1. Diben y buddsoddiadau
Disgrifiad
Mae gan y bwrdd ddealltwriaeth gyffredin o pam mae’r elusen yn gwneud buddsoddiadau, sut mae’r buddsoddiadau hynny’n datblygu dibenion yr elusen, yr ystyriaethau cyfreithiol ac ymarferol sy’n ymwneud â buddsoddiadau a gorwel amser yr elusen.
Rhesymeg
Gall buddsoddiadau elusen amrywio o swm bach o arian mewn cyfrif banc i bortffolio buddsoddi mawr. I’r rhan fwyaf o elusennau, mae buddsoddiadau cael eu gwneud i sicrhau cynaliadwyedd parhaus yr elusen, er enghraifft, cronfeydd wrth gefn neu gronfeydd sydd wedi’u neilltuo tuag at brosiect penodol neu gynhyrchu elw ariannol. Mae cyfleoedd hefyd, yn enwedig i elusennau â gwaddol neu fuddsoddiadau sylweddol, i fuddsoddiadau’r elusen gefnogi a datblygu dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft, drwy fuddsoddiad cyfrifol, effaith neu gymdeithasol. Dylai fod gan ymddiriedolwyr ddealltwriaeth o’r ystyriaethau cyfreithiol ac ymarferol sy’n ymwneud â buddsoddiadau ac o orwel amser yr elusen.
Canlyniadau allweddol
- Mae gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth ar y cyd o ddibenion yr elusen, bod buddsoddiadau’n gyfrwng i gyflawni’r dibenion hynny, a sut mae buddsoddiadau’n hyrwyddo dibenion yr elusen.
- Mae pob ymddiriedolwr yn deall eu cyfrifoldebau cyfreithiol, eu pwerau buddsoddi a sut mae buddsoddiadau’n cael eu cadw gan yr elusen.
- Mae unrhyw gyfyngiadau neu ofynion sy’n ymwneud â dull buddsoddi’r elusen, er enghraifft oherwydd strwythur neu ddogfen lywodraethu’r elusen yn cael eu cofnodi’n ysgrifenedig.
- Mae’r ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall strwythur yr elusen a’r mathau o gyllid sydd ganddi.
- Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall pryd y gallai fod angen arian, ac yn dewis dull buddsoddi sy’n briodol i orwel amser cyffredinol yr elusen.
- Pan mae elusen yn cronni arian sylweddol, mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio sut mae hyn yn hyrwyddo dibenion yr elusen.
Ymarfer
Diben y buddsoddiadau
Pam mae’r elusen yn gwneud buddsoddiadau a sut mae’r buddsoddiadau hynny yn datblygu dibenion yr elusen?
Fel ymddiriedolwyr, eich prif ddyletswydd yw hyrwyddo dibenion eich elusen. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud eich penderfyniadau buddsoddi er mwyn hyrwyddo’r dibenion hynny.
Mae’r ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth y staff ac aelodau pwyllgor, yn deall pam mae’r elusen yn gwneud buddsoddiadau a sut mae’r buddsoddiadau hynny yn datblygu dibenion yr elusen.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn cynnwys:
- darparu enillion ariannol (incwm neu dwf cyfalaf) er mwyn cyllido gweithgareddau’r elusen
- buddsoddi arian wrth gefn yr elusen yn unol â’r hyn a nodir yn y polisi cronfeydd wrth gefn
Gall hyn hefyd gynnwys buddsoddiadau sy’n datblygu dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft, drwy ddulliau buddsoddi cyfrifol, effaith neu gymdeithasol.
Ystyriaethau cyfreithiol ac ymarferol
Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â’r dyletswyddau a’r gofynion cyfreithiol sy’n cael eu nodi yn Buddsoddi arian elusennol: canllawiau i ymddiriedolwyr (CC14)', y Comisiwn Elusennau a gwneud penderfyniadau er budd gorau’r elusen, gan adolygu’r dull buddsoddi’n rheolaidd.
Gall ymddiriedolwyr (gan weithio gyda chymorth staff, aelodau pwyllgor ac unigolion eraill) benderfynu sut i fuddsoddi a sicrhau bod ystod eang o opsiynau ar gael. Bydd yr Egwyddorion yn helpu ymddiriedolwyr a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw i weithio drwy’r ystyriaethau llywodraethu.
Mae pob ymddiriedolwr yn cael ei gyfeirio at le i ddod o hyd i wybodaeth am eu cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â buddsoddiadau a gallan nhw gael gafael ar hyfforddiant sy’n briodol i gyd-destun eu helusen a’u rôl.
Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol ar y cyd am fuddsoddiadau eu helusen. Mae’r ymddiriedolwyr hynny sydd ag arbenigedd buddsoddi proffesiynol yn gyfrifol am ansawdd y cyngor y maen nhw’n ei rhoi i’r elusen. Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau ymddiriedolwyr ar gael yng nghanllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau.
Mae llawer o gwmnïau cyfreithiol a rheolwyr buddsoddi hefyd yn cynnig hyfforddiant sy’n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Mae’r ymddiriedolwyr (gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor yn ôl yr angen) yn dilyn gofynion canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau, gan gynnwys:
- gwirio a dilyn unrhyw gyfyngiadau neu ofynion penodol, er enghraifft yn nogfen lywodraethol yr elusen neu a ddatganwyd gan roddwr, sy’n effeithio ar allu’r elusen i wneud buddsoddiadau
Gall rhoddwyr osod cyfyngiadau ar eu rhoddion, er enghraifft gallai rhoddwr ddweud pan fuddsoddir rhodd fod rhaid gwario unrhyw incwm a gynhyrchir ar faes penodol o ddibenion yr elusen neu ddibenion yr elusen yn gyffredinol; neu ar a ddylid trin yr anrheg fel parhaol neu gwariadwy gwaddol; neu ar sut y gellir buddsoddi'r rhodd. Rhaid i ymddiriedolwyr ddeall unrhyw gyfyngiadau a roddir gan y rhoddwr a sicrhau bod y rhain yn cael eu cadw wrth wneud unrhyw benderfyniadau buddsoddi.
Gallai cyfyngiadau ar wneud buddsoddiadau gynnwys y canlynol:
- osgoi dosbarthiadau asedau penodol
- pan mae rhoddwr wedi nodi mai dim ond mewn ffordd benodol y mae am i’w arian gael ei fuddsoddi, er enghraifft er mwyn lleihau difrod amgylcheddol
Dylai unrhyw gyfyngiadau ar wneud buddsoddiadau gael eu cofnodi’n ysgrifenedig.
O bryd i’w gilydd, gall ymddiriedolwyr, gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor, adolygu a yw’r cyfyngiadau yn parhau i wneud synnwyr, er enghraifft, gellid ystyried bob 5-10 mlynedd a yw’r cyfyngiadau yn parhau i fod yn addas yng nghyd-destun yr elusen. Gall fod angen cyngor cyfreithiol a/neu gyngor ar fuddsoddiadau cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud. Pan fydd ymddiriedolwyr yn dymuno newid y cyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethu, rhaid iddynt ddilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol. Gweler dogfen (CC36) y Comisiwn Elusennau am ragor o fanylion.
- deall strwythur yr elusen (er enghraifft, p’un ayw’n gorfforedig neu’n anghorfforedig), a goblygiadau hyn ar gyfer caelbuddsoddiadau
CC14 - 'Os yw eich elusen yn gwmni neu’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), neu’n gorff corfforaethol arall, gall ddal buddsoddiadau yn ei henw ei hun.
Ar gyfer mathau eraill o elusennau, megis ymddiriedolaethau ac elusennau eraill anghorfforedig, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ddal buddsoddiadau yn eu henwau ar ran eu helusen. Ar gyfer yr elusennau hyn gall arbed costau a bod yn fwy cyfleus penodi enwebai neu geidwad i ddal buddsoddiadau, ond gall unrhyw fath o elusen wneud y penodiadau hyn.”
Dylid rhestru strwythur yr elusen yn y dogfen lywodraethol.
Ar gyfer elusen sy’n Fudiad Corfforedig Elusennol neu’n gwmni elusennol, ni waeth beth yw ei maint, dylid cadw buddsoddiadau (er enghraifft cyfrif banc neu bortffolio buddsoddi) yn enw’r elusen oherwydd bod ganddi ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun. Mae’n bosibl y bydd rhai neu’r cyfan o’r ymddiriedolwyr yn cael eu henwi ar y mandad banc. Gall staff gael eu henwi ar y mandad banc os nad oes unrhyw gyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethu a bod ganddyn nhw awdurdod wedi’i ddirprwyo gan yr ymddiriedolwyr.
Rhaid i elusen anghorfforedig, beth bynnag fo’i maint, gadw buddsoddiadau (er enghraifft cyfrif banc neu bortffolio buddsoddi) yn enw’r ymddiriedolwyr oherwydd nad oes gan yr elusen ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun. Bydd rhai neu’r cyfan o’r ymddiriedolwyr yn cael eu henwi ar y mandad banc er mwyn iddyn nhw allu rheoli’r cyfrif banc. Gall staff gael eu henwi ar y mandad banc os nad oes unrhyw gyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethu a bod ganddyn nhw awdurdod wedi’i ddirprwyo gan yr ymddiriedolwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am strwythurau elusennau, ewch i:
- deall y math o gronfeydd sydd gan yr elusen, er enghraifft cronfeydd anghyfyngedig, cronfeydd gwaddol
Gweler yr eirfa am esboniad o gronfeydd anghyfyngedig, dynodedig, cyfyngedig , a chronfeydd wrth gefn, gwaddol treuliadwy a pharhaol.
Ar gyfer yr elusennau hynny sy’n paratoi cyfrifon, mae Datganiad o'r Arfer a Argymhellir yn rhoi arweiniad. yr elusen yn cynnig arweiniad. Mae’r cyfrifon yn dechrau gyda’r Datganiad Gweithgareddau Ariannol.
Mae hyn yn cynnwys manylion am y canlynol:
- lefel unrhyw gronfeydd anghyfyngedig, cyfyngedig, dynodedig a gwaddol
- incwm: gallai hyn gynnwys incwm o roddion, cymynroddion, grantiau, aelodaeth, gweithgareddau masnachu (e.e. rhedeg caffi neu siop elusen) ac incwm buddsoddiadau (e.e. difidendau sy’n cael eu talu ar gyfranddaliadau, rhent o eiddo buddsoddi). Nid yw’r incwm fel arfer yn cynnwys twf cyfalaf ar fuddsoddiadau’r elusen.
- gwariant: gallai hyn gynnwys talu staff, costau rhentu eiddo, talu grantiau, costau codi arian a chostau rheoli buddsoddiadau
- enillion/colledion buddsoddi: mae hyn yn cynnwys unrhyw gynnydd neu ostyngiad yng ngwerth buddsoddiadau’r elusen. Nid yw hwn wedi’i restru fel incwm ac fel arfer mae’n ymddangos ymhellach i lawr mantolen elusen
Mae llawer o gwmnïau cyfrifeg a chyrff aelodaeth yn darparu cyrsiau hyfforddi i ymddiriedolwyr ar ddarllen cyfrifon elusennau.
- deall a oes gan yr elusen waddol parhaol neu arian gwaddol y mae modd ei wario
- edrych ar unrhyw ddogfennau sy’n dweud wrthych chi sut mae’n rhaid cadw a defnyddio buddsoddiadau
- edrychwch ar ddogfennau llywodraethol, eich elusen, er enghraifft a yw dogfen lywodraethu eich elusen yn sôn am waddol parhaol neu a yw dogfen lywodraethu eich elusen yn sôn am gyfyngiadau eraill? (e.e. dymuniadau rhoddwyr, cyfyngiadau ar ddulliau buddsoddi)
- edrychwch ar unrhyw ddogfennau a ddefnyddiwyd i roi buddsoddiadau i’ch elusen, er enghraifft ydy dymuniadau’r rhoddwr wedi’u nodi (mewn llythyr neu ddogfen arall) eu bod yn bwriadu i’w rhodd gael ei chadw fel gwaddol parhaol?
Os nad ydych chi’n siŵr, gofynnwch am gymorth gan y Comisiwn Elusennau.
- os yw’r elusen yn bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, gwirio a dilyn unrhyw reolau yn y ddogfen lywodraethol ynglŷn ag a all yr elusen wneud buddsoddiadau cymdeithasol ai peidio
Mae Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd) yn dweud mai buddsoddiad cymdeithasol yw pan fydd ymddiriedolwyr elusen yn defnyddio arian neu eiddo â’r bwriad o:
- gyflawni dibenion eu helusen yn uniongyrchol drwy’r buddsoddiad
- wneud elw ariannol
Gall buddsoddiadau cymdeithasol gael eu gwneud i gyflawni gwaith yr elusen yn uniongyrchol (er enghraifft, pan fydd elusen yn prynu adeilad i redeg gwasanaethau ohono) neu i fudiad arall sy’n cyflawni dibenion yr elusen (er enghraifft, rhoi benthyciad i fenter gymdeithasol).
Dylai unrhyw elusen sy’n bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol gymryd cyngor gan unigolyn ag arbenigedd priodol. Bydd angen i ymddiriedolwyr (gyda help staff ac aelodau pwyllgor yn ôl yr angen) ystyried a yw buddsoddiadau cymdeithasol yn briodol yng nghyd-destun eu helusen, er enghraifft, o ran:
- yr arian sydd ar gael gan yr elusen
- gorwel amser yr elusen
- awydd yr elusen am risg
Buddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith a buddsoddi cymdeithasol
Y gorwel amser a chronni’r cronfeydd
Mae gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth ar y cyd o orwel amser yr elusen, a sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu i unrhyw unigolion sy’n ymwneud â buddsoddiadau’r elusen (er enghraifft staff, aelodau pwyllgor neu reolwyr buddsoddi allanol).
Er mwyn dod i ddealltwriaeth ar y cyd, gall ymddiriedolwyr archwilio’r canlynol:
- a oes modd cyflawni dibenion yr elusen o fewn cyfnod penodol
- cydbwyso anghenion nawr ac yn y dyfodol
- a allai’r elusen gyflawni ei dibenion mewn ffyrdd gwahanol a sut gallai hynny effeithio ar orwel amser yr elusen
Nid yw ceisio bodoli am byth yn nod strategol ynddo’i hun. Os oes gan elusen orwel amser hir iawn, mae angen i ymddiriedolwyr fod yn glir pam mai dyma’r ffordd orau o gyflawni’r dibenion.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn adolygu buddsoddiadau’r elusen mewn perthynas â’i gorwel amser:
- a yw’r buddsoddiadau’n addas ar gyfer cyflawni dibenion yr elusen yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy
- archwaeth risg, yr elusen, ac a oes cydbwysedd priodol rhwng rheoli adnoddau’n ddiogel a bod yn or-ofalus
- gofynion o ran incwm neu dwf cyfalaf
- pan Mae elusen yn cronni arian y tu hwnt i’w pholisi cronfeydd wrth gefn, sut Mae hyn yn hyrwyddo dibenion yr elusen yn fwy na gwario arian at y dibenion
Gall cronfeydd wrth gefn gryfhau gwytnwch elusen, er enghraifft os oes gostyngiad mewn incwm neu os oes angen arian ar gyfer prosiect. Dylai fod gan elusen bolisi cronfeydd wrth gefn i egluro ei dull gweithredu a lefel y cronfeydd wrth gefn y mae’r elusen yn bwriadu eu cadw.
Os yw incwm neu dwf mewn asedau yn uwch na lefel y gwariant, dylai ymddiriedolwyr ystyried a ddylid parhau i gynyddu maint cronfeydd anghyfyngedig yr elusen neu wario mwy ar ddibenion yr elusen.
Dylid cofnodi’r broses o wneud penderfyniadau a’r canlyniad yn glir.
Mae Cymorth Canser Macmillan (rhif elusen: 261017) yn awyddus bod cymaint o gyllid â phosibl yn mynd tuag at gyflawni dibenion yr elusen, gan sicrhau hyfywedd parhaus yr elusen ar yr un pryd. O’r herwydd, maen nhw’n canolbwyntio ar ‘bolisi hylifedd yn hytrach na pholisi cronfeydd wrth gefn’:
‘Fel mudiad sy’n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar incwm codi arian blynyddol, ein polisi yw cadw digon o arian i’n galluogi i ymateb i unrhyw effaith niweidiol annisgwyl ar ein cyllid ac felly, rydym ni’n gweithredu polisi hylifedd yn hytrach na pholisi cronfeydd wrth gefn. Mae hyn yn adlewyrchu ein model gweithredu sy’n cydnabod ymrwymiadau grant aml-flwyddyn ar unwaith, yn unol â’n polisi cyfrifyddu. Mae hefyd yn golygu, drwy ganolbwyntio ar lefel briodol o hylifedd, yn hytrach na lefel o gronfeydd wrth gefn wedi’i thargedu, y gallwn ni gynyddu ein heffaith ar fywydau pobl sy’n byw gyda chanser...Yn ystod 2022, adolygodd ymddiriedolwyr y polisi hylifedd presennol a lleihau’r hylifedd targed o £100 miliwn i £70 miliwn, yn dilyn gwaith modelu hylifedd helaeth gyda chymorth gan fudiad allanol. Mae £70 miliwn yn cynrychioli’r swm sydd ei angen i gynnal y mudiad mewn sefyllfa iach gyda digon o hylifedd i dalu am anghenion cyfalaf gweithio, ynghyd â chronfa ‘diwrnod glawog’ y gellid manteisio arni pe bai argyfwng. O dan ein polisi hylifedd, ein targed yw cadw’r cronfeydd hyn mewn buddsoddiadau ac arian parod y mae modd eu diddymu ar fyr rybudd. Ar ben hynny, byddwn ni’n dal arian parod a chronfeydd hylif eraill i fodloni gofynion llif arian arferol o ddydd i ddydd.’
- pan Mae gwaddol treuliadwy yn bodoli, boed y bwriad yn wario, cadw neu dyfu’r gwaddol dros amser, pam mae’r dull a ddewiswyd yn ateb dibenion yr elusen orau a goblygiadau cronni arian
Mae elusennau’n gwneud buddsoddiadau er mwyn cefnogi neu hyrwyddo dibenion yr elusen. Nid yw tyfu neu gadw gwerth gwaddol treuliadwy yn nod strategol ynddo’i hun ac mae cyfleoedd a chostau ynghlwm wrth gynnal gwaddol treuliadwy dros y tymor hir. Yn wahanol i ymddiriedolwyr cronfa bensiwn sy’n gorfod gweithredu ar ran buddiolwyr a sicrhau bod arian yn cael ei gadw ar gyfer buddiolwyr, mae ymddiriedolwyr elusen yn gweithredu at ddibenion yr elusen ac oni bai fod gwaddol parhaol yn bodoli, nid oes rheidrwydd arnyn nhw i gadw’r arian. Rhaid i wario, cadw neu dyfu gwaddol dros amser fod yn benderfyniad bwriadol sy’n cael ei wneud i gefnogi neu hyrwyddo dibenion yr elusen.
Tyfu gwaddol: Yn yr un modd â Sefydliadau Cymunedol eraill, mae’r Sefydliadau Cymunedol sy’n gwasanaethu Tyne a Wear a Northumberland (rhif elusen 700510) yn mynd ati’n fwriadol i adeiladu gwaddol i fod yn ‘ased cymunedol i wasanaethu’r rhanbarth nawr ac am genedlaethau i ddod......[er mwyn] gallu cynnig cyllid i fwy o fudiadau elusennol a chymorth tymor hwy oherwydd dros amser, bydd y Sefydliad Cymunedol yn llai dibynnol ar arian sy’n cael ei roi yn flynyddol.’
Adolygu hirhoedledd: Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree (rhif elusen 210037) yn cynnal adolygiad cyfnodol o orwel amser yr elusen, oddeutu bob deng mlynedd.
Mae Ymddiriedolaeth Blagrave (rhif elusen 1164021) yn datgan ei bod yn ‘agnostig ynglŷn â bodoli am byth – y byddai’n ystyried gwario i lawr pe bai’r cyfiawnhad yn glir, ond yn niffyg cyfiawnhad o’r fath byddai’n parhau i gydbwyso ei strategaeth fuddsoddi a’i enillion, ochr yn ochr â’i ymrwymiadau i roi grantiau.’
Gwario llai: Ymddiriedolaeth Albert Hunt (rhif elusen 1180640): ‘fe’i sefydlwyd ar 12 Ionawr 1979 ac mae wedi dosbarthu grantiau gwerth dros £40m hyd yma. Pan sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn wreiddiol, roedd y sylfaenwyr yn glir ynglŷn â’u bwriad i gefnogi ystod eang o achosion... Gyda’r effeithiau diweddar ar gymdeithasna welwyd eu tebyg o’r blaen, drwy’r pandemig a’r argyfwng costau byw presennol, mae cynnydd amlwg yn y ddibyniaeth sy’n cael ei rhoi ar gymdeithas sifil fel ffynhonnell ymyrraeth. O ganlyniad, mae hyn wedi peri i’r Ymddiriedolwyr gwestiynu ‘pam mae’r Ymddiriedolaeth yn bodoli?’ a ‘pam mae angen i’r Ymddiriedolaeth fodoli am byth?’. Gan gydnabod bod angen dybryd am gymorth ariannol, mae’r Ymddiriedolwyr wedi penderfynu gweithredu nawr drwy ganolbwyntio ar wario gweddill adnoddau’r Ymddiriedolaeth o fewn amserlen benodol, gan weld Ymddiriedolaeth Albert Hunt yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ym mis Ionawr 2029 drwy gau.’
Ailystyried gwaddolion dyngarol: Mae llawer o sefydliadau â gwaddol yn mynd i’r afael â ffyrdd o rannu pŵer rhwng deiliaid cyfoeth (e.e. sefydliadau) a’r rheini sy’n cyflawni newid ar y rheng flaen (e.e. elusennau, mentrau cymdeithasol ac ymgyrchwyr).
Gweler Egwyddor 6: strategaethau buddsoddi sy’n ystyried tegwch ac effaith er mwyn cael mwy o wybodaeth am hyn.
Mae rhai sefydliadau, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig, yn archwilio dulliau cwbl wahanol:
- Mae Sefydliad Lankelly Chase (rhif elusen 1107583) yn gweithio i ‘ildio rheolaeth dros ein hasedau, gan gynnwys y gwaddol a’r holl adnoddau, er mwyn i arian lifo’n rhwydd i’r rheini sy’n gwneud gwaith cyfiawnder cymdeithasol sy’n cadarnhau bywyd’
- Mae SefydliadThirty Percy (rhif elusen 1177514) yn ‘archwilio’r ffordd orau o gefnogi deiliaid cyfoeth fel rhan o’r newid paradeim tuag at economeg newydd a dulliau buddsoddi troellog’
- Mae Sefydliad Joseph Rowntree (rhif elusen 1184957) yn ystyried ‘sut mae modd ysgogi gwahanol fathau o gyfoeth, gan gynnwys cyfoeth dyngarol, drwy ddulliau ariannu a buddsoddi amgen i wasanaethu pobl a’r blaned yn well’
Diben y buddsoddiadau
Pam mae’r elusen yn gwneud buddsoddiadau a sut mae’r buddsoddiadau hynny yn datblygu dibenion yr elusen?
Fel ymddiriedolwyr, eich prif ddyletswydd yw hyrwyddo dibenion eich elusen. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud eich penderfyniadau buddsoddi er mwyn hyrwyddo’r dibenion hynny.
Mae’r ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth y staff ac aelodau pwyllgor, yn deall pam mae’r elusen yn gwneud buddsoddiadau a sut mae’r buddsoddiadau hynny yn datblygu dibenion yr elusen.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn cynnwys:
- darparu enillion ariannol (incwm neu dwf cyfalaf) er mwyn cyllido gweithgareddau’r elusen
- buddsoddi arian wrth gefn yr elusen yn unol â’r hyn a nodir yn y polisicronfeydd wrth gefn
Gall hyn hefyd gynnwys buddsoddiadau sy’n datblygu dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol, er enghraifft, drwy ddulliau buddsoddi cyfrifol, effaith neu gymdeithasol.
Ystyriaethau cyfreithiol ac ymarferol
Rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â’r dyletswyddau a’r gofynion cyfreithiol sy’n cael eu nodi yn Buddsoddi arian elusennol: canllawiau i ymddiriedolwyr (CC14)', y Comisiwn Elusennau a gwneud penderfyniadau er budd gorau’r elusen, gan adolygu’r dull buddsoddi’n rheolaidd.
Gall ymddiriedolwyr (gan weithio gyda chymorth staff, aelodau pwyllgor ac unigolion eraill) benderfynu sut i fuddsoddi a sicrhau bod ystod eang o opsiynau ar gael. Bydd yr Egwyddorion yn helpu ymddiriedolwyr a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw i weithio drwy’r ystyriaethau llywodraethu.
Mae pob ymddiriedolwr yn cael ei gyfeirio at le i ddod o hyd i wybodaeth am eu cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â buddsoddiadau a gallan nhw gael gafael ar hyfforddiant sy’n briodol i gyd-destun eu helusen a’u rôl.
Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol ar y cyd am fuddsoddiadau eu helusen. Mae’r ymddiriedolwyr hynny sydd ag arbenigedd buddsoddi proffesiynol yn gyfrifol am ansawdd y cyngor y maen nhw’n ei rhoi i’r elusen. Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau ymddiriedolwyr ar gael yng nghanllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau.
Mae llawer o gwmnïau cyfreithiol a rheolwyr buddsoddi hefyd yn cynnig hyfforddiant sy’n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Mae’r ymddiriedolwyr (gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor yn ôl yr angen) yn dilyn gofynion canllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau, gan gynnwys:
- gwirio a dilyn unrhyw gyfyngiadau neu ofynion penodol, er enghraifft yn nogfen lywodraethol yr elusen neu a ddatganwyd gan roddwr, sy’n effeithio ar allu’r elusen i wneud buddsoddiadau
Gall rhoddwyr osod cyfyngiadau ar eu rhoddion, er enghraifft gallai rhoddwr ddweud pan fuddsoddir rhodd fod rhaid gwario unrhyw incwm a gynhyrchir ar faes penodol o ddibenion yr elusen neu ddibenion yr elusen yn gyffredinol; neu ar a ddylid trin yr anrheg fel parhaol neu gwariadwy gwaddol; neu ar sut y gellir buddsoddi'r rhodd. Rhaid i ymddiriedolwyr ddeall unrhyw gyfyngiadau a roddir gan y rhoddwr a sicrhau bod y rhain yn cael eu cadw wrth wneud unrhyw benderfyniadau buddsoddi.
Gallai cyfyngiadau ar wneud buddsoddiadau gynnwys y canlynol:
- osgoi dosbarthiadau asedau penodol
- pan mae rhoddwr wedi nodi mai dim ond mewn ffordd benodol y mae am i’w arian gael ei fuddsoddi, er enghraifft er mwyn lleihau difrod amgylcheddol
Dylai unrhyw gyfyngiadau ar wneud buddsoddiadau gael eu cofnodi’n ysgrifenedig.
O bryd i’w gilydd, gall ymddiriedolwyr, gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor, adolygu a yw’r cyfyngiadau yn parhau i wneud synnwyr, er enghraifft, gellid ystyried bob 5-10 mlynedd a yw’r cyfyngiadau yn parhau i fod yn addas yng nghyd-destun yr elusen. Gall fod angen cyngor cyfreithiol a/neu gyngor ar fuddsoddiadau cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud. Pan fydd ymddiriedolwyr yn dymuno newid y cyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethu, rhaid iddynt ddilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol. Gweler dogfen (CC36) y Comisiwn Elusennau am ragor o fanylion.
- deall strwythur yr elusen (er enghraifft, p’un ayw’n gorfforedig neu’n anghorfforedig), a goblygiadau hyn ar gyfer caelbuddsoddiadau
CC14 - 'Os yw eich elusen yn gwmni neu’n Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), neu’n gorff corfforaethol arall, gall ddal buddsoddiadau yn ei henw ei hun.
Ar gyfer mathau eraill o elusennau, megis ymddiriedolaethau ac elusennau eraill anghorfforedig, mae'n rhaid i'r ymddiriedolwyr ddal buddsoddiadau yn eu henwau ar ran eu helusen. Ar gyfer yr elusennau hyn gall arbed costau a bod yn fwy cyfleus penodi enwebai neu geidwad i ddal buddsoddiadau, ond gall unrhyw fath o elusen wneud y penodiadau hyn.”
Dylid rhestru strwythur yr elusen yn y dogfen lywodraethol.
Ar gyfer elusen sy’n Fudiad Corfforedig Elusennol neu’n gwmni elusennol, ni waeth beth yw ei maint, dylid cadw buddsoddiadau (er enghraifft cyfrif banc neu bortffolio buddsoddi) yn enw’r elusen oherwydd bod ganddi ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun. Mae’n bosibl y bydd rhai neu’r cyfan o’r ymddiriedolwyr yn cael eu henwi ar y mandad banc. Gall staff gael eu henwi ar y mandad banc os nad oes unrhyw gyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethu a bod ganddyn nhw awdurdod wedi’i ddirprwyo gan yr ymddiriedolwyr.
Rhaid i elusen anghorfforedig, beth bynnag fo’i maint, gadw buddsoddiadau (er enghraifft cyfrif banc neu bortffolio buddsoddi) yn enw’r ymddiriedolwyr oherwydd nad oes gan yr elusen ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun. Bydd rhai neu’r cyfan o’r ymddiriedolwyr yn cael eu henwi ar y mandad banc er mwyn iddyn nhw allu rheoli’r cyfrif banc. Gall staff gael eu henwi ar y mandad banc os nad oes unrhyw gyfyngiadau yn y ddogfen lywodraethu a bod ganddyn nhw awdurdod wedi’i ddirprwyo gan yr ymddiriedolwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am strwythurau elusennau, ewch i:
- deall y math o gronfeydd sydd gan yr elusen, er enghraifft cronfeydd anghyfyngedig, cronfeydd gwaddol
Gweler yr eirfa am esboniad o gronfeydd anghyfyngedig, dynodedig, cyfyngedig , a chronfeydd wrth gefn, gwaddol treuliadwy a pharhaol.
Ar gyfer yr elusennau hynny sy’n paratoi cyfrifon, mae Datganiad o'r Arfer a Argymhellir yn rhoi arweiniad. yr elusen yn cynnig arweiniad. Mae’r cyfrifon yn dechrau gyda’r Datganiad Gweithgareddau Ariannol.
Mae hyn yn cynnwys manylion am y canlynol:
- lefel unrhyw gronfeydd anghyfyngedig, cyfyngedig, dynodedig a gwaddol
- incwm: gallai hyn gynnwys incwm o roddion, cymynroddion, grantiau, aelodaeth, gweithgareddau masnachu (e.e. rhedeg caffi neu siop elusen) ac incwm buddsoddiadau (e.e. difidendau sy’n cael eu talu ar gyfranddaliadau, rhent o eiddo buddsoddi). Nid yw’r incwm fel arfer yn cynnwys twf cyfalaf ar fuddsoddiadau’r elusen.
- gwariant: gallai hyn gynnwys talu staff, costau rhentu eiddo, talu grantiau, costau codi arian a chostau rheoli buddsoddiadau
- enillion/colledion buddsoddi: mae hyn yn cynnwys unrhyw gynnydd neu ostyngiad yng ngwerth buddsoddiadau’r elusen. Nid yw hwn wedi’i restru fel incwm ac fel arfer mae’n ymddangos ymhellach i lawr mantolen elusen
Mae llawer o gwmnïau cyfrifeg a chyrff aelodaeth yn darparu cyrsiau hyfforddiant i ymddiriedolwyr ar ddarllen cyfrifon elusen