5. Effeithiolrwydd
Disgrifiad
Mae’r bwrdd yn hyderus bod gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n darparu goruchwyliaeth ddirprwyedig dros fuddsoddiadau y sgiliau, y profiad a’r wybodaeth angenrheidiol. Mae’r bwrdd, gyda chefnogaeth staff/aelodau pwyllgor, yn sicrhau bod prosesau ar waith i oruchwylio buddsoddiadau’n effeithiol.
Rhesymeg
Ystyrir goruchwyliaeth effeithiol yn ei hystyr ehangaf – o ffactorau ariannol i ystyried sut mae buddsoddiadau’n hyrwyddo dibenion yr elusen i asesu a rheoli gwrthdaro â dibenion a risgiau i enw da. Er mai dim ond lleiafrif o ymddiriedolwyr elusennau a all fod ag arbenigedd yn y meysydd hyn, mae’n bwysig bod gan bob ymddiriedolwr ddealltwriaeth ddigonol o fuddsoddiadau’r elusen i gyflawni eu cyfrifoldebau. Mae hyn yn cynnwys bod yn hyderus bod gan yr ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau y cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad a gwybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus. Bydd perthynas waith effeithiol rhwng ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig a gyda’r bwrdd ymddiriedolwyr ehangach yn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn fwy llwyddiannus.
Canlyniadau allweddol
- Mae gan yr elusen ddealltwriaeth o gyllid a buddsoddiadau ymysg ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor, sy’n gymesur â maint a chymhlethdod y buddsoddiadau sydd ganddi.
- Caiff ymddiriedolwyr eu grymuso i deimlo’n hyderus wrth ofyn cwestiynau am fuddsoddiadau’r elusen i gyd-ymddiriedolwyr, staff ac aelodau’r pwyllgor, ac mae cyfleoedd dysgu’n cael eu darparu neu maen nhw’n cyfeirio at gyfleoedd o’r fath.
- Mae gan y bwrdd berthynas waith effeithiol gydag unrhyw ymddiriedolwyr, staff neu aelodau pwyllgor sy’n gyfrifol am gyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig.
- Mae digon o amser ac ystyriaeth yn cael eu rhoi i fuddsoddiadau mewn perthynas ag agweddau eraill ar waith yr elusen, gan gynnwys mewn cyfarfodydd ymddiriedolwyr.
- Gall ymddiriedolwyr, staff ac aelodau pwyllgor sy’n ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio buddsoddiadau gynnig her adeiladol mewn diwylliant lle mae gwahaniaethau a heriau’n cael eu rhannu a’u datrys.
- Mae deinameg pŵer o fewn y bwrdd neu’r pwyllgor yn cael ei gydnabod ac mae camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod trafodaethau ynghylch buddsoddiadau’r elusen yn gynhwysol.
Ymarfer
Effeithiolrwydd
Recriwtio
Mae proses dryloyw i benodi’r ymddiriedolwyr, y staff a’r aelodau pwyllgor hynny a fydd yn gyfrifol am oruchwylio buddsoddiadau, gan ofyn am gymorth annibynnol yn ystod y broses recriwtio os bydd angen. Mae hyn yn cynnwys archwiliad sgiliau, manyleb rôl, hysbysebu swyddi gwag a phenodi ar sail meini prawf gwrthrychol. Rhoddir ystyriaeth i sut mae sicrhau bod y rhai sy’n cael eu recriwtio yn gallu cyflwyno neu gynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau yn unigol ac ar y cyd, a’u bod yn gallu mynegi’r berthynas rhwng dibenion yr elusen a’i buddsoddiadau yn ei hystyr ehangaf.
Er bod recriwtio unigolion i oruchwylio yn rhinwedd rôl ymddiriedolwr neu bwyllgor yn gallu bod yn heriol, gall dibynnu ar rwydweithiau personol arwain at risg o feddylfryd grŵp o fewn y mudiad. Bydd proses recriwtio dryloyw a chyhoeddus yn cyflwyno dysgu ar gyfer y mudiad, safbwyntiau newydd, ac yn ddelfrydol, gronfa ehangach o ddarpar ymgeiswyr.
- a oes gan yr unigolyn arbenigedd perthnasol – er enghraifft, efallai fod ganddo brofiad o systemau rheoli ariannol mudiad neu reoli buddsoddiadau, cymhwyster proffesiynol mewn cyfrifyddu, cyllid neu reoli buddsoddiadau, neu arbenigedd yng nghyswllt dibenion yr elusen y mae modd ei ddefnyddio i sicrhau bod y buddsoddiadau’n hyrwyddo’r dibenion?
- sut bydd dibenion yr elusen yn cael eu cadw ar flaen y gad, er enghraifft a oes gan unigolyn ar y pwyllgor arbenigedd yn nibenion yr elusen neu a fydd cydweithio rhwng y pwyllgor a’r bwrdd ymddiriedolwyr ehangach a staff ynghylch dibenion yr elusen?
- a oes gan yr unigolyn brofiad cyfredol o reoli cyllid neu fuddsoddi? Os nad yw’r profiad yn gyfredol, sut mae’r unigolyn wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes rheoli buddsoddiadau fel ESG neu fuddsoddi cyfrifol?
- a oes gan yr unigolyn arbenigedd neu brofiad sy’n gysylltiedig â dibenion yr elusen, er enghraifft drwy brofiad bywyd neu brofiad wedi'i ddysgu?
- a yw’r unigolyn yn gofyn am ad-daliad am dreuliau neu golli enillion? A yw cyfyngu’r rôl i wirfoddolwyr yn unig yn cyfyngu ar gyfranogiad pobl o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli?
Gall cysgodi bwrdd fod yn ffordd ddefnyddiol o gyflwyno unigolion o gefndiroedd wedi’u tangynrychioli i gyfranogiad ymddiriedolwyr. Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Smallwood raglen a oedd yn canolbwyntio ar fenywod â phrofiad bywyd o dlodi ar sail rhywedd a/neu o weithio ar lawr gwlad yn y gymuned. Nod y rhaglen yw egluro’n well beth yw rolau ymddiriedolwyr a byrddau, yn enwedig mewn mudiadau sy’n cyllido ac yn dyfarnu grantiau. Mae rhaglen.’ Sefydliad John Ellerman n gwahodd unigolion i gysgodi’r Pwyllgor Cyllid a Buddsoddi, ac yn darparu cyllideb hyfforddi ac ad-daliad am dreuliau.
- Gwirfoddolwyr ICAEW
- Fforwm y Trysoryddion Anrhydeddus
- Charterpath
- Action for Trustee Racial Diversity
- Trustees Unlimited
- Postio hysbyseb ar LinkedIn
- Cysylltu ag asiantaethau recriwtio sy’n arbenigo yn y sector elusennol
- Pwyllgorau Buddsoddi’r dyfodol (social investment)
- Women in Social Finance
Os yw dogfen lywodraethu elusen yn ei gwneud yn ofynnol i un neu fwy o rolau ymddiriedolwyr gael eu cyflawni gan unigolion o gyrff penodol (er enghraifft, lle mae’n rhaid i elusen gael cynghorwyr plwyf neu glerigwyr fel ymddiriedolwyr), bydd yn ystyried sut mae modd goruchwylio buddsoddiadau sy’n briodol i faint a chymhlethdod yr elusen.
Os na all ymddiriedolwyr oruchwylio buddsoddiadau yn unol â’r arfer a argymhellir (gweler P2 – Strwythur llywodraethu), yna gallai’r opsiynau gynnwys: cael arbenigedd gan wirfoddolwr ag arbenigedd priodol neu gan gynghorydd buddsoddi a delir.
Mae unrhyw aelodau o’r pwyllgor yn cael eu penodi am gyfnod penodol. Pan fydd aelod o’r pwyllgor wedi gwasanaethu am fwy na naw mlynedd, mae hyn yn destun adolygiad arbennig o drylwyr, gan ystyried y ffaith bod angen sicrhau bod y rhai ar y pwyllgor yn gallu cyflwyno neu gynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau yn unigol ac ar y cyd.
Bydd hyd y cyfnod yn dibynnu ar anghenion yr elusen ac argaeledd yr unigolyn. Mae telerau 4 blynedd gychwynnol a 4 blynedd ychwanegol os ydynt yn addas ar gyfer yr elusen a’r unigolyn yn weddol nodweddiadol.
Yn unol â’r Cod Llywodraethu Elusennau, dylai unrhyw gyfnod dros naw mlynedd (ar gyfer ymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor) fod yn destun craffu penodol.
Mae angen cael cydbwysedd rhwng sicrhau sefydlogrwydd a pharhad yn y pwyllgor, a’r angen am safbwyntiau a syniadau newydd. Gall cynllunio’n ofalus ar gyfer olyniaeth helpu i gyflawni’r ddau.
Dysgu a Datblygu
Mae pob ymddiriedolwr yn cael sesiwn gynefino neu hyfforddiant i’w alluogi i deimlo’n hyderus wrth ofyn cwestiynau am fuddsoddiadau’r elusen i gyd-ymddiriedolwyr, staff ac aelodau’r pwyllgor. Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu parhaus yng nghyswllt buddsoddiadau.
Bydd y broses gynefino’n dibynnu ar ba mor gymhleth yw buddsoddiadau’r elusen. Dylai pob ymddiriedolwr fod yn gyfarwydd â pholisi buddsoddi’r elusen. Gall y broses gynefino hefyd gynnwys:
- dibenion yr elusen a sut mae buddsoddiadau’r elusen yn cefnogi ac yn hyrwyddo dibenion yr elusen
- sut mae unrhyw wrthdaro neu risgiau i enw da o ran y buddsoddiadau yn cael eu nodi a’u rheoli
- sut mae buddsoddiadau’n cael eu dal (e.e. cyfrif banc, cronfa gyfun, portffolio pwrpasol)
- sut mae risgiau’n cael eu rheoli (e.e. gwarchodaeth FSCS, goruchwyliaeth gan y pwyllgor buddsoddi)
- dyletswyddau cyfreithiol yr ymddiriedolwr (gweler CC14)
- y strwythur llywodraethu ar gyfer buddsoddiadau
- buddsoddi cymdeithasol (os yw’n berthnasol)
Gallai cynefino fod ar ffurf:
- os oes gan yr elusen swm cymharol fach o fuddsoddiadau a ddelir mewn arian parod, gallai’r broses gynefino gynnwys cyflwyniad byr ar fuddsoddiadau’r elusen sy’n cael eu rhedeg gan ymddiriedolwr neu aelod o staff, gan gynnwys gwybodaeth am ddyletswyddau’r ymddiriedolwr mewn perthynas â buddsoddiadau (gweler Egwyddor 1)
- os oes gan yr elusen gryn dipyn o fuddsoddiadau nid mewn arian parod yn unig, yna gallai’r broses o gynefino ymddiriedolwyr olygu cyflwyniad hirach (e.e. 2 awr, hanner diwrnod) ar fuddsoddiadau a gynhelir gan ymddiriedolwr, aelod o staff neu aelodau pwyllgor, a/neu fynychu hyfforddiant buddsoddi rhagarweiniol a gynhelir gan gorff aelodaeth elusennol neu ddarparwr proffesiynol (e.e. cwmni cyfreithiol, rheolwr buddsoddi)
- lle bo cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant pellach (er enghraifft hyfforddiant a gynhelir gan gorff aelodaeth elusennol neu ddarparwr proffesiynol), dylid cynnig y rhain i bob ymddiriedolwr
Mae gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig gyfleoedd i gael mynediad at ddysgu ar gyfer eu rôl, er enghraifft:
- dibenion a chyd-destun yr elusen, a sut gallai buddsoddiadaut wrthdaro â’r dibenion neu beri risgiau i enw da
- buddsoddiadau, gan gynnwys ar gyfer y rheini sydd heb gefndir mewn buddsoddi, neu yng nghyd-destun buddsoddiadau elusennau ar gyfer y rheini sydd heb gefndir mewn buddsoddi elusennau
- cyfleoedd i hyrwyddo dibenion yr elusen drwy fuddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith neu fuddsoddi cymdeithasol
Gall y dysgu fod yn ffurfiol (e.e. cwrs hyfforddi) neu’n anffurfiol (e.e. trafodaethau gyda grŵp ehangach o ymddiriedolwyr a staff sydd ag arbenigedd yn nibenion neu fuddsoddiadau’r elusen). Gall dysgu hefyd gynnwys hyfforddiant EDI i sicrhau bod y rheini sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig yn deall sut mae EDI yn berthnasol i fuddsoddiadau.
Gweithio’n effeithiol
Mae trafodaethau buddsoddi yn cael eu hamserlennu mewn cyfarfodydd bwrdd mewn ffordd sy’n gymesur â lefel y buddsoddiadau a ddelir ac mewn perthynas â meysydd eraill o waith yr elusen, er enghraifft dyfarnu grantiau, codi arian neu gynllunio gweithredol. Rhoddir amser i ymddiriedolwyr baratoi, gan gynnwys cyfleoedd i fynd drwy eitemau sy’n ymwneud â buddsoddi ymlaen llaw gydag ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor mwy profiadol, i sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus wrth ofyn cwestiynau am fuddsoddiadau’r elusen. Mae penderfyniadau’n cael eu codnodi ac mae penderfyniadau dirprwyedig yn cael eu cadarnhau gan y bwrdd.
I gael rhagor o wybodaeth am sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, cymerwch gip ar Egwyddor 6 - Cynhwysiant.
Mae gan y bwrdd gyfle i gwrdd ag unrhyw staff neu aelodau pwyllgor sydd â chyfrifoldebau goruchwylio buddsoddiadau dirprwyedig dysgu oddi wrthynt a’u herio’n adeiladol.
Ar gyfer elusennau sydd â llai o fuddsoddiadau o ran arian parod neu gynnyrch tebyg i arian parod, gall yr unigolion sy’n gyfrifol am oruchwylio buddsoddiadau adrodd yn fyr i’r bwrdd llawn ym mhob cyfarfod i ymddiriedolwyr. Gallai’r eitemau i’w trafod gynnwys y swm a ddelir, y gyfradd llog, unrhyw faterion sydd wedi codi.
Ar gyfer elusennau sydd â mwy o fuddsoddiadau a’r rheini sy’n dal buddsoddiadau mwy cymhleth, gallai unigolion sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio buddsoddiadau adrodd i’r bwrdd drwy’r canlynol:
- diweddariad ysgrifenedig neu ar lafar ar gyfer pob cyfarfod bwrdd
- adroddiad blynyddol mwy trylwyr ar sut mae’r buddsoddiadau’n perfformio o gymharu â’r polisi buddsoddi, er enghraifft perfformiad ariannol a pherfformiad o’i gymharu a pharodrwydd yr elusen i dderbyn risg
- cyfle blynyddol i’r bwrdd gael trafodaeth fanwl ar fuddsoddiadau’r elusen mewn perthynas â’i dibenion (er enghraifft cyfleoedd i hyrwyddo’r dibenion drwy fuddsoddi cyfrifol, buddsoddi effaith neu fuddsoddi cymdeithasol; gwybodaeth am sut mae gwrthdaro â’r dibenion a risgiau i enw da yn cael eu rheoli a yw’r dull buddsoddi yn dal i wasanaethu dull strategol cyffredinol yr elusen; effeithiau negyddol y buddsoddiadau)
Impact Investing Institute - Datblygu eich gwaddol: Gyrru newid drwy fuddsoddi mewn effaith
Bydd cyfarfodydd â rheolwyr buddsoddiadau neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen yn adeiladol gydag amcanion clir ac agendâu y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.
Mae cyfarfodydd a gynhelir gyda rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen wedi’u cynllunio i sicrhau bod ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau dirprwyedig yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys:
- dosbarthu papurau ymlaen llaw er mwyn rhoi digon o amser i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor baratoi.
- sicrhau bod unigolyn i gadeirio’r cyfarfod (gallai hyn fod yn gadeirydd pwyllgor, neu’n unigolyn a enwebwyd i gadeirio)
- agenda glir y cytunwyd arni ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod gyda diben pendant a rhestr o bynciau i roi sylw iddynt
- sicrhau bod unrhyw gyflwyniad yn canolbwyntio ar fuddsoddiadau a datblygiadau’r elusen yn yr amgylchedd allanol sy’n berthnasol i fuddsoddiadau’r elusen
- rhoi digon o amser i’r rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi adrodd ar fuddsoddiadau’r elusen. Gellid cyflawni hyn drwy roi cyflwyniadau llai aml ond hirach
- mae trafodaethau’n canolbwyntio ar bynciau sy’n berthnasol i fuddsoddiadau’r elusen ac yn gwneud y defnydd gorau o’r amser sydd ar gael
- osgoir jargon ac mae’r unigolyn sy’n cadeirio’r cyfarfod yn gweithredu i sicrhau bod pawb sy’n bresennol yn deall yr wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno a’r paramedrau ar gyfer unrhyw drafodaethau
- mae unrhyw eitemau y mae angen gwaith dilynol arnynt yn cael sylw’n gyflym
Mae ymddiriedolwyr ac aelodau’r pwyllgor yn ystyried y ddeinameg pŵer ac unrhyw anghydbwysedd o fewn y bwrdd neu’r pwyllgor a allai arwain at wneud penderfyniadau gwael o ran buddsoddiadau’r elusen.
Os mai dim ond un unigolyn neu nifer fach o unigolion ar y bwrdd sydd ag arbenigedd ariannol neu fuddsoddi, gall fod tuedd i osgoi cwestiynu neu herio barn yr unigolion hynny. Mae’r dulliau o osgoi deinameg neu anghydbwysedd pŵer a allai arwain at wneud penderfyniadau gwael yn cynnwys:
- a ddarperir hyfforddiant ar fuddsoddiadau i bob ymddiriedolwr newydd?
- a yw ymddiriedolwyr heb wybodaeth am fuddsoddi yn cael cyfleoedd i gyfrannu at drafodaethau ar fuddsoddiadau?
- a yw Cadeirydd y bwrdd/pwyllgor yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle i gyfrannu at drafodaethau?
- a yw aelodau’r bwrdd/pwyllgor yn cael cyfleoedd rheolaidd i roi adborth ar weithrediad y bwrdd/pwyllgor, gan gynnwys yn ddienw?
- a oes gan y bwrdd/pwyllgor ddigon o arbenigedd i ddwyn unrhyw ddarparwyr proffesiynol (e.e. rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi) i gyfrif?
- yn achos rhanddeiliaid, sut maen nhw’n cael llais ac awdurdod?
Darperir hyfforddiant buddsoddi gan gyrff aelodaeth (Cymdeithas y Sefydliadau Elusennol, Grŵp Cyllid Elusennau) a gan ddarparwyr proffesiynol.
Lle mae elusennau’n gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, mae risg ychwanegol o anghydbwysedd pŵer rhwng yr elusen sy’n gwneud y buddsoddiad a’r buddsoddai. Mae llai o gyllid o lawer ar gael ar gyfer buddsoddiadau cymdeithasol o’i gymharu â buddsoddiadau ariannol prif ffrwd, ac mae buddsoddeion mewn perygl o dderbyn telerau annheg neu anghytbwys gan fuddsoddwr. (gweler Egwyddor 6 – tegwch – buddsoddiadau cymdeithasol).

- Getting on Board