two currency notes

Elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf

I bwy mae’r ddogfen hon?

Mae’r ddogfen hon i elusennau llai sy’n cadw eu harian mewn cyfrif cynilo neu gyfrif cadw’n bennaf. Er na fyddai’r mwyafrif o bobl yn cyfeirio at hyn fel ‘buddsoddiad’, mae’n cyfrif fel buddsoddi arian yr elusen. Gall y ddogfen hon gael ei defnyddio gan ymddiriedolwyr, staff ac unigolion mewn rolau â chyfrifoldeb dirprwyedig (er enghraifft, aelodau o Bwyllgor Cyllid neu Drysorydd) i edrych ar lywodraethiant buddsoddiadau’r elusen.

Defnyddio'r ddogfen hon

Mae’r geiriau mewn italig yn y ddogfen hon yn ddyfyniadau o ddogfen Buddsoddi arian elusen: canllawiau i ymddiriedolwyr (CC14) y Comisiwn Elusennol sy’n rhoi cyngor i holl elusennau Cymru a Lloegr ar ddisgwyliadau cyfreithiol a rheoleiddiol.

Mae’r ddogfen hon hefyd yn gysylltiedig ag Egwyddorion Llywodraethu Buddsoddiadau Elusennau (yr Egwyddorion) sydd â’r nod o helpu elusennau i drechu’r heriau llywodraethu sy’n berthnasol i fuddsoddiadau. Nid yw’r Egwyddorion yn ofyniad cyfreithiol na rheoleiddiol a’u bwriad yw ategu dogfen CC14 a'r Cod Llywodraethu i Elusennau.

I elusennau llai sydd dim ond yn cadw arian mewn cyfrif cynilo neu gadw, gall y ddogfen hon roi help digonol i edrych ar heriau llywodraethu cyffredin.

Efallai yr hoffai elusennau â mwy o arian mewn cyfrifon cynilo neu gadw, er enghraifft, mwy nag £1 miliwn, neu elusennau â phortffolios buddsoddi mwy cymhleth, edrych ar yr Egwyddorion yn fwy manwl.

Os ydych yn edrych ar y ddogfen hon ar-lein, bydd y dolenni yn eich tywys i’r Rhestr Dermau neu i dudalennau penodol ar wefan Egwyddorion Llywodraethu Buddsoddiadau Elusennau. Mae croeso i chi argraffu’r ddogfen hon.

Eich dyletswyddau ymddiriedolwr

Fel ymddiriedolwyr, eich prif ddyletswydd yw hyrwyddo dibenion eich elusen. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud eich penderfyniadau buddsoddi er mwyn hyrwyddo’r dibenion hynny.

Chi sydd i benderfynu sut i fuddsoddi i gefnogi cyflawni dibenion eich elusen dros amser.

Yn dibynnu ar amgylchiadau eich elusen, mae gennych amrediad eang o opsiynau, ond mae’n rhaid i chi:

  • gydymffurfio â’r dyletswyddau a’r gofynion cyfreithiol a nodir yn y canllaw hwn [CC14]
  • wneud penderfyniadau er budd pennaf eich elusen

Adolygwch eich dull buddsoddi yn rheolaidd.

Mae Egwyddor 2 o yr Egwyddorion Llywodraethu Buddsoddiadau Elusennau yn edrych ar Arweinyddiaeth. Er bod yr holl ymddiriedolwyr yn gyd-gyfrifol am fuddsoddiadau’r elusen, yn ymarferol, gallai rhywfaint o oruchwyliaeth gael ei dirprwyo i ymddiriedolwyr penodol, staff neu unigolion â rôl ddirprwyedig (er enghraifft, aelodau o’r Pwyllgor Cyllid).

Mae’r Egwyddorion yn argymell y canlynol:

  • pan fydd elusen yn cadw buddsoddiadau cyfyngedig mewn cyfrif banc, caiff y trosolwg a’r gwaith o oruchwylio a rheoli’r rhain eu gwneud gan o leiaf dau unigolyn neu gan bwyllgor cyfredol â chyfrifoldebau ariannol.
  • bod fframwaith dirprwyo yn cael ei lunio gan ymddiriedolwyr, gyda chymorth staff neu aelodau pwyllgor, sy’n nodi pa benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar lefel bwrdd, gan staff neu gan bwyllgor (os yw’n berthnasol). Bydd unrhyw ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor â chyfrifoldebau dirprwyedig dros gael trosolwg o’r buddsoddiadau yn adrodd i’r bwrdd ar gyfnodau priodol fel bod y bwrdd yn parhau i fod â chyfrifoldeb a throsolwg dros y buddsoddiadau. Bydd y fframwaith yn cael ei gymeradwyo gan y bwrdd a’i adolygu ar gyfnodau priodol.

Mae ‘fframwaith dirprwyo’ ar gyfer elusennau llai sy’n buddsoddi’n bennaf mewn arian yn debygol o fod yn syml a byr, yn enwedig pan nad oes unrhyw staff sy’n cael eu talu na phwyllgorau bwrdd. Efallai bod yr holl ymddiriedolwyr yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith trosolwg. Gallai’r trosolwg a’r rheolaeth i’w cynnwys mewn fframwaith dirprwyo gynnwys y canlynol:

  • unigolion â chyfrifoldebau trosolwg (ymddiriedolwyr neu staff) sy’n adrodd i’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn o leiaf unwaith y flwyddyn ar ba gyfrifon banc a ddelir a pham y dewiswyd y cyfrifon hynny
  • adolygu’r cyfrifon banc sydd ganddynt o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i anghenion yr elusen (er enghraifft, y gyfradd llog a delir, pa mor hawdd yw hi i fancio, unrhyw gyfnodau rhybudd)
  • mwy nag un llofnodwr ar y cyfrif. Mae canllaw NVCO Bancio ar gyfer elusennau a mudiadau gwirfoddol (Saesneg yn unig) yn nodi: ‘Mae’n syniad da cael 3-5 llofnodwr, fel y gall unrhyw ddau lofnodi. Mae angen i ni gydbwyso’r angen am drosolwg a rheolaeth briodol â phryd mae pobl uwch ac ymddiriedolwyr ar gael.’ Dylai elusennau sy’n defnyddio bancio ar-lein sicrhau bod digon o reolaethau. Un enghraifft yw ‘rheolaeth ddeuol’, lle mae un person yn creu taliad a rhywun arall yn ei awdurdodi. Dylid hefyd ystyried rheolaethau eraill (fel adolygu trafodiadau a chysoniadau banc yn rheolaidd). Gall elusennau gyfeirio at ganllaw’r Comisiwn Elusennau ar Rheolaethau ariannol mewnol ar gyfer elusennau (CC8).

Cyngor i elusennau sy’n buddsoddi arian parod yn bennaf

Gall eich elusen gadw arian mewn cyfrif cynilo neu adnau. Mae’r trefniadau hyn yn cyfrif fel buddsoddiadau. Mae’r un dyletswyddau cyfreithiol [Gweler dyletswyddau’r Ymddiriedolwr uchod] yn berthnasol i benderfyniadau am fuddsoddi mewn arian parod ag i benderfyniadau buddsoddi eraill.

Diogelu arian eich elusen

Dim ond â darparwr dibynadwy y dylech adneuo arian eich elusen. Er enghraifft, banciau neu gymdeithasau adeiladu a awdurdodwyd gan:

  • rheolydd ariannol perthnasol mewn unrhyw wlad arall

Darganfyddwch beth yw’r trefniadau diogelu os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn methu, boed yn y DU neu dramor.

Gallwch ddefnyddio Gwiriwr Banc FSCS a diogelu cynilion - i weld faint o’ch arian sydd wedi cael ei ddiogelu.

Os oes gennych swm sylweddol i’w adneuo, meddyliwch am osod uchafswm y gall eich elusen ei roi gydag un darparwr. Gall hyn eich helpu i leihau’r risg o golled fawr os bydd darparwr yn methu. Mae angen i chi gydbwyso’r risg is yn erbyn cyfradd llog is ar adneuon symiau llai.

Os nad ydych yn siŵr a yw eich banc neu gymdeithas adeiladu wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) neu gan reoleiddiwr ariannol perthnasol mewn gwlad arall, gwiriwch y Telerau ac Amodau ar fanylion eich cyfrif/cais am gyfrif, neu gofynnwch i’r cwmni gadarnhau. Gallai’r Telerau ac Amodau gynnwys geiriad fel:

"Wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (Rhif Cofrestru’r Gwasanaethau Ariannol:)."

Mae Gwiriwr diogelwch banc a chynilon yr FSCS (Saesneg yn unig) yn dangos faint o arian sy’n cael ei ddiogelu. Fel arfer:

  • os yw’r elusen wedi’i sefydlu fel cwmni cyfyngedig, byddai hyd at £85,000 yn cael ei ddiogelu.
  • os yw’n gymdeithas anghorfforedig, byddai hyd at £85,000 yn cael ei ddiogelu.
  • os yw wedi’i sefydlu fel ymddiriedolaeth, bydd y diogelwch yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y botwm ‘Need Help’ ar gornel dde waelod tudalen FSCS a dewiswch ‘FAQs’. Pan fydd nifer o fanciau yn gweithredu o dan yr un cofrestriad (er enghraifft, gallai gwahanol fanciau ar y stryd fawr fod yn rhan o’r un grŵp bancio), gallai hyn olygu mai dim ond cyfanswm o £85,000 a gaiff ei ddiogelu, hyd yn oed pan fydd gennych gyfrifon ar wahân. Defnyddiwch y gwiriwr diogelwch i ganfod faint o arian sy’n cael ei ddiogelu.

Os oes gan yr elusen mwy nag £85,000 gall rhoi arian i mewn i fwy nag un banc neu gymdeithas adeiladu helpu i sicrhau bod mwy o arian yn cael ei ddiogelu. Pan fydd gan fudiadau symiau sylweddol iawn o arian, gallai agor amrywiaeth enfawr o gyfrifon banc fod yn anodd ac achosi baich gweinyddol. Mewn achosion o’r fath, gellid ystyried opsiynau fel Cronfeydd Cadw Cyffredin a buddsoddiadau tebyg i arian, lle caiff y risgiau eu hasesu yn unol â hynny.

Dewis cyfrif

Dylech ystyried:

  • y cyfraddau llog a gynigir gan ddarparwyr gwahanol
  • pryd y telir llog
  • os telir llog yn gros neu’n net o dreth - os yw’n net sicrhewch eich bod yn gallu adennill y dreth
  • unrhyw daliadau neu gosbau sy’n gymwys os ydych am gael mynediad i’ch arian ar fyr rybudd neu gau eich cyfrif

Mae Canllaw Bancio i Fudiadau Gwirfoddol UK Finance (Saesneg yn unig) yn rhoi help i ddod o hyd i gyfrif banc.


Mae NCVO – Bancio i elusennau a mudiadau gwirfoddol (Saesneg yn unig) yn rhoi rhagor o wybodaeth

Gall elusennau gyfeirio at wybodaeth y Comisiwn Elusennau ar fancio i elusennau (Saesneg yn unig). Gall elusennau hefyd ddefnyddio platfformau cynilo arian (Saesneg yn unig) sy’n caniatáu i elusennau symud arian rhwng cyfrifon cynilo mewn ystod o fanciau a chymdeithasau adeiladu gan ddefnyddio dim ond un enw mewngofnodi.

  • unrhyw ffactorau enw da a ffactorau anariannol eraill sy’n rhan o bolisi ac amcanion buddsoddi eich elusen, ac os yw’r rhain yn berthnasol i’ch dewis o gyfrif

Mae Egwyddor 3 yr Egwyddorion Llywodraethu Buddsoddiadau Elusennau yn edrych ar Uniondeb. Mae hyn yn cynnwys ystyried lle y gallai buddsoddiad wrthdaro â dibenion eich elusen neu niweidio ei henw da.

Pan mai dim ond swm bach o fuddsoddiadau sydd gan elusen, a’r rheini wedi’u cadw fel arian mewn cyfrif banc, nid ydynt yn debygol o achosi unrhyw wrthdaro mawr â dibenion yr elusen na niweidio ei henw da ac nid ydynt yn debygol o fod yn ddifrifol. Efallai yr hoffai elusennau ystyried opsiynau bancio cyfrifol, er enghraifft, mae gwybodaeth ar gael am fanciau moesegol (Saesneg yn unig) neu gallech wirio a yw eich banc yn darparu cyllid tanwydd ffosil (Saesneg yn unig).

Efallai y bydd angen mwy nag un cyfrif ar eich elusen. Er enghraifft, cyfrifon sy’n eich galluogi i gael mynediad at arian ar fyr rybudd neu rybudd hirach.

Ysgrifennwch bolisi buddsoddi syml

Dylai hyn gynnwys:

  • ble ac am ba hyd y gall eich elusen adneuo arian parod
  • yr uchafswm y gall eich elusen ei adneuo ag un darparwr
  • agwedd eich elusen at adneuon tymor byr, canolig neu hir

Dylai’r polisi buddsoddi gael ei ddeall a’i gymeradwyo gan yr holl ymddiriedolwyr. Ynghyd â’r uchod, gall elusennau ystyried cynnwys y canlynol yn eu polisi buddsoddi. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl ymddiriedolwyr yn gytûn ar ddiben buddsoddiadau’r elusen.

  • pam mae gan yr elusen fuddsoddiadau, er enghraifft, cadw cronfeydd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, chwilio am elw ariannol (llog ar gyfrif banc) i gyllido gweithgareddau’r elusen  
  • os oes unrhyw gyfarwyddiadau neu gyfyngiadau o ran buddsoddiadau, er enghraifft, yn nogfen lywodraethu’r elusen)
  • pa unigolion fydd â throsolwg o fuddsoddiadau’r elusen, e.e. ymddiriedolwyr/staff; llofnodwyr; a sut bydd gweithrediadau bancio (e.e. taliadau) yn cael eu cymeradwyo
  • sut bydd y gydberthynas rhwng yr elusen ac unrhyw ddarparwr cyfrif banc yn cael ei chynnal, er enghraifft, sut bydd diweddariadau yn cael eu derbyn, pa mor aml fydd yr elusen yn adolygu’r cyfrif banc
  • sut bydd cyllid yr elusen yn cael ei ddiogelu (e.e. FSCS)
  • enw da neu ffactorau anariannol sy’n gysylltiedig â dibenion yr elusen, er enghraifft, a yw’r elusen yn bwriadu defnyddio banc moesegol

I elusennau llai sy’n buddsoddi arian mewn cyfrif banc yn bennaf, gellid cynnwys y polisi buddsoddi o fewn polisi cronfeydd wrth gefn neu reolaethau ariannol cyfredol.

Mynnwch gyngor proffesiynol lle’n briodol

Os oes angen cyngor arnoch, dylai fod gan rywun sydd â gwybodaeth a phrofiad addas.

Dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a chael ei roi gan rywun â phrofiad mewn materion ariannol a materion eraill sy’n berthnasol i’r ffordd y mae eich elusen yn mynd ati i fuddsoddi. Efallai y bydd ymddiriedolwyr elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf yn penderfynu nad oes angen cyngor proffesiynol allanol arnynt, er enghraifft, os oes digon o arbenigedd yn yr elusen neu os mai dim ond ychydig o fuddsoddiadau o werth isel sydd ganddynt.

Dylai’r ymddiriedolwyr ddefnyddio’u doethineb i bennu ai ‘buddsoddiadau cyfyngedig o werth isel’ sydd gan yr elusen. Dyma rai enghreifftiau:

  • pan fydd gan elusen lai nag £85,000 mewn cyfrif banc, gall ymddiriedolwyr benderfynu bod digon o allu ymhlith yr ymddiriedolwyr neu staff ac nad oes angen arbenigedd pellach
  • pan fydd gan elusen symiau mwy o faint mewn cyfrifon banc, efallai byddant yn dymuno cael cyngor proffesiynol gan ffynonellau mewnol, er enghraifft ymddiriedolwr, aelod staff neu wirfoddolwr â phrofiad mewn rheolaeth ariannol mudiad neu gymhwyster cyllid
  • pan fydd gan elusen fuddsoddiadau mwy cymhleth, pan fyddant yn dal symiau mawr iawn o arian dros gyfnod hir neu pan fyddant yn ystyried ffyrdd eraill o fuddsoddi (gweler isod) yna gallai fod angen cyngor proffesiynol ychwanegol. Mae Egwyddor 4 yr Egwyddorion Llywodraethu Buddsoddiadau Elusennau yn edrych ar brosesu penderfynu, risg a rheolaeth, gan gynnwys cael cyngor..

Adolygu trefniadau yn rheolaidd

Adolygwch eich trefniadau banc yn rheolaidd i sicrhau:

  • eu bod yn dal i ddiwallu anghenion eich elusen
  • bod eich adneuon yn dal i gael eu diogelu’n briodol
  • bod unrhyw daliadau neu gyfraddau llog yn dal yn gystadleuol
  • eich bod yn fodlon ar lefel y gwasanaeth a ddarperir

Gallai ffioedd gael eu codi ar gyfer cyfrifon banc, a gallai fod ffioedd sy’n ymwneud â gweithgarwch ar y cyfrif. Dylai ymddiriedolwyr (a’r staff sy’n gweithio gyda nhw) sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw ffioedd neu daliadau a bod y rhain o faint rhesymol, er enghraifft, drwy gymharu â darparwyr eraill.

I elusennau sy’n defnyddio cronfeydd cadw cyffredin a buddsoddiadau tebyg i arian, bydd y ddau opsiwn hyn yn cynnwys ffioedd.

Ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod

  • Mae ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod, yn enwedig ar gyfer elusennau mwy. Mynnwch gyngor am eich opsiynau. Mae cronfeydd adnau cyffredin yn caniatáu i chi gyfuno’ch asedau i’w hadneuo ag asedau elusennau eraill. Trwy gyfuno arian ag elusennau eraill gallwch gael cyfradd llog uwch. Gall buddsoddi mewn cynllun fel hwn fod yn rhan neu’n gyfan gwbl o ymagwedd unrhyw elusen.

Pan allai fod angen cyllid elusen ar fyr-rybudd neu gadw’r cyllid ar gyfer prosiect i ddod, mae’n bur debyg y bydd cadw arian mewn cyfrif banc neu fuddsoddiadau tebyg i arian yn briodol.

Pryd allai elusen ystyried cronfeydd cadw cyffredin to Cronfa Adneuo Gyffredin neu fuddsoddiadau tebyg i arian:

  • pan fydd gan elusen swm mawr iawn o arian sydd, er enghraifft, ymhell y tu hwnt i drothwy’r FSCS o £85,000 ar gyfer cyfrif sengl, ac na fyddai’n ymarferol i gadw mwy nag un cyfrif banc
  • os yw cronfeydd wrth gefn mwy o faint neu waddol yn galluogi’r elusen i gymryd risg fechan er mwyn cael mwy o elw. Mae canllaw CC19 y Comisiwn Elusennau yn edrych ar gwestiynau ynghylch buddsoddi cronfeydd wrth gefn.

Pryd allai elusen ystyried buddsoddi mewn cyfranddaliadau neu ddosbarthiadau eraill o asedau:

  • pan fydd yr elusen mewn sefyllfa ariannol sefydlog, er enghraifft, pan fydd wedi cadw cronfeydd wrth gefn dros nifer o flynyddoedd a bod llawer o adnoddau yn dod i mewn, neu fod ganddi waddol lle gellir amrywio’r gyfradd wario. Cyhyd â bod portffolio cytbwys yn cael ei gynnal, bod yr elw ariannol ar gyfranddaliadau a dosbarthiadau eraill o asedau wedi bod yn uwch yn hanesyddol nag ar arian a gedwir mewn cyfrif banc dros gyfnod mwy hirdymor. Fodd bynnag, gall gwerth cyfranddaliadau a dosbarthiadau eraill o asedau fynd i lawr yn ogystal ag i fyny, felly dylai elusen ystyried ei gofynion gwario fel na fydd angen iddi werthu buddsoddiadau i gael arian i’w wario ar adeg pan na fydd gwerth y buddsoddiad mor uchel. Gall elusennau yn y sefyllfa hon ystyried defnyddio cronfa gyfun, talu am gyngor gan gynghorydd buddsoddi neu siarad ag amrywiaeth o reolwyr buddsoddi am yr opsiynau buddsoddi sydd ar gael iddynt..

Pryd allai elusen ystyried buddsoddiadau cymdeithasol:

Gellir gwneud buddsoddiadau cymdeithasol i gyflawni gwaith yr elusen yn uniongyrchol (er enghraifft, elusen sy’n prynu adeilad i redeg gwasanaethau ohono) neu ei roi i fudiad arall sy’n cyflawni dibenion yr elusen (er enghraifft, rhoi benthyciad i fenter gymdeithasol). Fel arfer, mae gan elusennau sy’n gwneud buddsoddiadau cymdeithasol i mewn i fudiadau eraill orwel amser hir a’r gallu i gymryd rhywfaint o risg, er enghraifft, am fod ganddynt bortffolio buddsoddi mawr neu waddol.

Adrodd ar eich buddsoddiadau

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr os yw eich elusen wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Elusennau.

Mae’n rhaid i’ch adroddiad blynyddol gynnwys esboniad o:

  • sut mae buddsoddiadau eich elusen wedi perfformio yn ystod y flwyddyn
  • beth yw eich polisi buddsoddi, gan gynnwys unrhyw nodau anariannol sydd gennych ar gyfer buddsoddiadau eich elusen

Nid oes angen i elusennau llai neu elusennau ag ychydig neu lai o fuddsoddiadau cymhleth gynnwys gwybodaeth fanwl.

Gallai adrodd ar sut mae buddsoddiadau’r elusen wedi perfformio gynnwys datganiad i ddweud bod gan yr elusen arian mewn cyfrif banc a bod X% o log wedi’i dderbyn. Gall adrodd ar beth yw polisi buddsoddi’r elusen gynnwys crynodeb byr o’r polisi). Gall elusennau edrych ar ganllaw’r Comisiwn Elusennau ar paratoi adroddiad blynyddol ymddiriedolwyr elusen.

Lawrlwythwch y dudalen hon

Elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf