriedolwyr o dan y weithred ymddiriedolaeth neu offeryn llywodraethu, ni allant gael eu gwneud.
- Ond pan fydd ymddiriedolwyr yn credu’n rhesymol y gallai buddsoddiadau penodol neu ddosbarthiadau penodol o fuddsoddiadau wrthdaro â’r dibenion elusennol, gall ymddiriedolwyr ddefnyddio’u doethineb i bennu a ddylid hepgor buddsoddiadau o’r fath a dylent ymarfer y doethineb hwnnw trwy bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol yn rhesymol, ac yn benodol, tebygolrwydd a difrifoldeb y gwrthdaro posibl a thebygolrwydd a difrifoldeb unrhyw effaith ariannol posibl yn sgil hepgor buddsoddiadau o’r fath.
- Wrth ystyried yr effaith ariannol o wneud neu hepgor buddsoddiadau penodol, gall yr ymddiriedolwyr ystyried y risg o golli cefnogaeth rhoddwyr a’r niwed i enw da’r elusen yn gyffredinol, yn arbennig ymhlith ei buddiolwyr.
- Fodd bynnag, mae angen i ymddiriedolwyr fod yn ofalus o ran gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiadau ar sail foesol yn unig, gan gydnabod y gallai fod gan gefnogwyr a buddiolwyr yr elusen wahanol safbwyntiau moesol dilys ar faterion penodol.
- Yn y bôn, mae angen i ymddiriedolwyr ymddwyn yn onest, yn rhesymol (gan gymryd pob gofal a sgil) ac yn gyfrifol wrth lunio polisi buddsoddi priodol ar gyfer yr elusen sydd er pennaf fudd yr elusen a’i dibenion. Pan fydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynghylch achosion posibl o wrthdaro neu niwed i enw da, bydd angen i’r ymddiriedolwyr ddefnyddio’u doethineb drwy bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, yn enwedig maint y gwrthdaro posibl yn erbyn y risg o anfantais ariannol.
- Os bydd yr ymarferiad pwyso a mesur hwnnw wedi’i wneud yn briodol a, chan hynny, bod polisi buddsoddi rhesymol a chymesur wedi’i fabwysiadu, bydd yr ymddiriedolwyr wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol mewn modd na ellir ei feirniadu, hyd yn oed os bydd y llys neu ymddiriedolwyr eraill yn dod i gasgliad gwahanol.
Lle nodwyd gwrthdaro a phenderfynwyd bod angen ei osgoi neu ei reoli, bydd yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi a byddan nhw’n gweithredu arno. Mae unrhyw wrthdaro sy’n bodoli yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n gymesur â maint yr elusen a natur buddsoddiadau’r elusen.
Mae dulliau ar gyfer osgoi neu reoli gwrthdaro yn cynnwys:
- gwaredu (gwerthu’r holl fuddsoddiadau sy’n eiddo i chi ar hyn o bryd) ac osgoi buddsoddiadau yn y dyfodol mewn cwmni, diwydiant neu sector penodol
- cyfyngu ar fuddsoddiad mewn diwydiant neu sector penodol, er enghraifft cyfyngu ar ganran y refeniw neu elw y gall cwmni ei gael o’r maes sy’n gwrthdaro, neu gyfyngu buddsoddiadau mewn cronfa i ganran o ddiwydiant neu sector penodol
- defnyddio dulliau buddsoddi cyfrifol Welsh i geisio osgoi neu reoli gwrthdaro.
Dylid nodi’r gwrthdaro, ac unrhyw gyfyngiadau, yn y polisi buddsoddi a’i drafod gyda chynghorwyr a rheolwyr buddsoddi.
Gall sut ac i ba raddau y mae modd osgoi neu reoli gwrthdaro ddibynnu ar faint asedau’r elusen a natur ei buddsoddiadau. Er enghraifft, yn achos cyfrif banc neu gronfa gyfun bydd yr elusen yn dewis rhwng gwahanol ddarparwyr sydd â chyfyngiadau presennol ar waith a gallai wedyn ddewis y cyfrif banc neu’r gronfa gyfun sydd fwyaf cydnaws ag angen yr elusen i osgoi neu reoli gwrthdaro. Ar gyfer elusennau sydd â phortffolios pwrpasol, mae modd teilwra’r portffolio i amgylchiadau penodol yr elusen.
Gweler hefyd yr adran buddsoddiadau cyfrifol ac enghreifftiau o bolisïau buddsoddi sy’n osgoi gwrthdaro â dibenion.
Risgiau o ran enw da
Mae ystod eang o ymddiriedolwyr a staff yn gysylltiedig â nodi ac ystyried risgiau posibl i enw da’r elusen yn sgil buddsoddiadau arbennig, gan gynnwys y rheini ag arbenigedd mewn safbwyntiau rhanddeiliaid gwahanol.
Gallai risgiau i enw da ddeillio o
- gwrthdaro â dibenion (e.e. elusen iechyd yn buddsoddi mewn tybaco; elusen cyfiawnder cymdeithasol yn buddsoddi mewn benthyca rheibus)
- pryderon rhoddwyr, derbynwyr grant a’r cyhoedd yn gyffredinol am ddiwydiannau penodol (e.e. arfau annetholus, tywod tar, pornograffi)
- effeithiau negyddol y buddsoddiadau (e.e. cwmnïau sy’n achosi niwed i gymunedau lleol neu natur)
Mae'r bwrdd ymddiriedolwyr llawn, sy’n cael ei gefnogi gan staff, ac aelodau pwyllgor, yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio a chanfod risgiau posibl i enw da. Gallai’r pwyntiau cychwyn ar gyfer trafodaeth gynnwys y canlynol:
- barn neu ymateb disgwyliedig rhanddeiliaid, a allai gynnwys rhoddwyr, defnyddwyr gwasanaeth a derbynwyr grant
- ymddiriedolwyr a staff gydag ystod eang o brofiad yn trafod y diwydiannau neu’r sector hynny a allai achosi risg i enw da
- meysydd allweddol y mae elusennau eraill wedi ystyried eu cyfyngu neu eu heithrio o’u buddsoddiadau, er enghraifft: alcohol; profi anifeiliaid; arfau; gweithgareddau sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd neu golli bioamrywiaeth; gamblo; torri hawliau dynol; safonau llafur; pornograffi; tybaco
- gofyn i reolwr buddsoddi or gynghorydd buddsoddi’r elusen am restr o’r diwydiannau a’r sectorau y mae’r cwmnïau ym mhortffolio cyfredol yr elusen yn gweithredu ynddynt, ac unrhyw sgorio ESG mewnol neu allanol y maen nhw’n eu defnyddio i ganfod diwydiannau neu gwmnïau a allai fod yn beryglus
2. Cynnal ymarfer cydbwyso - Nododd dyfarniad cyfreithiol Butler Sloss ‘pan mae penderfyniadau anodd i’w gwneud sy’n ymwneud â gwrthdaro posibl neu niwed i enw da, mae angen i’r ymddiriedolwyr arfer barn dda drwy gydbwyso’r holl ffactorau perthnasol, yn enwedig maint y gwrthdaro posibl yn erbyn y risg o niwed ariannol.'
- i ganfod tebygolrwydd a difrifoldeb y risg i enw da. Gallai hyn gynnwys trafodaeth o’r bwrdd ymddiriedolwyr, gyda staff a rhanddeiliaid; clywed gan arbenigwyr neu ystyried safbwyntiau gwahanol. Efallai y bydd anghytuno a phenderfyniadau anodd, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y rhain yn cael eu rheoli fel bod pob llais yn cael ei glywed.
- defnyddio arbenigedd eich bwrdd/pwyllgor, eich rheolwr/cynghorydd buddsoddi, ac os oes angen arbenigwyr allanol, i ganfod pa mor debygol a difrifol yw unrhyw effaith ariannol bosibl sy’n deillio o eithrio neu gyfyngu ar fuddsoddiadau sy’n achosi risg i enw da. Rhaid i’r rheini sy’n darparu arbenigedd mewn perthynas â’r effeithiau ariannol allu dangos tystiolaeth o’r effeithiau ariannol mewn ffordd y gall y bwrdd ymddiriedolwyr cyfan ei deall. Gallai’r effeithiau ariannol gynnwys cynnydd neu ostyngiad mewn anwadalrwydd, neu newid i’r elwau posibl (incwm neu enillion cyfalaf). Dylid ystyried effeithiau ariannol dros gyfnod priodol o amser, er enghraifft, gorwel amser byrrach i elusennau ag ychydig iawn o arian wrth gefn neu orwel amser hirdymor i elusennau â gwaddol ac sy’n bwriadu bodoli dros gyfnod mwy hirdymor.
- dylai’r effaith ariannol oherwydd risg i enw da sy’n arwain at golli cefnogaeth gan roddwyr hefyd gael ei dadansoddi a’i hystyried.
3. Cydbwyso’r risg posibl i enw da â’r effaith ariannol a phenderfynu pa risgiau i enw da y mae angen eu hosgoi neu eu rheoli. Dylid cofnodi hyn yn y polisi buddsoddi.
Mae canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau yn cadarnhau bod: “Os byddwch yn nodi y gallai buddsoddiad (cyfredol neu arfaethedig)...neu niweidio ei henw da, mae hyn yn ffactor perthnasol ar gyfer eich penderfyniad...Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen.”
Mae ymddiriedolwyr yn pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys maint y risg i enw da ac unrhyw effaith ariannol sy’n deillio o fynd i’r afael â’r risg i enw da.
Pan fydd ymddiriedolwyr, a’r staff sy’n gweithio gyda nhw, wedi gwneud ymarferiad yn nodi ac yn ystyried y risgiau i enw da (fel yr argymhellwyd ac a edrychwyd arno uchod) ac wedi nodi y gallai buddsoddiad achosi niwed i enw da’r elusen, mae, CC14 yn nodi: "Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen."
Mae CC14 hefyd yn nodi: "Mae’r gyfraith yn dweud mai chi sydd i benderfynu os ydych am wneud y buddsoddiad neu beidio, gan weithredu yn unol â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr, a chydbwyso’r canlynol:
- yr holl ffactorau sy’n berthnasol i amgylchiadau a phenderfyniadau buddsoddi eich elusen
- maint unrhyw wrthdaro posibl a pha mor debygol a difrifol ydyw
- unrhyw effaith ariannol bosibl o benderfyniad i eithrio’r buddsoddiad a pha mor debygol a difrifol yw hyn"
Uchod, edrychir ar sut gall elusennau bwyso a mesur y ffactorau amrywiol, gan gynnwys maint y risg i enw da a’r effaith ariannol bosibl.

See Checklist in line above.
Lle nodwyd risgiau i enw da a phenderfynwyd bod angen osgoi neu reoli’r rhain, bydd y rhain yn cael eu cofnodi yn y polisi buddsoddi a byddan nhw’n gweithredu arnynt. Mae’r risgiau hyn yn cael eu nodi a’u rheoli mewn ffordd sy’n gymesur â maint yr elusen a natur buddsoddiadau’r elusen.
Mae dulliau ar gyfer osgoi neu reoli risg i enw da yn cynnwys:
- gwaredu (gwerthu’r holl fuddsoddiadau sy’n eiddo i chi ar hyn o bryd) ac osgoi buddsoddiadau yn y dyfodol mewn cwmni, diwydiant neu sector penodol
- cyfyngu ar fuddsoddiad mewn diwydiant neu sector penodol, er enghraifft cyfyngu ar ganran y refeniw neu elw y gall cwmni ei gael o’r maes risg, neu gyfyngu buddsoddiadau mewn cronfa i ganran o ddiwydiant neu sector penodol
- defnyddio dulliau buddsoddi cyfrifol i geisio osgoi neu reoli risg i enw da
Dylid nodi’r risg i enw da, ac unrhyw gyfyngiadau, yn y polisi buddsoddi a’i drafod gyda chynghorwyr a rheolwyr buddsoddi.
Gall sut ac i ba raddau y mae modd osgoi neu reoli risgiau i enw da ddibynnu ar faint asedau’r elusen a natur ei buddsoddiadau. Er enghraifft, yn achos cyfrif banc neu gronfa gyfun, bydd yr elusen yn dewis rhwng gwahanol ddarparwyr sydd â chyfyngiadau presennol ar waith a gallai wedyn ddewis y cyfrif banc neu’r gronfa gyfun sydd fwyaf cydnaws ag angen yr elusen i osgoi neu reoli risgiau i enw da. Ar gyfer elusennau sydd â phortffolios pwrpasol, mae modd teilwra’r portffolio i amgylchiadau penodol yr elusen.
Gweler hefyd yr adran buddsoddiadau cyfrifol ac enghreifftiau o bolisïau buddsoddi sy’n osgoi gwrthdaro â dibenion a chyfrif banc.
Dylanwad
Ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor:
- deall sut gall buddsoddiadau ddarparu cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth a dylanwad
Er bod cyfleoedd i elusennau o bob maint ddefnyddio eu llais a’u dewisiadau, fel arfer bydd mwy o gyfleoedd ar gael i’r elusennau hynny sydd ag asedau sylweddol.
Ar gyfer elusennau sydd ag asedau sylweddol, sy’n cael eu cadw mewn cronfeydd cyfun neu bortffolio pwrpasol – gweler buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol – arweinyddiaeth a dylanwad.
Ar gyfer elusennau sydd â chronfeydd mewn cyfrif banc, gweler ‘elusennau sy’n buddsoddi arian parod yn bennaf’ am fwy o gyfleoedd i gyd-fynd â dibenion yr elusen.
- ystyried cyfleoedd i hyrwyddo dibenion yr elusen drwy weithredu ar y cyd ar fuddsoddiadau; gweithio gydag elusennau eraill, llywodraeth, mudiadau diben cymdeithasol a’r sector preifat
Ar gyfer elusennau sydd ag asedau sylweddol, sy’n cael eu cadw mewn cronfeydd cyfun neu bortffolio pwrpasol - gweler buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol - gweithredu ar y cyd.
- yn ymwybodol o gydweithrediadau a mentrau y mae rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen yn cymryd rhan ynddynt, sut mae’r rhain yn ymwneud â dibenion yr elusen a budd y cyhoedd yn fwy cyffredinol a chanlyniadau’r camau a gymerwyd
- penderfynu a chofnodi pa ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n gyfrifol am ymrwymo i gymryd rhan mewn mentrau buddsoddi cyfrifol
Gwrthdaro rhwng buddiannau
Mae gwrthdaro posibl a gwirioneddol rhwng buddiannau mewn perthynas â buddsoddiadau yn dod o dan bolisi datgelu’r elusen. Mae hyn yn cynnwys nodi, rheoli a chofnodi gwrthdaro rhwng buddiannau.
Dylid gofyn i ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor ddatgelu os oes unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau. Dylai unrhyw wrthdaro sy’n cael ei ddatgelu gael ei gofnodi a’i drin yn unol â pholisi gwrthdaro rhwng buddiannau a dogfen lywodraethu’r elusen lle bo hynny’n berthnasol.
Mae’r gwrthdaro rhwng buddiannau a allai godi a’r camau y gall yr elusen eu cymryd yn cynnwys:
Ymddiriedolwr neu aelod o bwyllgor yn meddu ar gyfranddaliadau sylweddol sy’n gorgyffwrdd â’r elusen. Gallai hyn fod ar hap, neu oherwydd bod ymddiriedolwr/aelod o’r pwyllgor wedi rhoi cyfranddaliadau i’r elusen.
Camau gweithredu posibl:
- mae’r gorgyffwrdd yn cael ei gydnabod cyn unrhyw drafodaethau sy’n ymwneud â chyfranddaliadau’r elusen a’i gofnodi yn y cofnodion
- mae ymddiriedolwyr yn sicrhau bod digon o amrywiaeth ymysg aelodau’r bwrdd/pwyllgor fel na all yr unigolyn sydd â’r gorgyffwrdd ddylanwadu’n ormodol ar drafodaethau
- mae ymddiriedolwyr yn ystyried a oes angen i’r unigolyn fod yn absennol o drafodaethau
- mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn ystyried a ddylid cadw neu werthu’r cyfranddaliadau ar gyfer arallgyfeirio neu osgoi gwrthdaro rhwng buddiannau ac a yw hyn yn ateb dibenion yr elusen orau
Mae ymddiriedolwyr/aelodau pwyllgor yn cael eu cyflogi neu wedi cael eu cyflogi’n flaenorol gan ddarparwr proffesiynol proffesiynol sy’n cael ei ddefnyddio gan yr elusen, neu’n defnyddio’r darparwr proffesiynol hwnnw ar gyfer eu materion personol neu fusnes
Camau gweithredu posibl:
- mae’r berthynas yn cael ei hailadrodd cyn unrhyw drafodaethau sy’n ymwneud â'r darparwr proffesiynol, yn enwedig mewn sgyrsiau sy’n ymwneud â pherfformiad, ffioedd neu adnewyddu contract y darparwr proffesiynol
Mae ymddiriedolwyr/aelodau pwyllgor yn cael eu cyflogi gan gystadleuydd i’r darparwyr proffesiynol (e.e. rheolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi) sy’n cael eu defnyddio gan yr elusen
Camau gweithredu posibl:
- ymrwymo i gyfrinachedd, peidio â rhannu unrhyw wybodaeth a gafwyd yng nghyd-destun yr elusen gyda’u cyflogwr neu eu cydweithwyr
- tynnu eu hunain yn ôl o benderfyniadau lle mae gwrthdaro
Cael cyngor gan ymddiriedolwr/aelod pwyllgor sydd ag arbenigedd proffesiynol
Camau gweithredu posibl:
- penderfynu a yw’r ymddiriedolwr/aelod pwyllgor yn debygol o gael budd (ariannol neu fel arall) o roi cyngor i’r elusen ac effaith y budd hwnnw
Wrth dderbyn cyngor gan ddarparwr proffesiynol fe rheolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi
Camau gweithredu posibl:
- sicrhau bod digon o oruchwyliaeth gan ymddiriedolwyr/pwyllgorau i bennu ansawdd ac addasrwydd y cyngor (gweler Egwyddor 4)
- sicrhau bod gorwel amser a dull buddsoddi’r elusen yn cael eu dewis i gyflawni dibenion yr elusen yn y ffordd orau yn hytrach na bod o fudd i’r darparwr proffesiynol yn fasnachol
lletygarwch neu fuddion eraill sy’n cael eu derbyn gan y rheini sy’n derbyn ffioedd mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen (e.e. rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi)
Camau gweithredu posibl:
- cofrestr lletygarwch a buddion, gyda therfynau sy’n cael eu caniatâu
Y Comisiwn Elusennau – rheoli gwrthdaro rhwng buddiannau mewn elusen
Os yw’r elusen yn ystyried buddsoddi mewn cwmni sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolwr, mae’r elusen yn dilyn canllawiau’r Comisiwn Elusennau.
Budd preifat
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn ymwybodol o ble y gallai budd preifat ddigwydd mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen ac yn defnyddio eu barn i benderfynu a yw unrhyw fudd preifat yn:
- achlysurol
- angenrheidiol yn yr amgylchiadau
- yn rhesymol o ran maint
- er budd gorau’r elusen
Yn ôl canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau:
'Mae’n rhaid i ddibenion elusen fod er budd y cyhoedd.
Fodd bynnag, weithiau, gall y ffordd orau i elusen helpu ei fuddiolwyr olygu bod unigolion neu sefydliadau yn cael budd preifat.
Mae budd preifat yn golygu unrhyw fuddion y mae person neu sefydliad yn eu cael gan eich elusen. Mae budd preifat yn ‘achlysurol’ os yw (gan ystyried ei natur a’i swm) yn ganlyniad neu’n sgil-gynnyrch angenrheidiol i gyflawni dibenion eich elusen.
Gall buddsoddiad y mae eich elusen yn gwneud gynnwys rhywfaint o fudd preifat i eraill, megis perchnogion busnes neu fuddsoddwyr eraill. Mae hyn yn dderbyniol os ydych yn fodlon fod pob un o’r canlynol yn berthnasol i’r budd preifat. Mae’n:
- ddim mwy nag achlysurol
- angenrheidiol dan yr amgylchiadau
- yn rhesymol o ran swm
- er budd pennaf eich elusen
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio eich barn i benderfynu os yw unrhyw fudd preifat o fuddsoddiad y mae eich elusen yn ei wneud yn dderbyniol, a gweithredu er budd pennaf eich elusen bob amser."
Mae achosion lle gallai budd preifat ddigwydd wrth wneud buddsoddiadau ariannol yn cynnwys y canlynol:
- talu i ymddiriedolwr am gyngor ar fuddsoddi neu reoli buddsoddiadau.
- gwneud buddsoddiad lle gallai ymddiriedolwr/aelod pwyllgor/aelod o staff elwa o’r buddsoddiad hwnnw (er enghraifft buddsoddi mewn cwmni sy’n eiddo i’r ymddiriedolwr/aelod pwyllgor/aelod o staff neu unigolyn sydd â chysylltiad agos â nhw)
Dylid ystyried y canlynol
- p’un ai yw unrhyw daliadau yn cael eu hawdurdodi gan y ddogfen lywodraethu a sut
- os yw hyn er budd gorau’r mudiad
- sut byddai unrhyw fudd personol posibl yn uniongyrchol gysylltiedig â’r mudiad yn cyflawni ei bwrpas er budd y cyhoedd
Mae achosion lle gallai budd preifat ddigwydd wrth wneud buddsoddiadau cymdeithasol yn cynnwys y canlynol:
- cydfuddsoddi gan elusen ac ymddiriedolwr/aelod pwyllgor
- buddsoddi’n gynnar gyda’r potensial ar gyfer budd preifat sylweddol mewn rowndiau diweddarach
- sybsideiddio’r budd preifat a gronnwyd i fuddsoddwyr eraill
Ymddiriedolaeth Barrow Cadbury ar fuddsoddi mewn cwmnïau anelusennol
Cywirdeb
Gosod dibenion yr elusen ar y blaen wrth wneud penderfyniadau o ran buddsoddiadau
Mae ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor yn cael eu harwain yn llwyr gan fuddiannau’r elusen ac nid ydyn nhw’n caniatáu i gymhellion, barn na buddiannau personol effeithio ar y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen.
Mae gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth ar y cyd o ddibenion yr elusen. Mae ymddiriedolwyr hefyd yn deall bod buddsoddiadau’n arf i gyflawni’r dibenion a sut gallai buddsoddiadau hyrwyddo neu weithredu yn erbyn dibenion yr elusen. Mae hyn yn cael ei gofnodi hyn ym mholisi buddsoddi’r elusen.
Dibenion elusen yw’r hyn y mae wedi’i sefydlu i’w gyflawni. Bydd y dibenion wedi’u rhestr yn nogfen lywodraethu’r.
I’r mwyafrif o elusennau, bydd buddsoddiadau yn canolbwyntio ar fuddsoddi arian wrth gefn yr elusen (mae hyn yn cynnwys arian a gedwir mewn cyfrif banc a’r pethau a gedwir mewn portffolio buddsoddi) neu arian a gedwir at brosiect penodol.
I rai elusennau, yn enwedig y rheini â gwaddol neu arian sylweddol wrth gefn, bydd buddsoddiadau hefyd yn darparu enillion ariannol (incwm neu dwf cyfalaf) i gyllido gweithgareddau’r elusen.
Gellir hefyd ddefnyddio buddsoddiadau i ddatblygu dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft, drwy fuddsoddiad cyfrifol, effaith neu gymdeithasol.
Dylai pob ymddiriedolwyr gael dealltwriaeth a rennir o ddibenion yr elusen a sut mae’r elusen yn bwriadu cyflawni’r dibenion hynny drwy ei gwaith, ac yn ei dro, sut mae unrhyw fuddsoddiadau sydd gan yr elusen yn helpu i gyflawni’r dibenion.
Mae ymddiriedolwyr a staff yn deall sut mae’r dewis o unigolion sy’n ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi yn effeithio ar y ffordd y mae dibenion yr elusen yn cael eu rhoi ar y blaen.
Gan gydnabod bod y cyfrifoldeb cyfreithiol dros fuddsoddiadau’r elusen yn gorwedd gyda’r bwrdd ymddiriedolwyr yn ei gyfanrwydd, mae ymddiriedolwyr a staff yn archwilio ac yn gweithredu dulliau i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi’r elusen yn gynhwysol ac yn cynnwys y rhai sydd ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad, nid dim ond cyllid a buddsoddiadau.
Mae ystod eang o unigolion ymysg yr ymddiriedolwyr a’r staff sy’n ymwneud â’r canlynol:
- penderfynu sut bydd buddsoddiadau’n hyrwyddo dibenion yr elusen
- archwilio gwrthdaro â’r dibenion
- archwilio risgiau i enw da
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio i’r dulliau y mae buddsoddiadau yn hyrwyddo dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft drwy ddulliau buddsoddi cymdeithasol, buddsoddi effaith neu fuddsoddi cyfrifol.
Buddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion yr elusen
Mae amrywiaeth eang o ymddiriedolwyr a staff sy’n ymwneud â chanfod ac ystyried gwrthdaro rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau, gan gynnwys y rheini sydd ag arbenigedd yn nibenion yr elusen.
1. Y dibenion fel y maen nhw yn nogfen llywodraethu’r lywodraethu elusen. Dylai’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn archwilio’r rhain er mwyn sicrhau eglurder a dealltwriaeth ar y cyd.
