question mark icon

Cwestiynau cyffredin

Cyd-destun yr elusen

Ychydig o fuddsoddiadau sydd gan fy elusen, a gedwir fel arian mewn cyfrif banc – mae’r Egwyddorion yn ddigon i’n llethu!

Mae dogfen PDF lai ar gyfer 'elusennau llai sy’n buddsoddi mewn arian yn bennaf' sy’n cynnwys prif feysydd yr Egwyddorion ac ychydig o wybodaeth ychwanegol ddefnyddiol.

Dim ond un aelod staff, os hynny, sydd gan fy elusen. Sut gallwn ni ddefnyddio’r Egwyddorion?

Bwriedir i’r Egwyddorion fod yn adnodd defnyddiol. Gall ymddiriedolwyr weithio trwy bob Egwyddor yn ei thro, neu ganolbwyntio ar faes lle y mae eu harferion ar eu gwanaf. Mae’r Egwyddorion yn nodi’n glir a yw’r ymarfer yn ‘Angenrheidiol’, yn cael ei Argymell’ neu’n un y dylid ei ‘Ystyried’. Efallai yr hoffai ymddiriedolwyr ganolbwyntio’n gyntaf ar y rhai ‘Angenrheidiol’. Gellir edrych ar y camau gweithredu sy’n cael eu ‘Hargymell’, ond gall y rhain fod yn heriol i rai elusennau o ran capasiti ac adnoddau. Gallai dewis nifer bychan o gamau a argymhellir, rhai sy’n fwy priodol i gyd-destun, capasiti ac adnoddau’r elusen, fod yn fwy llwyddiannus na cheisio cyflawni llawer o gamau.

Nid oes gan ymddiriedolwyr fy elusen unrhyw arbenigedd mewn buddsoddi. Sut gallwn ni ddefnyddio’r Egwyddorion?

Mae’r Egwyddorion yn ceisio bod yn hygyrch i bobl nad ydynt yn arbenigwyr, ac mae ganddynt restr termau gynhwysfawr. Fel y nodwyd yn yr Egwyddorion, dylai ymddiriedolwyr sicrhau bod gan yr elusen fynediad at ddigon o arbenigedd, yn dibynnu ar yr asedau sydd ganddynt. Mae Egwyddor 2 yn nodi pa arbenigedd a allai fod ei angen, yn dibynnu ar faint a math y buddsoddiadau, tra bod Egwyddor 4 yn edrych ar bryd y gallai elusennau ‘ofyn am gyngor’ a chan bwy.

Pam mae angen i elusennau gyda rhwng £1-£20 miliwn mewn buddsoddiadau ddewis p’un a dilyn arferion ‘llai’ neu ‘fwy’?

Gall elusennau weithio drwy’r Egwyddorion yn ôl eu hawydd a’u capasiti. Bydd gan rai elusennau â rhwng £1-£20 miliwn mewn buddsoddiadau nifer fawr o staff, ymddiriedolwyr ac arbenigedd buddsoddi, ynghyd â mynediad at aelodau pwyllgor buddsoddi a/neu gyngor buddsoddi a delir; gallai elusennau eraill o’r un maint fod heb staff a chydag ychydig iawn o fynediad at arbenigedd buddsoddi. Wrth ddatblygu’r Egwyddorion, nododd grwpiau ffocws gydag elusennau eu bod yn debygol, neu fod cyfoedion yn disgwyl, bod gan elusennau ag £20 miliwn+ y capasiti ymhlith eu hymddiriedolwyr, eu staff a’u haelodau pwyllgor i fodloni amrediad ehangach o arferion a argymhellir. Anogir defnyddwyr yr Egwyddorion i roi adborth ar beth sy’n gweithio yng nghyd-destun eu helusen.

Ynglŷn â’r Egwyddorion

A yw’r Egwyddorion yn ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol?

Nid yw’r Egwyddorion yn ofyniad cyfreithiol na rheoleiddiol ac nid ydynt yn ceisio nodi’r holl ofynion cyfreithiol. Mae canllaw y Comisiwn Elusennau, ‘Buddsoddi arian elusennol: canllawiau i ymddiriedolwyr (CC14)' yn rhoi cyngor ar y disgwyliadau cyfreithiol a rheoleiddiol ar elusennau yng Nghymru a Lloegr o ran buddsoddiadau. Mae’r Egwyddorion yn adeiladu ar CC14, gan alluogi ymddiriedolwyr a staff i edrych ar lywodraethiant buddsoddiadau yng nghyd-destun yr elusen a chael enghreifftiau ar sut i fynd i’r afael â heriau llywodraethu. Os nad yw defnyddwyr eisoes yn gyfarwydd ag CC14, cynghorir nhw i edrych ar hwn cyn mynd ati i ymdrin â’r Egwyddorion.

Pa fudiadau sydd ar Grŵp Llywio’r prosiect?

Mae’r Egwyddorion wedi cael eu datblygu gan Grŵp Llywio sy’n cynnwys Grŵp Cyllid Elusennau, Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol, Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac Ysgrifenyddiaeth Rhwydwaith Buddsoddi Cyfrifol Elusennau.

Pam cynhyrchu’r Egwyddorion pan mae CC14 a’r Cod Llywodraethu i Elusennau eisoes yn bodoli?

Mae’r mudiadau ar y Grŵp Llywio ar gyfer yr Egwyddorion yn cynrychioli dros 18,000 o elusennau’r DU ar draws amrediad eang o asedau o wahanol faint. Adrodda elusennau bod y maes buddsoddi yn un arbennig o heriol iddynt. Nod yr Egwyddorion yw ategu canllaw CC14 a’r Cod Llywodraethu i Elusennau. Mae CC14 yn ymdrin â’r gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol. Mae’r Egwyddorion yn llawer ehangach; mae ganddynt lawer o esboniadau ac enghreifftiau, arferion sy’n cael eu Hargymell i elusennau neu rai y dylai elusennau eu Hystyried, a chyfleoedd i elusennau â swm mawr o fuddsoddiadau wneud gwaith dyfnach. Mae’r Egwyddorion yn dilyn strwythur y Cod Llywodraethu i Elusennau, gan ganolbwyntio’n benodol ar lywodraethu buddsoddiadau, a lle’n bosibl, osgoi ailadrodd meysydd sydd eisoes wedi cael sylw yn y Cod.

Mae llawer o adnoddau eisoes wedi’u cynhyrchu gan ddarparwyr proffesiynol. Sut mae’r Egwyddorion yn wahanol?

Mae llawer o ddarparwyr proffesiynol, gan gynnwys cwmnïau cyfreithiol, rheolwyr buddsoddiadau, cynghorwyr buddsoddiadau a chwmnïau cyfrifyddiaeth yn cynhyrchu canllawiau defnyddiol iawn i elusennau. Mae’r Egwyddorion yn wahanol gan eu bod yn canolbwyntio ar ymddiriedolwyr a staff elusennau sy’n ymdrin â llywodraethu mewnol cyn edrych ar y cydberthnasau â darparwyr proffesiynol allanol. Mae’r Egwyddorion hefyd gan elusennau ar gyfer elusennau – mae’r holl gyllidwyr yn sefydliadau elusennol, holl aelodau’r Grŵp Llywio yn gyrff aelodaeth elusennol ac mae’r grwpiau ffocws a’r ymgynghoriad wedi canolbwyntio ar brofiadau ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor elusennau. Nid yw llawer o’r adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn ymdrin â’r sbectrwm llawn o heriau llywodraethu o ran buddsoddiadau, neu’n cynnwys rhagdybiaethau am fuddsoddiadau elusennau, fel cymryd yn ganiataol bod gwaddolion i fod i fodoli am byth. Mewn cyferbyniad, bwriedir i’r Egwyddorion fod yn gynhwysfawr, er mwyn galluogi ymddiriedolwyr, staff, aelodau pwyllgor a phobl eraill â chyfrifoldeb dros, neu ddiddordeb mewn, llywodraethu buddsoddiadau i gael eu haddysgu’n eang a’u cyfeirio.

A yw’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr yn gysylltiedig?

Ydy, mae’r Comisiwn Elusennau yn sylwedydd i’r prosiect; bu’n adolygu’r Egwyddorion drwy gydol y camau llunio ac mae wedi adolygu’r fersiwn derfynol sydd wedi’i chyhoeddi ar y wefan hon.

Sut mae’r Egwyddorion yn berthnasol i ddyfarniad Butler-Sloss?

Mae Egwyddor 3, Uniondeb, yn cynnwys manyliondyfarniad Butler-Sloss, a’r arferion y gall elusennau eu dilyn i edrych arwrthdaro rhwng eu buddsoddiadau a dibenion yr elusen, a’r risgiau i’w henw da.

A ymgynghorwyd ag elusennau wrth ddatblygu’r Egwyddorion?

Do. Edrychodd fwy na 100 o elusennau ar yr Egwyddorion drwy gyfres o grwpiau ffocws, profion defnyddwyr ac ymgynghoriad agored. Cafwyd mewnbwn hefyd gan gyfreithwyr elusennau, cyfrifyddion siartredig, rheolwyr buddsoddiadau a chynghorwyr buddsoddiadau, ac unigolion a mudiadau perthnasol eraill.

Pam mae’r termau ‘cyfrifol’ a ‘buddsoddiad effaith’ yn cael eu defnyddio pan nad ydynt wedi’u defnyddio yn CC14?

Mae’r rhain yn dermau a ddefnyddir yn aml gan elusennau, a chaiff y ddau derm eu diffinio yn yr eirfa ac yn yr adran benodedig ar fuddsoddiad cyfrifol, effaith a chymdeithasol. Yn ystod y grwpiau ffocws a’r ymgynghoriadau ar y prosiect, nododd elusennau y byddai deall sut i edrych ar fuddsoddiad cyfrifol, effaith a chymdeithasol o fewn cyd-destun llywodraethu eu helusen yn ddefnyddiol.

Pa fudiadau a gyllidodd yr Egwyddorion?

Ymddiriedolaeth Barrow Cadbury; Sefydliad Friends Provident; Ymddiriedolaeth City Bridge; Access – The Foundation for Social Investment; Ymddiriedolaeth Aurora; Ymddiriedolaeth Mark Leonard; The JJ Charitable Trust; Sefydliad Joseph Rowntree.

Defnyddio’r Egwyddorion

Sut gall fy elusen ddefnyddio’r Egwyddorion?

Gweler ‘Defnyddio’r Egwyddorion’ am ragor o gyfarwyddiadau. Bydd gan rai elusennau y rhan helaeth o’r argymhellion eisoes ar waith. I eraill, bydd rhai o’r arferion a argymhellir yn bethau i anelu atynt. Dylai defnyddwyr edrych ar yr Egwyddorion fel adnodd ar gyfer gwella ac annog. Gweler ‘Lawrlwytho’r Egwyddorion’ am ragor o wybodaeth am sut i rannu’r Egwyddorion gydag ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor.

Sut gall darparwyr proffesiynol (cyfreithwyr, cynghorwyr buddsoddiadau, rheolwyr buddsoddiadau, arbenigwyr mewn llywodraethiant elusennau) ddefnyddio’r Egwyddorion gyda’u cleientiaid?

Gall darparwyr proffesiynol gyfeirio cleientiaid at yr Egwyddorion a helpu ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor i weithio drwy’r Egwyddorion sy’n berthnasol i gyd-destun eu helusen.

Adborth

A allaf roi adborth ar yr Egwyddorion?

Mae’r Egwyddorion yn adnodd newydd a fydd yn datblygu ar sail adborth gan ddefnyddwyr elusennol.

A fydd cam dau o’r Egwyddorion?

Mae’r Grŵp Llywio yn awyddus i ddatblygu’r Egwyddorion a’r enghreifftiau/esboniadau ar sail adborth gan ddefnyddwyr.