document icon

Polisi buddsoddi

Wedi’u hamlinellu isod mae eitemau y dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor eu hystyried, gan gynnwys polisi buddsoddi. Mae’r polisi buddsoddi yn adnodd i gofnodi dull gweithredu cytunedig yr elusen ac i ddangos i’r rheini â rôl mewn rheoli buddsoddiadau’r elusen sut i ddilyn dull gweithredu cytunedig yr elusen. Fel y nodwyd yn Egwyddor 7, gellir hefyd rannu’r polisi buddsoddi’n gyhoeddus fel rhan o ddull gweithredu agored ac atebol. I rai elusennau, mae’n bosibl bod rhai o’r eitemau a restrir isod wedi’u cofnodi mewn polisïau eraill.

Diben buddsoddiadau ac amcanion buddsoddi (Egwyddor 1 a Egwyddor 3)

  • sut mae amcanion buddsoddi’r elusen yn cefnogi ac yn hyrwyddo dibenion yr elusen
  • os yw dogfen lywodraethu’r elusen yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau neu gyfyngiadau o ran buddsoddiadau neu pa faterion y mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ymdrin â nhw
  • ar gyfer elusennau sydd â gwaddol: a yw’r elusen yn dal gwaddol parhaol neu waddol treuliadwy; a yw’r elusen wedi mabwysiadu dull elw gwirioneddol
  • ar gyfer elusennau sydd â gwaddol treuliadwy: y cyfnod y mae’r elusen yn bwriadu gweithredu; ai’r nod yw cadw gwerth, tyfu neu wario; a sut mae’r dull hwn yn cyflawni dibenion yr elusen
  • sut mae’r polisi buddsoddi yn rhyngweithio â’r polisi cronfeydd wrth gefn ac agweddau eraill ar waith yr elusen

Strwythur llywodraethu (Egwyddor 2 a Egwyddor 4)

  • pa Ymddiriedolwyr fydd yn goruchwylio buddsoddiadau’r elusen, cyfansoddiad unrhyw bwyllgor a sut bydd y berthynas rhwng ymddiriedolwyr ac unrhyw staff/pwyllgor sydd â chyfrifoldebau dirprwyedig yn cael ei llywodraethu (fframwaith dirprwyo)
  • sut bydd y berthynas rhwng yr elusen ac unrhyw ddarparwr proffesiynol yn cael ei llywodraethu (gan gyfeirio at y fframwaith dirprwyo)
  • a fydd yr elusen yn derbyn cyngor gan rywun sydd â phrofiad o faterion buddsoddi, ac a yw’n Ymddiriedolwr/aelod o’r pwyllgor, yn aelod o staff, yn wirfoddolwr neu’n ddarparwr proffesiynol annibynnol

Gwrthdaro â dibenion a risgiau i enw da (Egwyddor 3)

  • gwrthdaro a nodwyd rhwng dibenion yr elusen a buddsoddiadau posibl y mae angen eu rheoli
  • risgiau a nodwyd i enw da y mae angen eu rheoli
  • lle mae gwrthdaro neu risgiau i enw da wedi cael eu nodi a lle penderfynwyd bod angen osgoi neu reoli’r rhain, sut bydd hyn yn cael ei wneud (er enghraifft drwy waharddiadau neu ddulliau buddsoddi cyfrifol)

Dull buddsoddi (Egwyddor 4)

  • swm yr elusen i’w fuddsoddi, dyraniadau i fuddsoddiadau ariannol a chymdeithasol
  • anghenion tymor byr, tymor canolig a thymor hir; anghenion hylifedd
  • targedau ariannol
  • parodrwydd i dderbyn risg
  • dyrannu asedau

Sut bydd dulliau buddsoddi cyfrifol yn cael eu defnyddio:

  • rheoli gwrthdaro â dibenion yr elusen a risgiau i enw da
  • ochr yn ochr â monitro ffactorau ESG i reoli risg a chryfhau perfformiad ariannol
  • hyrwyddo dibenion yr elusen y tu hwnt i elw ariannol

Adolygu buddsoddiadau'r elusen

  • sut bydd buddsoddiadau’n cael eu monitro a’u hadolygu, gan gynnwys unrhyw feincnodau ac amseru adolygiadau

Darparwyr proffesiynol allanol (gall hyn ffurfio atodiad i'r prif bolisi)

  • pwy yw’r darparwyr proffesiynol (e.e. rheolwyr buddsoddi, cynghorwyr buddsoddi), eu haddasrwydd, eu cyfrifoldeb a’u cylch gwaith
  • pan fydd yr elusen yn dirprwyo’r broses o wneud penderfyniadau i reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi (rheoli yn ôl disgresiwn) pa benderfyniadau y gallant ac na allant eu gwneud, sut dylid gwneud penderfyniadau ar ran yr elusen
  • ffioedd a thaliadau

Buddsoddi cymdeithasol

Os yw’r elusen yn bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, mae manylion wedi’u cynnwys yn y polisi buddsoddi neu mewn polisi buddsoddi cymdeithasol annibynnol.

Enghreifftiau o sefydliadau

Lawrlwythwch y dudalen hon

Polisi Buddsoddi