Yr Egwyddorion Llywodraethu Buddsoddiadau Elusennau
Cyflwyniad
Y bwriad yw i’r Egwyddorion gael eu defnyddio gan y rhai sy’n ymwneud â llywodraethu elusennau yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor.
Bydd rhai elusennau eisoes yn gweithredu’r rhan fwyaf o’r argymhellion, ac i eraill bydd rhai o’r arferion sy’n cael eu hargymell yn uchelgeisiol. Dylai defnyddwyr weld yr Egwyddorion fel cyfrwng ar gyfer gwella ac annog.
Dylai defnyddwyr ddarllen Defnyddio'r Egwyddorion yngyntaf i sicrhau eu bod yn edrych ar arferion sy’n berthnasol i gyd-destun euhelusen. Dylai elusennau llai, er enghraifft y rheini â llai nag £1 miliwn mewnasedau sy’n buddsoddi arian yn bennaf (mewn banc neu gyfrif cynilo) gyfeirio at Elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf.
Nid yw’r Egwyddorion yn ofynion cyfreithiol na rheoleiddiol ac nid ydyn nhw’n ceisio nodi’r holl ofynion cyfreithiol. Mae 'Investing charity money: guidance for trustees (CC14) Comisiwn Elusennau yn rhoi cyngor ar ddisgwyliadau cyfreithiol a rheoliadol elusennau mewn perthynas â buddsoddiadau yng Nghymru a Lloegr. Bwriedir i’r Egwyddorion gael eu defnyddio fel adnodd i roi help a chymorth ymarferol ychwanegol.
Mae’r Egwyddorion yn adnodd newydd a fydd yn datblygu ar sail adborth ganddefnyddwyr elusennol.
Gwybodaeth am yr Egwyddorion
Mae’r Egwyddorion wedi cael eu datblygu gan Grŵp Llywio sy’n cynnwys Grŵp Cyllid Elusennau, Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol, Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac Ysgrifenyddiaeth Rhwydwaith Buddsoddi Cyfrifol Elusennau, sy’n ymgynghori dros 100 o elusennau, a chyda mewnbwn gan gyfreithwyr elusennol, cyfrifwyr siartredig, rheolwyr buddsoddi a chynghorwyr, ac unigolion a mudiadau perthnasol eraill.
Yn ymuno â’r Grŵp Llywio fel cynghorwyr arbenigol roedd Luke Fletcher, partner yn Bates Wells, Elizabeth Jones, partner yn Farrer & Co a Kristina Kopic, Pennaeth y Sector Elusennol a Gwirfoddol yn Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr. Darparodd y Social Justice Collective a’r Social Investment Consultancy gefnogaeth ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y prosiect. Ymunodd cynrychiolwyr o Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr â’r prosiect fel arsylwyr annibynnol.