three people with intertwined arms icon

6. Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

question mark icon
Ddim yn siŵr beth sy’n berthnasol i’ch elusen? Darllenwch Defnyddio’r Egwyddorion

Disgrifiad

Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n ymwneud â buddsoddiadau’r elusen yn ymrwymo i archwilio, deall a gweithredu o ran tegwch, amrywiaeth and chynhwysiant.

Rhesymeg

Dull cynhwysol, lle mae lleisiau gwahanol yn cael eu clywed a safbwyntiau rhanddeiliaid yn cael eu hystyried yn effeithiol, yw’r man cychwyn ar gyfer mynd i’r afael ag annhegwch mewn arferion buddsoddi. Mae dealltwriaeth gynyddol bod diffyg amrywiaeth mewn arferion buddsoddi mewn elusennau, gan gynnwys ymysg ymddiriedolwyr, staff, aelodau pwyllgor ac yn nhimau’r rhai sy’n darparu cyngor a rheoli buddsoddiadau, yn gallu arwain at feddylfryd grŵp, anghydbwysedd pŵer ac at wneud penderfyniadau gwannach. Pan fydd elusen yn mynd i’r afael â chynhwysiant ac amrywiaeth mewn ffordd ystyrlon, mae modd pennu camau i wneud cynnydd tuag at arferion buddsoddi teg a gweithredu arnynt.

Canlyniadau allweddol

  • Mae’r rheini sy’n ymwneud â buddsoddiadau’r elusen yn deall sut gall dull cynhwysol, sy’n cynnwys pobl o amrywiaeth o gefndiroedd a safbwyntiau, arwain at wneud penderfyniadau cryfach.
  • Mae mewnbwn amrywiaeth eang o ymddiriedolwyr a staff â safbwyntiau a phrofiadau gwahanol yn helpu i sicrhau y canolbwyntir ar ddibenion yr elusen wrth fynd ati i fuddsoddi.
  • Ystyrir yr amrywiaeth o gefndiroedd a safbwyntiau ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau buddsoddi yn fewnol ac yn allanol a bod effaith hyn ar wneud penderfyniadau buddsoddi yn cael ei ddeall.
  • Mae tegwch ac effaith yn cael eu hystyried yn y strategaeth buddsoddi mewn ffordd sy’n briodol i faint a dull buddsoddi’r elusen.

Ymarfer

Dangos:
tick icon
Gorfodol
tick icon
Gorfodol, Argymell & Ystyried

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor yn ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau a barn am arferion buddsoddi elusennau.

Y
question mark icon
Dangos:
tick icon
Gorfodol
tick icon
Gorfodol, Argymell & Ystyried

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae buddsoddiadau’n cael eu cynnwys mewn trafodaethau rhwng ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor ynghylch tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Lle ceir anghysur neu ddiffyg dealltwriaeth ynghylch sut gallai EDI fod yn berthnasol i fuddsoddiadau, ceir mynediad at gyfleoedd ar gyfer dysgu.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - EDI mewn perthynas â buddsoddiadau

Er bod llawer o elusennau’n ystyried EDI mewn perthynas â gweithgareddau’r elusen, mae archwilio EDI mewn perthynas â buddsoddiadau yn digwydd yn llai aml. Mae’r dulliau o gael gafael ar ddysgu yn cynnwys:

  • archwilio strategaethau buddsoddi teg  
  • talu am gyngor gan unigolyn neu fudiad sydd ag arbenigedd ym maes EDI
outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth

Pan fydd yn ymarferol ac yn briodol, bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn edrych ar safbwyntiau rhoddwyr, cyflwynwyr grantiau, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ehangach o ran buddsoddiadau er mwyn hysbysu ymddiriedolwyr wrth gyflawni eu dyletswydd gofal.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - barn rhanddeiliaid

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod buddsoddiadau’r elusen yn cefnogi ac yn datblygu dibenion yr elusen. Er nad yw ymgynghori â rhoddwyr, cyflwynwyr grantiau, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid ehangach yn rheidrwydd cyfreithiol, gall chwarae rôl werthfawr mewn helpu i edrych ar sut mae’r buddsoddiadau yn cefnogi ac yn datblygu’r dibenion, a nodi achosion posibl o wrthdaro a niwed i enw da y dylid eu hosgoi.

Efallai na fydd yn ymarferol nac yn briodol i rai elusennau ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid, er enghraifft, nid yw’n debygol y bydd y rheini sy’n gweithio gyda phlant neu grwpiau ifanc yn gallu ymgysylltu â nhw ynghylch buddsoddiadau.

Bydd angen i elusennau gynllunio unrhyw ymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ofalus er mwyn sicrhau bod dulliau ymarferol o weithredu ar adborth rhanddeiliaid neu ymateb i’r adborth hwnnw.

Bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn mynd ati’n weithredol i ystyried ffyrdd o ymhél â safbwyntiau’r rhanddeiliaid. Gall hyn gynnwys:

  • arolygon, neu gynnwys buddsoddiadau’r elusen mewn arolygon rhanddeiliaid presennol
  • Adroddiadau CCB a chyfleoedd i ofyn cwestiynau
  • proses i randdeiliaid gyflwyno cwestiynau gydag amserlen ar gyfer sut bydd y rhain yn cael eu hateb
  • rôl ar bwyllgor yr elusen fel cyfranogwr neu gynghorydd i randdeiliaid sydd ag arbenigedd neu brofiad o ddibenion yr elusen

Lle bo angen, gall talu am amser neu dreuliau rhanddeiliaid sy’n cymryd rhan sicrhau chwarae teg i bawb sy’n cymryd rhan.

Efallai y bydd angen myfyrio hefyd ynghylch pa unigolion a grwpiau yn etholaeth rhanddeiliaid yr elusen allai wynebu rhwystrau rhag ymgysylltu.

outstretched hand with heart above icon
Enghreifftiau

Amrywiaeth

Mae trawstoriad o ymddiriedolwyr a staff yn archwilio’r cefndiroedd a’r safbwyntiau ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau buddsoddi, yn fewnol ac yn allanol, fel rheolwyr buddsoddi a chynghorwyr buddsoddi. Mae ystyriaeth yn cael ei roi i sut gall diffyg amrywiaeth ac ymarfer cynhwysol arwain at wneud penderfyniadau sy’n gul ac yn anhyblyg.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - amrywiaeth

Ystyrir amrywiaeth yn ei ystyr ehangaf, hynny yw nodweddion gwarchodedig a chefndir dosbarth cymdeithasol. Gall hyn gynnwys:

  • amrywiaeth y tîm mewnol neu allanol
  • Ymrwymiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) a wneir gan ddarparwyr allanol
  • dealltwriaeth o ddibenion yr elusen ymhlith penderfynwyr buddsoddi, er enghraifft, trwy brofiad bywyd neu brofiad a ddysgwyd
  • y gallu i asesu effaith negyddol buddsoddiadau
  • y gallu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y sectorau buddsoddi ac elusennol (fel buddsoddi cyfrifol, ESG, EDI, cyllid datblygu cymunedol)

Mae'r Prosiect Amrywiaeth yn bodoli i greu diwydiant buddsoddi a chynilo mwy amrywiol a chynhwysol.

outstretched hand with heart above icon
Enghreifftiau - cynlluniau gweithredu ac adroddiadau DEI

Mae ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor yn ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau a barn am arferion buddsoddi elusennau.

Y
question mark icon

Tegwch

Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn gweithredu i fod yn ymwybodol o arferion gorau sy’n esblygu o ran strategaethau buddsoddi sy’n ystyried tegwch ac effaith. Mae amrywiaeth o feysydd y mae modd eu harchwilio, ac efallai y bydd angen i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor flaenoriaethu’r meysydd hynny sydd fwyaf cydnaws â dibenion yr elusen, ac sy’n briodol i’w maint a’r adnoddau sydd ar gael.

Gallai’r meysydd i’w harchwilio gynnwys:

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - ystyried EDI o ran buddsoddiadau

Yn hanesyddol, nid yw rheoli buddsoddiadau, na’r economi’n ehangach, wedi ystyried tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

Er bod rhai arferion ar waith ers peth amser, er enghraifft, ar yr argyfwng hinsawdd a phontio teg, mae’r arferion yn parhau i ddod i’r amlwg mewn meysydd eraill, er enghraifft buddsoddi ar sail lens rhywedd a buddsoddi ar sail tegwch hiliol. Bydd archwilio’r meysydd hyn yn dibynnu ar gapasiti ac adnoddau’r elusen a’i pharodrwydd i dderbyn risg.

Dylai elusennau fod yn fwriadol ynghylch lle maent yn dewis canolbwyntio eu hymdrechion – pennu targedau a cherrig milltir, a bod yn barod i weithredu mewn ffordd y mae’r ymddiriedolwyr yn penderfynu ei bod er budd eu helusen, ac sy’n gyson â’i dibenion ac sy’n briodol i’w maint a’r adnoddau sydd ar gael.

outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth
  • argyfwng hinsawdd a’r pontio teg o ran buddsoddiadau’r elusen, gan gynnwys archwilio risgiau systemig
Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - argyfwng hinsawdd a phontio teg

Mae pontio teg yn ceisio sicrhau bod manteision sylweddol pontio i economi werdd yn cael eu rhannu’n eang, ar yr un pryd â chefnogi’r rheini allai fod ar eu colled yn economaidd – boed yn wledydd, yn rhanbarthau, yn ddiwydiannau, yn gymunedau, yn weithwyr neu’n ddefnyddwyr.

Mae’r argyfwng hinsawdd, a buddsoddiadau sy’n cyfrannu at yr argyfwng hwnnw, yn peri nifer o risgiau i fuddsoddwyr elusennau, gan gynnwys:

  • buddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion
  • buddsoddiadau sy’n peri risg i enw da
  • buddsoddiadau sy’n peri risg ariannol, er enghraifft gan y bydd yr argyfwng hinsawdd yn arwain at rai cwmnïau a sectorau yn tanberfformio neu’n dod i ben

Mae cyfleoedd hefyd ar gyfer buddsoddiadau elusennol, er enghraifft buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy a gweithgarwch a fydd yn helpu i bontio i economi werdd.

question mark icon
Enghreifftiau - arian parod

Holwch a yw eich banc yn darparu cyllid ar gyfer tanwydd ffosil

Mae 64 o sefydliadau ac ymddiriedolaethau blaenllaw ym maes Addysg Uwch yn y DU, gan gynnwys Prifysgolion Caergrawnt, Caeredin, Leeds, Rhydychen, Southampton, St Andrews, Westminster a Choleg Prifysgol Llundain, wedi cydweithio ar ymgais newydd i greu marchnad ar gyfer cynhyrchion ariannol nad ydynt yn cyllido’r gwaith o ehangu tanwydd ffosil.

question mark icon
Enghreifftiau - cyfranddaliadau

Mae’r Traciwr Carbon Flying Blind yn dadansoddi a yw cwmnïau a’u harchwilwyr yn asesu effeithiau ariannol materion newid hinsawdd a phontio ynni ac yn adlewyrchu’r effeithiau hyn mewn datganiadau ariannol yn yr oes sydd ohoni.

question mark icon
Enghreifftiau - mentrau perchennog asedau
question mark icon
Enghreifftiau - mentrau ar yr hinsawdd
question mark icon
Enghreifftiau - gwaredu
outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth
  • tarddiad asedau’r elusen ac arferion echdynnol parhaus yn y portffolio buddsoddi
Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - tarddiad asedau ac arferion echdynnol

Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio a yw asedau’r elusen wedi deillio o arferion echdynnol neu arferion echdynnol parhaus a, lle bo hynny’n wir, yn ystyried camau i fynd i’r afael â hyn. Gallai hyn gynnwys cydnabod, archwilio a bod yn dryloyw ynghylch tarddiad cyfoeth y mudiad, neu fynd ymhellach tuag at wneud iawn a/neu fuddsoddi teg.

Mae enghreifftiau o arferion echdynnol hanesyddol yn cynnwys caethwasiaeth eiddo a gwladychiaeth, ond gallai enghreifftiau o arferion echdynnol presennol gynnwys caethwasiaeth fodern neu gwmnïau sy'n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth - tarddiad cyfoeth
  • strategaethau sy’n mynd i’r afael ag annhegwch yn yr economi ehangach, er enghraifft buddsoddi mewn tegwch hiliol, lens rhywedd neu anghydraddoldeb
Y
question mark icon
cross icon
outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth - mynd i’r afael ag annhegwch yn yr economi ehangach

Cerdyn Sgorio Tegwch Hiliol – Cronfa Pathway gyda Sefydliad EIRIS a TSIC

Justice, Equity, Diversity and Inclusion (JEDI) investing

Bwlch cyflog ethnigrwydd ShareAction

Tegwch Hiliol a Buddsoddi Cyfrifol

Equileap

Tegwch hiliol IRIS+

Mae Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n gysylltiedig ag Anghydraddoldeb a Materion Cymdeithasol (TISFD) yn fenter fyd-eang i ddatblygu argymhellion sy'n galluogi busnesau a buddsoddwyr i ganfod, asesu ac adrodd yn effeithiol ar eu risgiau, cyfleoedd ac effeithiau o ran anghydraddoldeb a materion

Meini prawf 2X - safon sylfaenol fyd-eang ar gyfer cyllid rhywedd

Pecyn Cymorth Cyflymydd ‘SPRING’ - ysbrydoli buddsoddwyr i fuddsoddi mewn cwmnïau sy’n cael effaith gadarnhaol ar ferched a menywod ifanc

Banc adnoddau Intentional Endowment Network (UDA)

Sefydliad Compton/Sonen Capital (UDA) "Racial Equity in Investing Compass"

Sefydliad Nathan Cummings (UDA) - integreiddio tegwch hiliol yn y strategaeth buddsoddi

Strategaeth rheolwyr amrywiol Sefydliad Ford (UDA)

  • darparu cyllid i grwpiau sydd ar gyrion yr economi prif ffrwd
Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - darparu cyllid i grwpiau ar y cyrion

Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod rhai unigolion a grwpiau ar gyrion economi’r brif ffrwd. Mae dulliau o fynd i’r afael â hyn yn cynnwys ceisio buddsoddi mewn mudiadau a fyddai’n ei chael yn anodd cael gafael ar gyllid mewn mannau eraill, ar delerau sy’n deg ac sy’n darparu cyllid amyneddgar. Mae goblygiadau go iawn i symud cyfalaf o fuddsoddi eilaidd (er enghraifft buddsoddi mewn cyfranddaliadau cwmnïau sy’n cael eu masnachu’n fyd-eang) i fuddsoddi sylfaenol (darparu cyllid i fudiadau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol).

outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth

Mae trafodaethau’n cael eu cynnal gyda rheolwyr buddsoddi a chynghorwyr buddsoddi’r elusen i ddeall eu dull o fynd i’r afael â thegwch ac effaith yn y strategaeth buddsoddi.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - deall dulliau gweithredu tegwch ac effaith

Mae EDI yn faes cymharol newydd yn y byd buddsoddi. Gellir defnyddio trafodaethau archwiliol â rheolwr buddsoddiadau neu gynghorydd buddsoddi’r elusen fel cyfle dysgu i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ac i ddeall sut gallai’r rheolwr buddsoddiadau neu’r cynghorydd buddsoddi adrodd ar fetricsau EDI, tegwch ac effaith sy’n berthnasol i’r elusen.

Mae elusennau o bob maint yn ystyried pwysigrwydd eu llais a’u dewis wrth fynd i’r afael ag annhegwch.

Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - llais a dewis

Fel buddsoddwyr, mae elusennau’n cael cyfleoedd i wneud dewisiadau am eu buddsoddiadau a defnyddio eu llais i eirioli dros arferion buddsoddi sy’n mynd i’r afael ag annhegwch. Gall hyn gynnwys:

  • datgan yn gyhoeddus pam y dewiswyd cyfrif banc, rheolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi penodol
  • ymuno â chlymbleidiau buddsoddi a chydweithrediadau i ysgogi newid
  • rhoi cyhoeddusrwydd i fentrau a gynhelir gan reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi’r elusen i fynd i’r afael ag annhegwch

DEI: Meysydd gweithredu allweddol ar gyfer buddsoddwyr

Mae elusennau hefyd yn edrych ar wario eu gwaddolion i fynd i’r afael ag annhegwch hanesyddol:

Pan fydd gan elusen fuddsoddiadau cymdeithasol mae’r strategaeth a’r dull buddsoddi cymdeithasol yn ystyried anghydbwysedd pŵer rhwng yr elusen fel y buddsoddwr a’r mudiadau sy’n derbyn buddsoddiad. Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • buddsoddi ar delerau sy’n fforddiadwy, yn gefnogol, yn hyblyg ac yn deg
  • rhoi sylw dyledus i’r risgiau i’r buddsoddai a cheisio rhannu risgiau lle bynnag y bo modd
  • archwilio dulliau eraill o rannu pŵer gyda buddsoddeion
  • monitro data ar amrywiaeth y buddsoddeion a chael cynrychiolaeth o fewn y strwythur gwneud penderfyniadau gan unigolion sy’n adlewyrchu neu’n gallu cynrychioli profiad y buddsoddai 
Y
question mark icon
cross icon
question mark icon
Esboniad - anghydbwysedd o ran pŵer buddsoddi cymdeithasol

Mae’r camau y mae modd eu cymryd i fynd i’r afael ag anghydbwysedd pŵer yn cynnwys:

  • casglu data ar fuddsoddiadau a wnaed i unigolion a mudiadau o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli a chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol
  • mynd ati i geisio buddsoddi mewn cymunedau a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli a chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol
  • darparu grantiau catalytig, er enghraifft mae gan y Gronfa Women in Safe Homes elfen grant catalytig sy’n defnyddio dull ffeministaidd ac sy’n helpu i feithrin capasiti darpar fuddsoddeion (fel cynnal astudiaeth ddichonoldeb am gaffael eiddo neu ehangu portffolio eiddo ar gyfer goroeswyr trais yn erbyn menywod a merched) tra bo’r darpar fuddsoddeion yn archwilio a yw buddsoddiad cymdeithasol yn addas iddyn nhw.
outstretched hand with heart above icon
Ffynonellau cymorth

Lawrlwytho’r Egwyddor hon