2. Mae’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn, sy’n cael ei gefnogi gan staff ac aelodau pwyllgor, yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio a chanfod gwrthdaro posibl. Gallai’r pwyntiau cychwyn ar gyfer trafodaeth gynnwys y canlynol:
- yr ymddiriedolwyr neu’r staff hynny sydd ag arbenigedd penodol nibenion yr elusen: (er enghraifft ymddiriedolwr sydd â chefndir mewn ymchwil mewn elusen iechyd) yn cynnig diwydiannau neu sectorau penodol a allai achosi gwrthdaro
- ystyried gwrthdaro uniongyrchol ac anuniongyrchol (er enghraifft, gallai elusen ymwybyddiaeth o gamblo ystyried elw o gamblo yn wrthdaro uniongyrchol, tra bo’r argyfwng hinsawdd yn wrthdaro anuniongyrchol a fydd yn effeithio ar allu’r elusen i hyrwyddo ei dibenion yn y dyfodol)
- ymddiriedolwyr a staff gydag ystod eang o brofiad yn trafod y diwydiannau neu’r sector hynny a allai achosi gwrthdaro
- meysydd allweddol y mae elusennau eraill wedi ystyried eu cyfyngu neu eu heithrio o’u buddsoddiadau, er enghraifft: alcohol; profi anifeiliaid; arfau; gweithgareddau sy’n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd neu golli bioamrywiaeth; gamblo; torri hawliau dynol; safonau llafur; pornograffi; tybaco
- gofyn i reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi’r elusen am restr o’r diwydiannau a’r sectorau y mae’r cwmnïau ym mhortffolio cyfredol yr elusen yn gweithredu ynddynt, ac unrhyw sgorio ESG mewnol neu allanol y maen nhw’n eu defnyddio i ganfod diwydiannau neu gwmnïau a allai fod yn beryglus
Rhaid i drafodaethau ganolbwyntio ar ddibenion yr elusen a rhaid i ymddiriedolwyr beidio â chaniatáu i gymhellion, barn neu fuddiannau personol effeithio ar y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud. Mae rhai buddsoddiadau’n peri risg ariannol heb wrthdaro â dibenion yr elusen.
3. Cynnal ymarfer cydbwyso - Nododd dyfarniad cyfreithiol Butler Sloss ‘pan mae penderfyniadau anodd i’w gwneud sy’n ymwneud â gwrthdaro posibl neu niwed i enw da, mae angen i’r ymddiriedolwyr arfer barn dda drwy gydbwyso’r holl ffactorau perthnasol, yn enwedig maint y gwrthdaro posibl yn erbyn y risg o niwed ariannol.'
- i ganfod tebygolrwydd a difrifoldeb y gwrthdaro posibl. Gallai hyn gynnwys trafodaeth o’r bwrdd ymddiriedolwyr, gyda staff a rhanddeiliaid; clywed gan arbenigwyr neu ystyried safbwyntiau gwahanol. Efallai y bydd anghytuno a phenderfyniadau anodd, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y rhain yn cael eu rheoli fel bod pob llais yn cael ei glywed.
- defnyddio arbenigedd eich bwrdd/pwyllgor, eich rheolwr/cynghorydd buddsoddi, ac os oes angen arbenigwyr allanol, i ganfod pa mor debygol a difrifol yw unrhyw effaith ariannol bosibl sy’n deillio o eithrio neu gyfyngu ar fuddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion yr elusen. Rhaid i’r rheini sy’n darparu arbenigedd mewn perthynas â’r effeithiau ariannol allu dangos tystiolaeth o’r effeithiau ariannol mewn ffordd y gall y bwrdd ymddiriedolwyr cyfan ei deall. Gallai’r effeithiau ariannol gynnwys cynnydd neu ostyngiad mewn anwadalrwydd, neu newid i’r elwau posibl (incwm neu enillion cyfalaf). Dylid ystyried effeithiau ariannol dros gyfnod priodol o amser, er enghraifft, gorwel amser byrrach i elusennau ag ychydig iawn o arian wrth gefn neu orwel amser hirdymor i elusennau â gwaddol ac sy’n bwriadu bodoli dros gyfnod mwy hirdymor.
4. Cydbwyso’r gwrthdaro posibl â’r effaith ariannol a phenderfynu pa wrthdaro â dibenion y mae angen ei osgoi neu ei reoli. Dylid cofnodi hyn yn y polisi buddsoddi.
Sefydliad Friends Provident (rhif elusen 1087053)
Ymddiriedolaeth Barrow Cadbury (rhif elusen 1115476)
Sefydliad Guy's & St Thomas' (rhif elusen 1160316) Investment and Property
Mae strategaeth Asthma + Lung UK (rhif elusen 326730) yn cynnwys ymrwymiad i frwydro dros aer glân i bawb, lle bynnag y mae unigolyn yn byw neu’n cael ei eni yn y DU. Buddsoddiadau cydnabyddedig fel y maes lle gallai’r elusen wneud y gostyngiadau mwyaf yn ei hôl troed carbon, a nodi cynllun i symud buddsoddiadau a chyfraniadau blynyddol yr elusen i bensiynau staff allan o danwydd ffosil lle bynnag y bo modd.
Worldwide Fund for Nature (rhif elusen: 1081247) Mae Adroddiad Blynyddol 2022/23 yn nodi mai ‘polisi buddsoddi WWF-UK yw cynnal gwerth gwirioneddol ein buddsoddiadau a chynyddu incwm drwy bortffolio amrywiol sy’n cyd-fynd â phwerau a dyletswyddau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr. Mae hyn yn cael ei ategu gan ein polisi buddsoddi cymdeithasol gyfrifol, sy’n hyrwyddo egwyddorion datblygu cynaliadwy a gwelliannau i’r amgylchedd ac fe’i cynlluniwyd i sicrhau nad oes unrhyw gysylltiad â buddsoddiadau a allai fod yn anghyson â’n cenhadaeth a’n hamcanion. Mae amrywiaeth fawr o fuddsoddiadau posibl yn cael eu heithrio ar y sail hon, gan gynnwys unrhyw fuddsoddiadau yn y diwydiant tanwydd ffosil, y diwydiant echdynnu neu’r sector hedfan, gan hefyd ystyried meini prawf buddsoddi cadarnhaol, cymdeithasol gyfrifol, amgylcheddol a llywodraethol. Mae’r holl fuddsoddiadau tegwch yn cael eu sgrinio i sicrhau bod y portffolio’n cydymffurfio â’n polisi buddsoddi.’
Ymddiriedolaeth New Cross Gate (rhif elusen: 1118010)
‘Polisi Gosod: Mae Ymddiriedolaeth New Cross Gate yn ariannu cyfran sylweddol o’i gweithgareddau elusennol a chefnogaeth i grwpiau cymunedol lleol eraill drwy ddefnyddio incwm sy’n cael ei gynhyrchu o nifer o eiddo preswyl a masnachol. Prynwyd yr eiddo gan gynllun y Fargen Newydd i Gymunedau y Llywodraeth Ganolog (2001-2011) a throsglwyddwyd yr asedau i’r Ymddiriedolaeth yn 2013 ar y ddealltwriaeth y byddem ni’n defnyddio’r incwm rhent o’r eiddo i gefnogi ein hamcanion elusennol.
Yn unol â chanllawiau’r Comisiwn Elusennau, diben y buddsoddiadau hyn yw sicrhau’r enillion ariannol gorau i’r Ymddiriedolaeth. Byddwn ni’n cydymffurfio â’r gofyniad hwn gan sicrhau ar yr un pryd bod y busnesau sy’n defnyddio ein heiddo masnachol yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion elusennol. Byddwn ni’n annog tenantiaid sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal; yn esthetig, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ni fyddwn yn prydlesu ein heiddo masnachol i fusnesau y mae eu gweithgareddau’n groes i gyflawni’r amcanion hyn, er enghraifft bwcis neu gwmnïau benthyciadau tymor byr. Ar gyfer ein heiddo preswyl, byddwn ni’n landlord da, yn darparu gwasanaeth ymatebol i’n tenantiaid ac yn darparu eiddo diogel, wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, deiliadaeth sefydlog a rhent teg iddynt.’
Mae canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau yn cadarnhau bod "Os byddwch yn nodi y gallai buddsoddiad (cyfredol neu arfaethedig) wrthdaro â dibenion eich elusen...mae hyn yn ffactor perthnasol ar gyfer eich penderfyniad...Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen."
Ymddiriedolwyr yn pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys maint y gwrthdaro ac unrhyw effaith ariannol sy’n deillio o’r sylw a roddir i’r gwrthdaro hwnnw.
Pan fydd ymddiriedolwyr, a’r staff sy’n gweithio gyda nhw, wedi gwneud ymarferiad sy’n nodi ac yn ystyried achosion o wrthdaro rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau (fel yr argymhellwyd ac yr edrychwyd arnynt uchod), ac wedi nodi y gallai buddsoddiad wrthdaro â dibenion yr elusen, mae CC14 yn nodi:
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae’n rhaid i chi gydbwyso’r buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i’ch elusen. Mae’n rhaid i’ch dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen.
Mae CC14 hefyd yn nodi:
- Mae’r gyfraith yn dweud mai chi sydd i benderfynu os ydych am wneud y buddsoddiad neu beidio, gan weithredu yn unol â’ch dyletswyddau fel ymddiriedolwr, a chydbwyso’r canlynol:
- yr holl ffactorau sy’n berthnasol i amgylchiadau a phenderfyniadau buddsoddi eich elusen
- maint unrhyw wrthdaro posibl a pha mor debygol a difrifol ydyw
- unrhyw effaith ariannol bosibl o benderfyniad i eithrio’r buddsoddiad a pha mor debygol a difrifol yw hyn
Yn nyfarniad cyfreithiol Butler Sloss o 2022, nododd y barnwr yr hyn a gredai, yn ei farn ef, “oedd y gyfraith o ran ymddiriedolwyr elusennau a oedd yn ystyried ystyriaethau anariannol wrth ymarfer eu pwerau buddsoddi":
- Mae pwerau buddsoddi ymddiriedolwyr yn deillio o’r weithred ymddiriedolaeth neu’r offerynnau llywodraethu (os oes rhai) a Deddf Ymddiriedolwyr 2000.
- Prif ddyletswydd drosfwaol ymddiriedolwyr elusennau yw datblygu dibenion yr ymddiriedolaeth. Rhaid ymarfer y pŵer buddsoddi felly er mwyn datblygu’r dibenion elusennol.
- Fel arfer, cyflawnir hyn drwy gael cymaint â phosibl o elwau ariannol ar y buddsoddiadau sy’n cael eu gwneud; mae’r meini prawf buddsoddi safonol a nodir yn adran 4 Deddf Ymddiriedolwyr 2000 yn gofyn i ymddiriedolwyr ystyried pa mor addas yw’r buddsoddiad a’r angen am amrywiaeth; trwy gadw at y meini prawf hynny a chymryd cyngor priodol, bydd yr elwau ariannol gorau yn cael eu hennill ar lefel risg briodol er budd yr elusen a’i dibenion.
- Gwneir buddsoddiadau neu effaith gymdeithasol neu fuddsoddiadau sy’n ymwneud â rhaglenni gan ddefnyddio pwerau ar wahân i bwerau buddsoddi yn unig.
- Pan waherddir buddsoddiadau penodol rhag cael eu gwneud gan yr ymddiriedolwyr o dan y weithred ymddiriedolaeth neu offeryn llywodraethu, ni allant gael eu gwneud.
- Ond pan fydd ymddiriedolwyr yn credu’n rhesymol y gallai buddsoddiadau penodol neu ddosbarthiadau penodol o fuddsoddiadau wrthdaro â’r dibenion elusennol, gall ymddiriedolwyr ddefnyddio’u doethineb i bennu a ddylid hepgor buddsoddiadau o’r fath a dylent ymarfer y doethineb hwnnw trwy bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol yn rhesymol, ac yn benodol, tebygolrwydd a difrifoldeb y gwrthdaro posibl a thebygolrwydd a difrifoldeb unrhyw effaith ariannol posibl yn sgil hepgor buddsoddiadau o’r fath.
- Wrth ystyried yr effaith ariannol o wneud neu hepgor buddsoddiadau penodol, gall yr ymddiriedolwyr ystyried y risg o golli cefnogaeth rhoddwyr a’r niwed i enw da’r elusen yn gyffredinol, yn arbennig ymhlith ei buddiolwyr.
- Fodd bynnag, mae angen i ymddiriedolwyr fod yn ofalus o ran gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiadau ar sail foesol yn unig, gan gydnabod y gallai fod gan gefnogwyr a buddiolwyr yr elusen wahanol safbwyntiau moesol dilys ar faterion penodol.
- Yn y bôn, mae angen i ymddiriedolwyr ymddwyn yn onest, yn rhesymol (gan gymryd pob gofal a sgil) ac yn gyfrifol wrth lunio polisi buddsoddi priodol ar gyfer yr elusen sydd er pennaf fudd yr elusen a’i dibenion. Pan fydd angen gwneud penderfyniadau anodd ynghylch achosion posibl o wrthdaro neu niwed i enw da, bydd angen i’r ymddiriedolwyr ddefnyddio’u doethineb drwy bwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol, yn enwedig maint y gwrthdaro posibl yn erbyn y risg o anfantais ariannol.
- Os bydd yr ymarferiad pwyso a mesur hwnnw wedi’i wneud yn briodol a, chan hynny, bod polisi buddsoddi rhesymol a chymesur wedi’i fabwysiadu, bydd yr ymddiriedolwyr wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau cyfreithiol mewn modd na ellir ei feirniadu, hyd yn oed os bydd y llys neu ymddiriedolwyr eraill yn dod i gasgliad gwahanol.
Lle nodwyd gwrthdaro a phenderfynwyd bod angen ei osgoi neu ei reoli, bydd yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi a byddan nhw’n gweithredu arno. Mae unrhyw wrthdaro sy’n bodoli yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n gymesur â maint yr elusen a natur buddsoddiadau’r elusen.
Mae dulliau ar gyfer osgoi neu reoli gwrthdaro yn cynnwys:
- gwaredu (gwerthu’r holl fuddsoddiadau sy’n eiddo i chi ar hyn o bryd) ac osgoi buddsoddiadau yn y dyfodol mewn cwmni, diwydiant neu sector penodol
- cyfyngu ar fuddsoddiad mewn diwydiant neu sector penodol, er enghraifft cyfyngu ar ganran y refeniw neu elw y gall cwmni ei gael o’r maes sy’n gwrthdaro, neu gyfyngu buddsoddiadau mewn cronfa i ganran o ddiwydiant neu sector penodol
- defnyddio dulliau buddsoddi cyfrifol Welsh i geisio osgoi neu reoli gwrthdaro.
Dylid nodi’r gwrthdaro, ac unrhyw gyfyngiadau, yn y polisi buddsoddi a’i drafod gyda chynghorwyr a rheolwyr buddsoddi.
Gall sut ac i ba raddau y mae modd osgoi neu reoli gwrthdaro ddibynnu ar faint asedau’r elusen a natur ei buddsoddiadau. Er enghraifft, yn achos cyfrif banc neu gronfa gyfun bydd yr elusen yn dewis rhwng gwahanol ddarparwyr sydd â chyfyngiadau presennol ar waith a gallai wedyn ddewis y cyfrif banc neu’r gronfa gyfun sydd fwyaf cydnaws ag angen yr elusen i osgoi neu reoli gwrthdaro. Ar gyfer elusennau sydd â phortffolios pwrpasol, mae modd teilwra’r portffolio i amgylchiadau penodol yr elusen.
Gweler hefyd yr adran buddsoddiadau cyfrifol ac enghreifftiau o bolisïau buddsoddi sy’n osgoi gwrthdaro â dibenion.
Risgiau o ran enw da
Mae ystod eang o ymddiriedolwyr a staff yn gysylltiedig â nodi ac ystyried risgiau posibl i enw da’r elusen yn sgil buddsoddiadau arbennig, gan gynnwys y rheini ag arbenigedd mewn safbwyntiau rhanddeiliaid gwahanol.
Gallai risgiau i enw da ddeillio o
- gwrthdaro â dibenion (e.e. elusen iechyd yn buddsoddi mewn tybaco; elusen cyfiawnder cymdeithasol yn buddsoddi mewn benthyca rheibus)
- pryderon rhoddwyr, derbynwyr grant a’r cyhoedd yn gyffredinol am ddiwydiannau penodol (e.e. arfau annetholus, tywod tar, pornograffi)
- effeithiau negyddol y buddsoddiadau (e.e. cwmnïau sy’n achosi niwed i gymunedau lleol neu natur)
1. Mae'r bwrdd ymddiriedolwyr llawn, sy’n cael ei gefnogi gan staff, ac aelodau pwyllgor, yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio a chanfod risgiau posibl i enw da. Gallai’r pwyntiau cychwyn ar gyfer trafodaeth gynnwys y canlynol: