2. Arweinyddiaeth
Disgrifiad
Mae’r bwrdd yn darparu arweinyddiaeth ar fuddsoddiadau, wedi’i gefnogi gan strwythur llywodraethu cryf a fframwaith dirprwyo.
Rhesymeg
Mae gan y bwrdd gyfrifoldeb terfynol ac ar y cyd dros fuddsoddiadau’r elusen. Yn dibynnu ar gyd-destun yr elusen, gall nifer o unigolion a mudiadau fod yn rhan o’r gwaith o helpu i bennu agwedd strategol yr elusen tuag at fuddsoddiadau, er enghraifft aelodau staff, pwyllgor cyllid/buddsoddiadauneu neu reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi allanol. Bydd strwythur llywodraethu cryf a fframwaith dirprwyo yn sicrhau bod gan y bwrdd fynediad at adnoddau ac arbenigedd i gyflawni ei ddyletswyddau goruchwylio cyfreithiol mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen.
Canlyniadau allweddol
- Mae pob ymddiriedolwr yn deall ei ddyletswyddau mewn perthynas â buddsoddiadau.
- Mae gan yr elusen strwythur llywodraethu a mecanweithiau ar gyfer llywodraethu buddsoddiadau sy’n adlewyrchu maint a chymhlethdod y buddsoddiadau sy’n bodoli.
- Mae fframwaith ar gyfer dirprwyo sy’n briodol i faint yr elusen a chymhlethdod y buddsoddiadau sy’n bodoli.
Ymarfer
Arweinyddiaeth
Dyletswyddau ymddiriedolwyr
Fel y nodir yng nghanllawiau CC14 y Comisiwn Elusennau ar fuddsoddi arian elusennol, rhaid i ymddiriedolwyr ddilyn egwyddorion gwneud penderfyniadau da, gweithredu gyda gofal a sgiliau rhesymol a chadw cofnod o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynglŷn â buddsoddiadau a sut cafodd y penderfyniadau hyn eu cyrraedd.
Bydd yr Egwyddorion yn helpu ymddiriedolwyr (a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw) i ddeall yr ystod o ffactorau y mae modd eu hystyried mewn perthynas â buddsoddiadau’r elusen er mwyn helpu i wneud penderfyniadau da.
Mae argymhellion ar gyfer penderfyniadau y dylid eu cofnodi yn cael eu nodi drwy gydol yr Egwyddorion.
I gael rhagor o wybodaeth am weithredu gyda gofal a sgìl resymol, gweler, Egwyddor 4 & Egwyddor 5.
I gael rhagor o wybodaeth am gymryd cyngor, gweler Egwyddor 4.
I gael rhagor o wybodaeth am ddirprwyo, gweler Egwyddor 2 - ac Egwyddor 4 gweithio gyda darparwyr allanol.
Yn ogystal â’r canllawiau ar wneud penderfyniadau yn CC14, mae’r Comisiwn Elusennau hefyd yn rhoi canllawiau ar Wneud penderfyniadau ar gyfer ymddiriedolwyr elusen (CC27)'.
Strwythur llywodraethu
Mae pob ymddiriedolwr yn deall bod amrywiaeth o sgiliau, profiadau a safbwyntiau ymysg yr unigolion hynny sy’n goruchwylio buddsoddiadau’r elusen yn arwain at arferion cryfach. Mae ymddiriedolwyr a staff yn archwilio ac yn gweithredu dulliau i sicrhau bod strwythur llywodraethu buddsoddi’r elusen yn gynhwysol.
Mae gan yr elusen ddigon o adnoddau ac arbenigedd cyllid neu fuddsoddi, ymysg ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor, sy’n gymesur â maint a chymhlethdod y buddsoddiadau sydd ganddi:
- pan mae gan elusen fuddsoddiadau cyfyngedig mewn cyfrif banc, mae goruchwyliaeth a rheolaeth yn cael eu darparu gan o leiaf ddau unigolyn neu gan bwyllgor presennol sydd â chyfrifoldebau cyllid.
- pan fydd gan elusen fuddsoddiadau y tu hwnt i gyfrif banc, ond nad yw’r rhain yn sylweddol nac yn gymhleth, darperir goruchwyliaeth gan o leiaf dau unigolyn, un sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth ariannol, neu gan bwyllgor â chyfrifoldebau ariannol sydd eisoes yn bodoli.
Gallai buddsoddiadau y tu hwnt i gyfrif banc gynnwys cronfa adneuo gyffredin, buddsoddiadau tebyg i arian parod neu bortffolio gydag amrywiaeth o fuddsoddiadau, gan gynnwys cronfeydd cyfun. Mae’r buddsoddiadau hyn yn debygol iawn o roi mwy o elw ariannol i’r elusen dros y tymor hir na chadw arian mewn cyfrif banc ond mae ganddyn nhw hefyd fwy o risg.
Gallai’r ddau unigolyn sy’n darparu goruchwyliaeth fod yn ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor.
Gallai dealltwriaeth ariannol gynnwys cefndir mewn rhedeg busnes, gweithio mewn adran gyllid, cyfrifeg, bancio neu reoli buddsoddiadau. Gallai hefyd gynnwys profiad o reoli eu buddsoddiadau personol eu hunain.
Dylai unrhyw unigolyn â dealltwriaeth ariannol allu dangos dealltwriaeth o’r mathau o fuddsoddiadau sydd gan yr elusen
Mae buddsoddiadau sylweddol yn cynnwys elusennau sydd â mwy nag £20 miliwn, ond gallai elusennau â llai na’r swm hwn hefyd ystyried sefydlu pwyllgor buddsoddi (gweler y pwynt isod ar elusennau â buddsoddiadau sylweddol). Gallai buddsoddiadau cymhleth gynnwys elusennau â phortffolio amrywiol o ddosbarthiadau gwahanol o asedau, neu pan ddefnyddir nifer o reolwyr buddsoddiadau, gan gynnwys cyllid a gyfunir. Dylai ymddiriedolwyr ystyried cyd-destun eu helusen.
- pan mae gan elusen fuddsoddiadau sylweddol neu gymhleth, mae is-bwyllgor i’r bwrdd yn cael ei sefydlu gyda throsolwg agosach o’r buddsoddiadau. Gall y pwyllgor hwn oruchwylio cyllid a buddsoddi. Gall y pwyllgor gynnwys ymddiriedolwyr, staff ac aelodau cyfetholedig. Mae unigolion sydd ag arbenigedd yn nibenion yr elusen yn cael eu cynnwys yn y pwyllgor.
Mae buddsoddiadau sylweddol yn cynnwys elusennau sy’n cadw dros £20m, er y gall elusennau sydd â llai na’r swm hwn hefyd ystyried sefydlu pwyllgor buddsoddi.
Gallai buddsoddiadau cymhleth gynnwys elusennau sydd â phortffolio buddsoddiadau amrywiol o ddosbarthiadau asedau, gwahanol, neu lle mae nifer o reolwyr buddsoddi gan gynnwys cronfeydd cyfun. Dylai ymddiriedolwyr ystyried cyd-destun eu helusen.
Gallai unigolion ar y pwyllgor gynnwys ymddiriedolwyr neu staff sydd ag arbenigedd mewn cyllid a buddsoddiadau, a gallan nhw hefyd gynnwys aelodau cyfetholedig.
Dylai elusennau sy’n derbyn cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau perthnasol yn CC14. Gallai’r aelodau cyfetholedig fod yn wirfoddolwyr neu’n gynghorwyr cyflogedig gydag arbenigedd mewn buddsoddi. Dylid hefyd ystyried sut bydd y rheini sydd ag arbenigedd yng nghyswllt dibenion yr elusen yn cael eu cynrychioli ar y pwyllgor.
Pan fydd cynghorwyr a delir yn cael eu defnyddio o fewn y strwythur llywodraethu i helpu i oruchwylio buddsoddiadau, naill ai fel aelodau pwyllgor neu’n fwy cyffredin, fel cynghorwyr i’r pwyllgor, dylai unrhyw gyngor a roddir fod yn ddiduedd.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd y bwrdd cyfan yn dymuno cymryd rhan yn hytrach na sefydlu is-bwyllgor. Yn yr achos hwn, dylid ystyried a oes digon o amser a chapasiti yn y bwrdd i oruchwylio buddsoddiadau’n effeithiol.
Mae gan unrhyw bwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau Gylch Gorchwyl clir sy’n nodi tasgau a chyfrifoldebau aelodau’r pwyllgor, a’r berthynas rhwng y pwyllgor a’r bwrdd. Mae’r Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru ar adegau priodol.
Gall y pwyllgor arwain neu gynorthwyo ymddiriedolwyr gydag amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys:
- adolygu, gwneud argymhellion a chyfrannu at ysgrifennu polisi buddsoddi’r elusen
- penodi, monitro ac adolygu rheolwyr buddsoddi a/eu gynghorwyr buddsoddi’r elusen, perfformiad mewn perthynas â thargedau yn y polisi buddsoddi, eu ffioedd a’u taliadau
- pennu meincnodau risg ac enillion ar gyfer y portffolio buddsoddiadau a monitro perfformiad
- sicrhau bod dibenion yr elusen yn cael eu rhoi ar y blaen, bod y buddsoddiadau’n mynd ymhellach ac yn cefnogi’r dibenion, a bod gwrthdaro a risgiau i enw da yn cael eu hosgoi a’u rheoli
Gall Cylch Gorchwyl y pwyllgor gynnwys:
- cyfeiriad at y fframwaith dirprwyo y mae tasgau’n cael eu dirprwyo i’r pwyllgor o’r bwrdd
- amlder cyfarfodydd, amser paratoi, unrhyw ymrwymiadau amser ychwanegol
- llywodraethu’r pwyllgor, er enghraifft a fydd Cadeirydd, sut bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud
- pa mor aml a thrwy ba ddulliau y bydd y pwyllgor yn adrodd i’r bwrdd
- bydd gwybodaeth yn cael ei darparu mewn modd amserol
- bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn modd cynhwysol (gweler Egwyddor 6 - cynhwysiant)
- penodiadau i’r pwyllgor (gweler Egwyddor 5 - recriwtio)
Dylid diweddaru’r Cylch Gorchwyl i adlewyrchu unrhyw newidiadau yng ngweithrediadau’r pwyllgor, a’i adolygu ar adegau priodol, er enghraifft bob 4-5 mlynedd yn unol ag adolygiad o ddarparwyr proffesiynol (e.e. rheolwyr buddsoddi a chynghorwyr buddsoddi).
Y Gymdeithas Ddaearegol (rhif elusen 210161)
Turn2Us (rhif elusen 207812)
Os yw’r elusen yn bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn sicrhau bod gan yr elusen fynediad at ddigon o arbenigedd i wneud a goruchwylio unrhyw fuddsoddiadau cymdeithasol, gan gynnwys gan y rheini sydd ag arbenigedd at ddibenion yr elusen.
Mae modd goruchwylio buddsoddiadau cymdeithasol o fewn y strwythur llywodraethu presennol, er enghraifft gan yr un ymddiriedolwyr/aelodau pwyllgor sy’n goruchwylio buddsoddiadau’r elusen. Os yw elusen yn gwneud nifer o fuddsoddiadau cymdeithasol i fudiadau allanol, gall fod yn fuddiol sefydlu pwyllgor buddsoddiadau cymdeithasol ar wahân.
Beth bynnag fo’r strwythur llywodraethu a fydd yn cael ei ddewis, gall yr elusen chwilio am unigolion sydd ag arbenigedd perthnasol, gallai hyn gynnwys dealltwriaeth ariannol (e.e. perchennog busnes, cyfrifydd), profiad o reoli buddsoddiadau, profiad o gyflawni effaith gymdeithasol (e.e. drwy weithio mewn elusen neu fenter gymdeithasol), dealltwriaeth o ddibenion yr elusen (e.e. profiad personol neu brofiad wedi’i ddysgu sy’n ymwneud â’r dibenion). Dylai broses recriwtio unigolion ystyried nodau gwahanol, a phroffiliau risg/enillion buddsoddiadau cymdeithasol o’u cymharu â rheoli buddsoddiadau prif ffrwd.
Gall arbenigedd ddod hefyd gan aelodau staff neu ddarparwyr proffesiynol (e.e. ymgynghorwyr cyfreithiol neu ymgynghorwyr buddsoddi cymdeithasol).
Mae rhaglen Pwyllgorau Buddsoddi Cyllid Da’r Dyfodol wedi’i chynllunio i gynyddu nifer yr unigolion sy’n dod cynnig gwell amrywiaeth a mwy o brofiad personol i’r broses o wneud penderfyniadau buddsoddi.
Fframwaith dirprwyaethau
Mae fframwaith dirprwyo yn cael ei greu gan ymddiriedolwyr, gyda chefnogaeth gan staff neu aelodau pwyllgor, sy’n nodi pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar lefel bwrdd, gan staff, gan bwyllgor (os yw’n berthnasol) a chan fudiadau allanol fel rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi. mae’r fframwaith dirprwyo yn gosod lefel briodol o reolaeth yn dibynnu ar faint a chymhlethdod buddsoddiadau’r elusen. mae’r fframwaith yn cael ei gymeradwyo gan y bwrdd a’i adolygu ar adegau priodol.
Mae fframwaith dirprwyo (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘gynllun dirprwyo’), yn nodi sut bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut bydd swyddogaethau penodol yn cael eu cyflawni, gan gynnwys pwy fydd yn gwneud penderfyniadau. Gallai buddsoddiadau gael eu cynnwys mewn fframwaith dirprwyo ehangach a ddatblygwyd gan yr elusen, neu fel fframwaith annibynnol. Rhaid i’r fframwaith dirprwyo gael ei gymeradwyo gan yr ymddiriedolwyr.
Dylai ymddiriedolwyr adolygu’r fframwaith dirprwyo bob blwyddyn, neu bryd bynnag y caiff newidiadau eu gwneud, a chadw’r pŵer i ddiystyru neu ddirymu dirprwyaeth.
Mae’r fframwaith yn gallu cynnwys:
Cyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr:
- bwrdd yr Ymddiriedolwyr (neu gyfatebol) sy’n bennaf gyfrifol am lywodraethu buddsoddiadau yn yr Elusen (a rhestru unrhyw gorff arall sydd â chyfrifoldebau llywodraethu buddsoddiadau o fewn yr elusen, er enghraifft Awdurdod Lleol)
- Mae ymddiriedolwyr, gyda chyngor gan staff ac aelodau pwyllgor yn ôl yr angen, yn gosod y targedau ariannol ar gyfer y buddsoddiadau. Bydd hyn fel arfer yn golygu pennu anghenion ariannol y mudiad a deall i ba raddau y bydd y buddsoddiadau’n diwallu’r rhain (ar gyfer llawer o elusennau, bydd anghenion ariannol yn cael eu diwallu drwy godi arian yn hytrach nag enillion buddsoddiadau).
- Mae ymddiriedolwyr yn cymeradwyo penodi darparwyr proffesiynol (er enghraifft rheolwyr buddsoddi, cynghorwyr buddsoddi) ac yn cymeradwyo’r polisi buddsoddi.
- Mae ymddiriedolwyr yn cymeradwyo dyraniad asedau a lefelau archwaeth risg byddai hyn fel arfer yn seiliedig ar argymhellion gan bwyllgor, aelod o staff neu ddarparwr proffesiynol.
- Mae gan ymddiriedolwyr y pŵer i ddirprwyo rhai cyfrifoldebau (fel sy’n cael ei amlinellu yn y ddogfen lywodraethu neu fel pŵer cyfreithiol) i bwyllgor neu aelod o staff
Gallai cyfrifoldebau sy’n cael eu dirprwyo i bwyllgor neu aelod o staff sy’n amodol ar gymeradwyaeth y bwrdd gynnwys y canlynol:
- gosod targedau buddsoddi yn unol ag anghenion ariannol yr elusen a rhagolygon realistig o berfformiad buddsoddiadau
- chwilio am ddarparwr proffesiynol ac adolygiad bob 4-5 mlynedd
- argymell dyrannu asedau’n briodol a lefelau archwaeth risg ar gyfer buddsoddiadau
- ysgrifennu a diweddaru’r polisi buddsoddi
Gallai penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar lefel pwyllgor sydd ddim yn amodol ar gymeradwyaeth y bwrdd gynnwys y canlynol:
- nodi meincnodau
- monitro perfformiad darparwyr proffesiynol
Gallai penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y darparwr proffesiynol yn amodol ar gymeradwyaeth y pwyllgor gynnwys y canlynol:
- cais i newid ffiniau dosbarth asedau
Gallai penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan ddarparwr proffesiynol sydd ddim yn amodol ar gymeradwyaeth gynnwys y canlynol:
- gwneud penderfyniadau buddsoddi (prynu neu werthu buddsoddiadau penodol) yn unol â’r polisi buddsoddi, gan gynnwys y dyraniad asedau a’r paramedrau risg a gymeradwywyd gan yr ymddiriedolwyr
- rheoli’r buddsoddiadau o ddydd i ddydd
Gallai’r cyfrifoldebau sy’n cael eu dirprwyo i aelod o staff gynnwys y canlynol:
- goruchwylio a chysylltu â darparwyr proffesiynol o ddydd i ddydd
- gweithio gyda’r pwyllgor i gyflawni’r cyfrifoldebau sydd wedi’u rhestru uchod
Dylid adolygu’r fframwaith dirprwyo pryd bynnag y bydd angen gwneud newidiadau, ac fel rhan o adolygiad gan ddarparwr proffesiynol bob 4-5 mlynedd.
Mae unrhyw ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig yn adrodd i’r bwrdd ar adegau priodol fel bod y bwrdd yn cadw’r cyfrifoldeb a’r oruchwyliaeth.
Mater i’r elusen benderfynu arno fydd cyfnodau priodol.
Ar gyfer elusennau sydd â chyfrif banc/buddsoddiadau tebyg i arian parod, gallai hyn gynnwys diweddariad chwarterol ar y swm sy’n bodoli ac ymhle, gydag adolygiad blynyddol o a oes cyfraddau llog gwell neu enillion ariannol ar gael.
Ar gyfer elusennau sydd â buddsoddiadau mwy cymhleth, gallai’r rheini sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau roi diweddariad chwarterol byr i’r holl ymddiriedolwyr, er y dylid nodi y gallai fod amrywiadau yng ngwerth buddsoddiadau dros gyfnodau byr na fydd yn arwain at newidiadau ar unwaith i’r strategaeth fuddsoddi gyffredinol. Gall ymddiriedolwyr hefyd ystyried edrych yn fanylach ar fuddsoddiadau’r elusen yn llai aml, er enghraifft diweddariad blynyddol hirach ar berfformiad, sesiwn yn edrych ar sut mae’r buddsoddiadau’n hyrwyddo ac yn cefnogi dibenion yr elusen neu sut mae gwrthdaro â dibenion yr elusen a risgiau i enw da yn cael eu rheoli.