outstretched hand with heart above icon

Buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol

Mae llawer o elusennau’n ymgymryd â buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol fel ffordd o gysoni eu buddsoddiadau â dibenion yr elusen. Mae modd defnyddio dulliau buddsoddi cyfrifol hefyd i reoli gwrthdaro rhwng y buddsoddiadau a’r dibenion, a’r risgiau i enw da ac i gryfhau perfformiad ariannol. Mae rhywfaint o aneglurder rhwng y tri dull o ran diffiniadau a thermau a thrafodir hyn yn y diffiniadau isod.

Mae ShareAction, sy’n cynnal Rhwydwaith Buddsoddi Cyfrifol Elusennau a'r Rhwydwaith Buddsoddi Cyfrifol – Prifysgolion, yn diffinio buddsoddi cyfrifol fel a ganlyn: ”dull tryloyw, wedi’i wreiddio drwy gydol y broses fuddsoddi, sy’n rhoi’r un ystyriaeth i’r effeithiau negyddol a chadarnhaol ar bobl a’r blaned â risg ariannol ac elw....Drwy roi’r un ystyriaeth i’r effeithiau cadarnhaol a negyddol ar bobl a’r blaned ag elw ariannol, gall buddsoddwyr mawr sbarduno camau i fynd i’r afael â’r problemau a achosir gan fodelau busnes anghynaliadwy a chamfanteisiol. Er enghraifft, dim ond 100 o gwmnïau sy’n gyfrifol am dros 70 y cant o’r allyriadau carbon byd-eang. Mae buddsoddwyr mawr mewn cwmnïau o’r fath yn allweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy wthio’r cewri corfforaethol hyn i ddatgarboneiddio. Gall buddsoddwyr hefyd ddefnyddio arian i fuddsoddi mewn atebion carbon isel profedig a darparu cyllid i gwmnïau y mae angen iddynt gynyddu eu defnydd o atebion yn gyflym er mwyn sicrhau newid amserol

Mae’r Sefydliad Buddsoddi Effaith yn nodi bod buddsoddiadau effaith yn fuddsoddiadau a wneir gyda’r bwriad o greu effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol, fesuradwy ochr yn ochr ag elw ariannol.

Mae modd dosbarthu buddsoddiadau effaith fel buddsoddiadau ariannol neu gymdeithasol yn yn dibynnu ar ffactorau fel pa mor agos mae’r buddsoddiad yn cyfateb i ddibenion yr elusen a’r elw ariannol a ragwelir. Mae rhai dulliau buddsoddi effaith yn ymwneud â gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, fel arfer i fusnesau ac elusennau gyda diben cymdeithasol naill ai’n uniongyrchol neu drwy gronfa neu fond. Mae rhai elusennau hefyd yn buddsoddi effaith mewn marchnadoedd eilaidd, er enghraifft prynu cyfranddaliadau mewn cwmnïau sy’n cyfrannu at atebion i faterion amgylcheddol neu gymdeithasol, neu er mwyn ymgymryd â rôl weithredol i wella arferion amgylcheddol neu gymdeithasol y cwmni (mae hyn yn gorgyffwrdd â buddsoddi cyfrifol).

Yn ôl Deddf Elusennau 2011: buddsoddiad cymdeithasol yw lle mae ymddiriedolwyr elusennau yn defnyddio arian neu eiddo gyda’r bwriad o wneud y canlynol:

  • cyflawni dibenion eu helusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad
  • gwneud elw ariannol

Gall yr elw ariannol sy’n ofynnol fod yn fwriadol is na’r swm a fuddsoddwyd (‘adennill’ buddsoddiad yn hytrach na ‘gwneud elw’ ar fuddsoddiad) ond mae disgwyl rhywfaint o elw ariannol. Mae hyn yn wahanol i grant lle nad oes disgwyl i chi wneud elw ariannol.  Mae modd gwneud buddsoddiadau cymdeithasol yng ngweithrediadau’r elusen ei hun (er enghraifft, prynu adeilad gweithredu) neu mewn mudiadau eraill (er enghraifft, rhoi benthyciad i elusen er mwyn iddi brynu adeilad, buddsoddi mewn cyfranddaliadau mewn menter gymdeithasol neu fuddsoddi mewn cronfa effaith sy’n gwneud buddsoddiadau i fusnesau ag effaith gymdeithasol neu amgylcheddol fesuradwy). Gall y rhan fwyaf o elusennau yng Nghymru a Lloegr wneud buddsoddiadau cymdeithasol.

Dull effaith wirioneddol mae’n cynnwys elusen sy’n ceisio defnyddio ei holl fuddsoddiadau i greu effaith gadarnhaol yn unol â dibenion yr elusen, ochr yn ochr â’r gwaith o ddyfarnu grantiau neu ddarparu rhaglenni elusennol. Gallai hyn gynnwys defnyddio dulliau buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol. Bydd dull effaith wirioneddol fel arfer yn cynnwys meddwl am fuddsoddiadau ar sbectrwm, gyda rhai buddsoddiadau’n cyd-fynd yn agos iawn â dibenion yr elusen ac eraill sy’n cyfrannu’n fwy eang at ddibenion yr elusen. Gall dull effaith wirioneddol gynnwys buddsoddiadau ariannol a chymdeithasol.

I gael gwybod mwy am esblygiad termau, gweler 'What's in a definion?'

Ymhlith y termau eraill a ddefnyddir mae:

Buddsoddi Cyfrifol

Pam bod elusennau’n buddsoddi’n gyfrifol??

  • hyrwyddo dibenion yr elusen (er enghraifft, elusen byd natur sy’n awyddus i fuddsoddi mewn cwmnïau sy’n helpu i symud at ddyfodol sero net)
  • osgoi neu reoli gwrthdaro â dibenion yr elusen (er enghraifft elusen iechyd yn osgoi buddsoddi mewn bwyd sydd wedi’i brosesu neu’n cyfyngu ar fuddsoddiad mewn bwyd o’r fath)
  • risgiau i enw da (er enghraifft elusen codi arian sy’n osgoi buddsoddi mewn cynhyrchu arfau)
  • sicrhau bod dibenion yr elusen er budd y cyhoedd yn yr ystyr ehangaf (er enghraifft yr argyfwng hinsawdd sy’n arwain at ddifrod ar draws cymunedau, gan gynnwys lle mae gan elusennau eu gweithrediadau)
  • diogelu perfformiad ariannol a rheoli risg (er enghraifft llywodraethu corfforaethol gwael sy’n arwain at elw ariannol is neu effaith yr argyfwng hinsawdd ar elw ariannol dros y tymor byr a’r tymor hwy)

Sut mae elusennau’n buddsoddi’n gyfrifol?

Mae amrywiaeth eang o dechnegau y mae modd eu defnyddio. Fel arfer, bydd technegau’n cael eu defnyddio gan reolwyr buddsoddi’r elusen ar ran yr elusen.

Mae Canllaw Rhagarweiniol ar Fuddsoddiadau Cyfrifol Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Buddsoddiadau Cyfrifol yn cynnwys (UN PRI):

  • Sgrinio: cynnwys neu beidio â chynnwys buddsoddiadau yn seiliedig ar feini prawf a bennwyd ymlaen llaw (er enghraifft elusen yn osgoi buddsoddi mewn cwmnïau sy’n gwaethygu’r argyfwng hinsawdd neu’n ceisio buddsoddi mewn cwmnïau sy’n cyfrannu at atebion i’r argyfwng hinsawdd). Gallai elusen eithrio buddsoddiad mewn sector penodol yn llwyr (er enghraifft, gweithgynhyrchu arfau) neu gwmni, gallai osod cyfyngiadau (er enghraifft, cyfyngu ar swm refeniw cwmni unigol neu mewn cronfa, swm y refeniw o sector, fel cyfyngu tybaco i lai na 10% o refeniw).
  • Integreiddio ESG: ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu wrth asesu cyfleoedd buddsoddi, fel arfer fel dull o gynyddu gwerth hirdymor cwmni. Ni fydd y dull hwn o reidrwydd yn osgoi gwrthdaro â dibenion yr elusen, er enghraifft gallai ESG sgorio cwmnïau tybaco yn erbyn ei gilydd ar sail eu perfformiad amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, ond gall buddsoddi yn unrhyw un o’r cwmnïau hyn olygu gwrthdaro o hyd â dibenion elusen iechyd.
  • Stiwardiaeth: defnyddio dylanwad gan fuddsoddwyr, drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys ymgysylltu, ffeilio penderfyniadau, pleidleisio mewn cyfarfodydd cyfranddalwyr, dylanwadu ar lunwyr polisïau, cyfrannu at ymchwil a chymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus. Efallai y bydd rheolwyr buddsoddi, ar ran buddsoddwyr elusennol, yn ymgysylltu â chwmni yn gyntaf i ofyn am newid mewn ymddygiad. Yna, byddai cyfleoedd i uwchgyfeirio ymgysylltiad os na fydd newidiadau’n cael eu gwneud, a gwaredu lle mae newid yn annhebygol o ddigwydd.
  • Stiwardiaeth gyda rhanddeiliaid eraill: elusennau, rheolwyr buddsoddi a rhanddeiliaid eraill yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni eu hamcanion stiwardiaeth yn fwy effeithiol (er enghraifft, menter Marchnadoedd Iach ShareAction)
  • Gweithredu ar ganlyniadau cynaliadwyedd (gweler isod)

I gael diffiniadau manylach, ewch i UNPRI

Pleidleisio

Mae gan berchnogion cyfranddaliadau mewn cwmni hawl i bleidleisio ar weithredoedd corfforaethol, yn aml yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni. Gallai hyn gynnwys pleidleisio ar weithgareddau’r cwmni (er enghraifft cyfuno â chwmni arall), llywodraethu (er enghraifft cyflogau prif weithredwyr neu’r bwrdd), ffactorau cymdeithasol (er enghraifft hawliau llafur) a ffactorau amgylcheddol (er enghraifft, penderfyniadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni gyrraedd safonau amgylcheddol penodol). Mae nifer y pleidleisiau sydd gan gyfranddaliwr yn cyfateb i nifer y cyfranddaliadau y mae’n berchen arnynt. Fel arfer, bydd rheolwr buddsoddi yn pleidleisio ar ran buddsoddwr yr elusen, a gall roi rhai o’r pleidleisiau neu bob un ohonynt i gwmni pleidleisio drwy ddirprwy (a allai weinyddu’r broses bleidleisio neu hefyd fod yn gyfrifol am benderfyniadau pleidleisio).

Mae CC14 yn nodi: Os ydych chi wedi dirprwyo cyfrifoldebau pleidleisio i’ch rheolwrbuddsoddi, dylech fod yn ymwybodol o bolisi pleidleisio’r rheolwr. Dylechgymryd camau rhesymol i ddeall sut mae eich rheolwr buddsoddi wedi pleidleisioar eich rhan.

Gellid pleidleisio er mwyn diogelu perfformiad ariannol neu ar sail ffactorau amgylcheddol neu gymdeithasol. Rhan allweddol o stiwardiaeth lwyddiannus yw bod yr elusen yn rhoi cyfarwyddiadau clir i’r rheolwr buddsoddi ar y paramedrau ar gyfer pleidleisio, er enghraifft unrhyw ymrwymiadau i dargedau cymdeithasol neu amgylcheddol penodol, neu mewn achosion lle mae’r rheolwr buddsoddi yn pleidleisio ar gyfer pob cyfranddaliad fel mewn cronfa gyfun, bod dealltwriaeth glir o baramedrau pleidleisio arfaethedig y rheolwr a sut mae’r rhain yn cyd-fynd â gofynion yr elusen. Gallai camau rhesymol i ddeall pleidlais y rheolwr gynnwys adroddiad chwarterol o’r pleidleisiau a wnaed, gan dynnu sylw at unrhyw rai sy’n benodol gysylltiedig â dibenion yr elusen.

Lle bydd buddsoddiadau mewn cronfa gyfun, ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall pan fydd gan yr elusen gyfleoedd i ddylanwadu ar baramedrau pleidleisio, er enghraifft efallai y bydd arolwg cleientiaid.

Sut gallai buddsoddi cyfrifol amrywio yn dibynnu ar ddull buddsoddi’r elusen?

Ar gyfer elusennau sy’n buddsoddi arian parod yn bennaf, mae opsiynau i chwilio am gyfrifon banc moesegol neu i weld a yw banc yn darparu cyllid tanwydd ffosil: gweler yr elusennau sy’n buddsoddi arian parod yn bennaf.

Ar gyfer elusennau sy’n buddsoddi drwy gronfa gyfun, mae modd cael gwybodaeth am sut mae’r gronfa gyfun yn ymdrin â buddsoddi cyfrifol, gan gynnwys sgriniau, integreiddio ESG a stiwardiaeth. Mae 'Responsible Investment in Charity Pooled Funds’Sefydliad EIRIS yn amlinellu polisïau buddsoddi cyfrifol cronfeydd cyfun sy’n benodol i elusennau yn y DU.

Ar gyfer elusennau sydd â phortffolio pwrpasol, mae ystod ehangach o opsiynau i ddewis o’u plith o ran buddsoddi cyfrifol, y mae modd eu teilwra i ddibenion yr elusen

Mae’r rhan fwyaf o ddulliau buddsoddi cyfrifol yn canolbwyntio ar gyfranddaliadau, lle mae modd stiwardio drwy ymgysylltu, pleidleisio gan gyfranddalwyr, ac ati. Mae gwaith yn mynd rhagddo i roi mwy o gyfleoedd i ymgymryd â buddsoddi cyfrifol o ran bondiau, er enghraifft datblygu mynegai bondiau rhoi diwedd ar danwydd ffosil sydd wedi'i ddylunio i gynyddu i’r eithaf effaith buddsoddwyr ar newid ymddygiad ar lefel cwmni, cost cyfalaf ar gyfer ehangu tanwydd ffosil ac, yn y pen draw, allyriadau'r economi go iawn.

Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod proses glir ar gyfer cymeradwyo gweithgareddau stiwardiaeth ac ymgysylltu. Gall terfynau amser rhai gweithgareddau fod yn dynn felly dylai’r broses gynnwys hyblygrwydd i unigolyn enwebedig gymeradwyo gweithgareddau penodol heb fod angen cymeradwyaeth gan y pwyllgor/bwrdd llawn, a pharamedrau clir ar gyfer pa weithgareddau y mae angen eu cymeradwyo.

Mae cynaliadwyedd (cyfrannu at atebion yn y fframwaith ABC) yn rhan allweddol o fuddsoddiad cyfrifol, gan sicrhau bod buddsoddiadau’n cael ‘effeithiau cadarnhaol ar bobl a’r blaned’. Mae nifer o gynlluniau diweddar gan reoleiddwyr yn helpu i ffurfioli’r broses o adrodd ar gyfleoedd buddsoddi cynaliadwy.

Yn y DU, mae Gofynion Datgelu Cynaliadwyedd (SDR) a labeli buddsoddi’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cael eu llunio i helpu buddsoddwyr i lywio’r farchnad ar gyfer cynhyrchion buddsoddi cynaliadwy. Mae’r gofynion a’r labeli yn ymgais i wella hygrededd y farchnad buddsoddi cynaliadwy. Mae’r rheolau newydd yn cynnwys: rheol gwrth-wyrddgalchu ar gyfer pob cwmni awdurdodedig i sicrhau bod hawliadau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd yn deg, yn glir a heb fod yn gamarweiniol; labeli cynnyrch i helpu buddsoddwyr i ddeall sut caiff eu harian ei ddefnyddio, yn seiliedig ar nodau a meini prawf cynaliadwyedd clir a gofynion enwi a marchnata fel nad oes modd disgrifio cynhyrchion fel rhai sy’n cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd pan nad ydynt yn gwneud hynny.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd hefyd yn ystyried Rheoliad Datgelu Cyllid Cynaliadwy (SFDR) a fyddai’n datblygu ac yn egluro gofynion datgelu presennol Erthygl 8 ac Erthygl 9. Mae cronfeydd Erthygl 8 yn hyrwyddo nodweddion amgylcheddol a/neu gymdeithasol, ac mae Erthygl 9 yn cyfeirio at gynhyrchion buddsoddi sydd ag amcan buddsoddi cynaliadwy; rhaid i bob daliad o fewn cronfa fod yn fuddsoddiad cynaliadwy sy’n cyrraedd y safon “gwneud dim niwed sylweddol”.

Mae datblygiadau pellach mewn buddsoddi cyfrifol yn cynnwys:

  • datblygu safonau y tu allan i’r cwmnïau neu’r diwydiannau dan sylw i sicrhau paramedrau sylfaenol i ddiogelu systemau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.
  • nod Senedd Ewrop a Chyfarwyddeb Adrodd ar Gynaliadwyedd Corfforaethol y Cyngor (CSRD) yw gwella’r modd y mae cwmnïau’n adrodd ar wybodaeth am gynaliadwyedd, sy’n amrywio o un cwmni i’r llall ac nad oes modd ei gymharu’n hawdd. Mae’r CSRD yn ymgorffori’r cysyniad o ‘berthnasedd dwbl’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau adrodd nid yn unig ar sut gallai materion cynaliadwyedd greu risgiau ariannol i’r cwmni (perthnasedd ariannol), ond hefyd ar effeithiau’r cwmni ei hun ar bobl a’r amgylchedd (perthnasedd effaith).

Mae perchnogion cyffredinol (buddsoddwyr sy’n berchen ar fuddsoddiadau ar draws sbectrwm eang o’r economi, fel mewn llawer o bortffolios elusennau), yn ei chael yn arbennig o anodd arallgyfeirio oddi wrth risgiau systemig fel newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, anghydraddoldeb cynyddol, a phandemigau byd-eang, ac mae dulliau sydd ar y gweill yn canolbwyntio ar wrthsefyll bygythiadau system gyfan drwy sicrhau newid yn yr economi go iawn.

Arweinyddiaeth a dylanwad

Er bod buddsoddiadau elusennau yn fach o’u cymharu â buddsoddwyr sefydliadol eraill (e.e. cronfeydd pensiwn) ac o’u cymharu â’r farchnad fuddsoddi gyffredinol, mae cyfleoedd clir i elusennau ymgymryd â rôl arwain a dylanwadu o ran arferion buddsoddi, er enghraifft:

  • ymuno a hyrwyddo cefnogaeth yr elusen i fentrau buddsoddi (er enghraifft, Ymgyrch Fuelling Positive Change’ NCVO i annog elusennau i roi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil)

Enghreifftiau

Buddsoddiad Effaith

Fel y nodwyd uchod, mae buddsoddi effaith yn eang, a gall gwmpasu buddsoddiad ariannol a chymdeithasol, ac mae’n gorgyffwrdd â dulliau buddsoddi cyfrifol a chymdeithasol.

Mae’r Sefydliad Buddsoddi Effaith yn cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau ar fuddsoddi mewn effaith gan gynnwys hyb dysgu ac arweiniad ar waddolion elusennol.

Mae elusennau sy’n dilyn dull gweithredu sy’n canolbwyntio’n llwyr ar effaith yn cynnwys:

Buddsoddi Cymdeithasol

Rhoddodd Deddf Elusennau (Gwarchod a Buddsoddi Cymdeithasol) 2016 y pŵer i elusennau yng Nghymru a Lloegr wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Buddsoddiad cymdeithasol yw pan ddefnyddir arian neu eiddo’r elusen gyda’r bwriad o wneud y canlynol:

  • cyflawni dibenion yr elusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad
  • gwneud elw ariannol

Gall yr elw ariannol fod ar ben elw’r buddsoddiad gwreiddiol (er enghraifft ad-daliadau ar fenthyciad sy’n cynnwys y benthyciad ei hun a thaliadau llog) neu elw o gyfran o’r buddsoddiad gwreiddiol (er enghraifft mae 50% o’r arian yn cael ei ad-dalu, yn wahanol i grantiau lle nad yw’r arian yn cael ei ad-dalu o gwbl).

Yn ogystal â defnyddio arian neu eiddo’r elusen, gall ymddiriedolwyr ymgymryd ag ymrwymiad sy’n rhoi arian yr elusen mewn perygl, fel gwarant (er enghraifft, gallai elusen gelfyddydol sy’n cael benthyciad i lwyfannu cynhyrchiad newydd gyda’r bwriad o ad-dalu’r benthyciad drwy werthu tocynnau, sicrhau gwarant gan sefydliad elusennol, os nad yw’r tocynnau a werthir yn ddigon i ad-dalu’r benthyciad, yna bydd y sefydliad elusennol yn talu unrhyw falans sy’n weddill).  

Yn ôl canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau:

Gwneud penderfyniadau am fuddsoddiadau cymdeithasol. Wrth benderfynu os yw buddsoddiad cymdeithasol er budd pennaf eich elusen, cydymffurfiwch â’r egwyddorion gwneud penderfyniadau a meddyliwch am:

  • sut mae’r buddsoddiad cymdeithasol yn cyd-fynd â sefyllfa ariannol gyffredinol, cynlluniau gwariant a chynlluniau eich elusen ar gyfer cyflawni ei ddibenion
  • yr hyn rydych yn ei ddisgwyl o’r buddsoddiad - yr elw ariannol a’ch helpu i gyflawni dibenion eich elusen
  • y risg na fydd y buddsoddiad cymdeithasol yn cyflawni (neu’n tanberfformio) ar eich disgwyliadau
  • gost gwneud y buddsoddiad
  • faint o amser rydych yn bwriadu buddsoddi arian eich elusen, a’ch trefniadau ymadael
  • sut y byddwch yn mesur ac yn monitro perfformiad y buddsoddiad cymdeithasol
  • y driniaeth dreth y buddsoddiad

Mae’n rhaid i chi hefyd gydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol penodol i gymryd cyngor ar unrhyw fuddsoddiadau cymdeithasol ac adolygu’r rhain.

Cymerwch gip ar ganllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau i gael rhagor o wybodaeth am wneud buddsoddiadau cymdeithasol yn.

Dylai unrhyw elusen sy’n bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol gymryd cyngor gan unigolyn ag arbenigedd priodol. Bydd angen i ymddiriedolwyr (gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor lle bo angen) ystyried a yw buddsoddiadau cymdeithasol yn briodol i gyd-destun eu helusen, er enghraifft, o ran:

  • y cyllid sydd ar gael gan elusen
  • gorwel amser yr elusen
  • parodrwydd yr elusen i dderbyn risg

Enghreifftiau - buddsoddiadau cymdeithasol

Buddsoddiadau cymdeithasol a gorwel amser

Gallai buddsoddiad cymdeithasol fod yn un tymor byr (er enghraifft, darparu cyfleuster benthyca ar gyfer elusen sydd angen cymorth llif arian wrth aros i grant y cytunwyd arno gael ei dalu) neu’n un hirdymor (er enghraifft darparu benthyciad i brynu adeilad i’w dalu’n ôl dros 20 mlynedd neu fwy, neu brynu cyfranddaliadau mewn menter gymdeithasol sy’n cael ei chadw’n barhaus). Pan fydd gan elusen, er enghraifft, sefydliad gwaddoledig, derfyn amser hirdymor neu lle gall ddarparu buddsoddiad ar gyfraddau rhatach (cael arian yn ôl ar gyfradd is na chyfradd y farchnad neu o bosibl gael llai o arian yn ôl na’r buddsoddiad gwreiddiol), gall hyn gynyddu’r cyfleoedd i ddarparu cyfalaf catalytig, amyneddgar. I gael rhagor o wybodaeth am gyfalaf catalytig ym marchnad buddsoddiadau cymdeithasol y DU.

Cael cyngor ar fuddsoddiadau cymdeithasol

Yn yr un modd â buddsoddiadau ariannol, mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr i dderbyn cyngor pan fo angen ar fuddsoddiadau cymdeithasol. Gallai’r cyngor hwn ddod gan ymddiriedolwr/aelod o staff/aelod o’r pwyllgor neu unigolyn sydd ag arbenigedd perthnasol, er enghraifft profiad ariannol neu fuddsoddi, profiad o redeg busnes, arbenigedd yn yr effaith gymdeithasol y mae’r elusen yn gobeithio ei chael. Gallai’r cyngor ddod gan wirfoddolwr neu gynghorydd cyflogedig. Mae llawer o elusennau sy’n gwneud buddsoddiadau cymdeithasol hefyd yn gofyn am arweiniad cyfreithiol ac ariannol wrth gynnal diwydrwydd dyladwy ar fuddsoddiad arfaethedig a chytuno ar delerau cyfreithiol y buddsoddiad.

Efallai y bydd angen cyngor hefyd ar sut bydd buddsoddiadau cymdeithasol yn cael eu prisio at ddibenion y cyfrifon blynyddol.

Parodrwydd i dderbyn risg buddsoddi cymdeithasol

Mae parodrwydd elusen i dderbyn risg buddsoddiadau cymdeithasol yn debygol o fod yn wahanol i’w pharodrwydd i dderbyn risg buddsoddiadau ariannol.

Mae’r ystyriaethau’n cynnwys:

  • risg ariannol
  • 'risg effaith'
  • sut mae risg yn cael ei rhannu rhwng yr elusen fel buddsoddwr a’r buddsoddai, er enghraifft, archwilio dulliau buddsoddi cymdeithasol lle mae risg yn cael ei rhannu’n fwy cyfartal neu lle mae mwy o risg yn cael ei chymryd gan yr elusen sy’n gwneud y buddsoddiad - 'Bond parhaus Sefydliad Esmee Fairbairn'
  • proses ar gyfer asesu buddsoddiadau unigol fel cyfleoedd ar wahân ac mewn perthynas ag unrhyw bortffolio ehangach o fuddsoddiadau cymdeithasol

Polisi buddsoddi - buddsoddiadau cymdeithasol

Efallai fod gan yr elusen bolisi annibynnol ar gyfer buddsoddiadau cymdeithasol a pholisi cyfunol ar gyfer buddsoddiadau ariannol a chymdeithasol. Mae’r eitemau i’w cynnwys mewn polisi buddsoddi ar gyfer buddsoddiadau cymdeithasol yn cynnwys:

  • os yw’r elusen yn dal gwaddol parhaol, pa ddull (gweler Egwyddor 1) sy’n cael ei ddefnyddio i wneud buddsoddiadau cymdeithasol
  • sut bydd yr elusen yn sicrhau diwydrwydd dyladwy a, lle bo’n briodol, yn cael cyngor allanol ar fuddsoddiadau cymdeithasol.
  • sut mae buddsoddiadau cymdeithasol yn cyd-fynd â chynllun gwariant a sefyllfa ariannol gyffredinol yr elusen
  • dyraniad yr elusen i fuddsoddiadau cymdeithasol
  • amserlen ar gyfer buddsoddiadau cymdeithasol, gan gynnwys ar draws gwahanol ddosbarthiadau asedau a buddsoddiadau uniongyrchol
  • pa gynhyrchion/dosbarthiadau asedau y bydd yr elusen yn buddsoddi ynddynt a sut gallai’r rhain effeithio ar effaith arfaethedig y buddsoddiad
  • a fydd yr elusen yn derbyn cyngor gan rywun sydd â phrofiad o’r materion y mae’r buddsoddiad yn ceisio cyfrannu atynt, ac a yw’n Ymddiriedolwr, yn aelod o staff, yn wirfoddolwr neu’n ddefnyddiwr gwasanaeth
  • sut bydd yr elusen yn ystyried risg mewn perthynas â buddsoddiadau cymdeithasol, gan gynnwys risg ariannol, risg effaith a rhannu risg
  • archwilio’r posibilrwydd o ddarparu cyfalaf catalytig a chonsesiynol
  • trefniadau goruchwylio priodol a chymesur, gan gynnwys cytundebau ffurfiol gyda buddsoddeion, fframwaith monitro ac adrodd ar berfformiad ariannol a chymdeithasol
  • parodrwydd i dderbyn risg ar gyfer buddsoddiadau cymdeithasol

Lawrlwytho Buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol

Buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol