4. Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth
Disgrifiad
Mae systemau effeithiol yn cael eu sefydlu sy’n briodol i faint yr elusen a chymhlethdod y buddsoddiadau sy’n bodoli.
Rhesymeg
Er mai’r bwrdd sy’n gyfrifol yn y pen draw ac ar y cyd am fuddsoddiadau’r elusen, yn ymarferol gall llawer iawn o benderfyniadau gael eu dirprwyo a’u gwneud gan eraill, er enghraifft staff ac aelodau pwyllgor yn fewnol, neu reolwyr buddsoddi a chynghorwyr buddsoddi allanol. Dylai’r bwrdd fod â goruchwyliaeth ddigonol i fod yn hyderus bod system briodol o wneud penderfyniadau, risg a rheolaeth ar waith.
Canlyniadau allweddol
- Caiff unrhyw gyngor ei roi gan unigolyn neu fudiad ag arbenigedd priodol, a gellir ei roi’n wirfoddol neu am dâl, er enghraifft, gan ymddiriedolwr neu aelod pwyllgor neu gan weithiwr proffesiynol allanol.
- Mae fframwaith ar gyfer monitro ac adolygu buddsoddiadau’r elusen sy’n briodol i faint yr elusen a chymhlethdod y buddsoddiadau sy’n bodoli.
- Mae dull buddsoddi’r elusen yn briodol i’w strategaeth a’i nodau.
Ymarfer
Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth
Cael cyngor
Mae canllaw CC14 y Comisiwn Elusennau yn rhestru cymryd cyngor fel un o bedair dyletswydd penodol ymddiriedolwr o ran buddsoddiadau ariannol.
Ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â. Er enghraifft, efallai bod gennych:
- ddigon o arbenigedd yn eich elusen
- fuddsoddiadau cyfyngedig, gwerth isel
Rhoddir cyngor fel arfer gan:
- reolwr buddsoddi neu gynghorydd
- ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd â phrofiad a gallu perthnasol
Cymryd cyngor proffesiynol
Mae’n rhaid i chi geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â gwneud hynny os yw eich elusen wedi’i strwythuro fel:
- ymddiriedolaeth
- cymdeithas anghorfforedig
Os yw eich elusen yn gwmni, neu’n fath arall o elusen gorfforedig, nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n buddsoddi wneud hyn.
Dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a dylai gael ei roi gan rywun sydd â phrofiad o faterion ariannol a materion eraill sy’n berthnasol i ddull buddsoddi eich elusen. Rhoddir cyngor fel arfer gan:

Efallai y byddwch yn penderfynu nad oes angen cyngor proffesiynol allanol arnoch. Er enghraifft, efallai bod gennych:
- ddigon o arbenigedd yn eich elusen
- fuddsoddiadau cyfyngedig, gwerth isel
Cadwch gofnod o’ch rhesymau os penderfynwch beidio â chymryd cyngor proffesiynol allanol.
Mae ymddiriedolwyr (gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor lle bo angen) yn nodi a oes angen iddyn nhw gael cyngor ar fuddsoddiadau’r elusen a chofnodi’r canlyniad.
Caiff unrhyw gyngor ei roi gan unigolyn neu fudiad ag arbenigedd priodol, a gellir ei roi’n wirfoddol neu am dâl, er enghraifft, gan ymddiriedolwr neu aelod pwyllgor neu gan weithiwr proffesiynol allanol.
Gall fod angen cyngor ar nifer o feysydd, er enghraifft:
- strategaeth a dull buddsoddi’r elusen
- polisi buddsoddi’r, elusen, er enghraifft anghenion hylifedd, parodrwydd i dderbyn risg a dyraniad asedau
- er mwyn i’r elusen benodi darparwyr allanol
- er mwyn adolygu buddsoddiadau’r elusen
Mae CC14 yn dweud: ‘mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n gwneud buddsoddiadau’ ‘gymryd cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, oni bai fod gennych chi reswm da dros beidio â gwneud hynny’.
Nid yw’r Comisiwn yn disgwyl y bydd angen i elusennau sydd â ‘buddsoddiadau cyfyngedig, isel eu gwerth’ gael cyngor proffesiynol allanol.
Mae’r ddogfen ‘elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf’ yn edrych ar bryd y gallai’r elusennau hyn ystyried cymryd cyngor.
Fel y nodwyd yn CC14, dylai’r elusen ‘gadw cofnod Cofnodwyd o’ch rhesymau os byddwch chi’n penderfynu peidio â chymryd cyngor proffesiynol allanol’.
Ar gyfer elusennau sydd â symiau mwy wedi’u buddsoddi ac sy’n defnyddio cynnyrch buddsoddi y tu hwnt i’r rhai sy’n cael eu rhestru uchod, mae’n debygol y bydd angen cyngor.
Mae CC14 yn nodi ‘dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a chael ei roi gan rywun sydd â phrofiad o faterion ariannol a materion eraill sy’n berthnasol i ddull buddsoddi eich elusen. Fel arfer, mae cyngor yn cael ei roi gan:
- cynghorydd neu reolwr buddsoddi
- ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd â phrofiad a gallu perthnasol’
Yn ymarferol, mae elusennau sydd â symiau mwy wedi’u buddsoddi ac sy’n defnyddio cynnyrch buddsoddi y tu hwnt i arian parod, yn debygol o gael cyngor gan unigolion mewnol ac allanol.
Bydd pennu a oes digon o arbenigedd yn fewnol a lle y bydd angen cyngor allanol yn dibynnu ar gyd-destun yr elusen.
Mewnol: Fel arfer, bydd unigolyn sydd â phrofiad a gallu perthnasol yn ymddiriedolwr, neu’n aelod o bwyllgor buddsoddiadau’r elusen. Dylai’r ymddiriedolwr neu’r unigolyn fod â chefndir mewn rheoli buddsoddiadau neu ddealltwriaeth ariannol ddigonol (er enghraifft drwy redeg busnes neu weithio fel cyfrifydd) sy’n gymesur â maint a chymhlethdod buddsoddiadau’r elusen. Os oes gan ymddiriedolwr gefndir proffesiynol ym maes rheoli buddsoddiadau a’i fod yn rhoi cyngor i’r elusen, ef sy’n gyfrifol am ansawdd y cyngor hwnnw.
Pan fydd cyngor yn cael ei roi gan ymddiriedolwr, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ddilyn canllawiau CC14 ar gael cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr.
Am ragor o wybodaeth: gweler Egwyddor 5 - recriwtio
Allanol: Cyngor sy’n cael ei roi gan reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi.
Mae gwahaniaethau rhwng cyngor sy’n cael ei roi gan reolwr buddsoddi a fydd fel arfer yn gyfyngedig i gynhyrchion sy’n cael eu cynnig gan y mudiad a chyngor sy’n cael ei roi gan gynghorydd buddsoddi a fydd fel arfer ar draws ystod ehangach o gynnyrch. Gall pa fath o gyngor sydd fwyaf addas i’ch elusen ddibynnu ar a yw ymddiriedolwr neu unigolyn arall (e.e. aelod o’r pwyllgor) sydd â’r profiad a’r gallu perthnasol ar gael, a maint a chymhlethdod buddsoddiadau’r elusen. Mae modd rhoi cyngor yn barhaus (er enghraifft, pan mae rheolwr buddsoddi yn rhedeg portffolio buddsoddiadau elusen o ddydd i ddydd neu fod cynghorydd buddsoddi yn dewis ac yn goruchwylio amrywiaeth o reolwyr buddsoddi ar ran yr elusen) neu yn ôl yr angen (er enghraifft, wrth benodi rheolwr buddsoddi neu oherwydd na all ymddiriedolwyr gytuno ar gamau gweithredu).
Pan fydd cyngor yn cael ei roi gan reolwr buddsoddiadau, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor bennu a yw’r cyngor yn annibynnol neu’n gyfyngedig i gynhyrchion y rheolwr buddsoddiadau ei hun, os yw’r cyngor yn gyfyngedig, dylid cofnodi hyn. Mae unrhyw gyngor proffesiynol a dderbynnir yn ffurfiol, yn cael ei gofnodi a’r unigolyn neu’r mudiad sy’n darparu’r cyngor sy’n gyfrifol am ansawdd y cyngor hwnnw.
Sefydliad Guy's and St Thomas' (rhif elusen 1160316)
Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree (rhif elusen 210037)
Charity Investment Consulting Partnership - Canllaw ymddiriedolwr i gael cyngor ar fuddsoddiadau
Dull Strategaeth a Buddsoddi
Mae canllaw CC14 y Comisiwn Elusennau yn dweud bod:
- ystyried os yw’r buddsoddiadau yn addas ar gyfer eich elusen os byddant yn bodloni ei hamcanion buddsoddi.
- ystyried yr angen i amrywio buddsoddiadau, os yw’n briodol i’ch elusen, er mwyn lledaenu’r risg
yn ddau o bedair dyletswydd penodol ymddiriedolwr o ran buddsoddiadau ariannol.
Mae’r Egwyddorion yn nodi cyfres o gamau argymelledig a all helpu ymddiriedolwyr i gyflawni eu dyletswyddau ymddiriedolwyr, gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor, gan gynnwys:
- asesu anghenion ariannol yr elusen, ei, pharodrwydd i dderbyn risg a’i hanghenion hylifedd
- datblygu strategaeth a dull buddsoddi
Rhoddir sylw i Roi cyngor uchod yn Egwyddor 4.
Rhoddir sylw i Adolygu buddsoddiadau eich elusen isod yn Egwyddor 4.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgo, yn pennu ac yn cofnodi sefyllfa ariannol yr elusen, yn gosod targedau i ddiwallu anghenion ariannol yr elusen ac yn adolygu’r rhain o leiaf unwaith y flwyddyn. Caiff targedau ariannol yr elusen eu cofnodi yn y polisi buddsoddi a gymeradwyir gan bob ymddiriedolwr. Gall hyn gynnwys:
- swm i’w fuddsoddi
- sefyllfa ariannol gyffredinol yr elusen, gan gynnwys ei hanghenion tymor hir a thymor byr
- a yw unrhyw ran o’r buddsoddiadau yn gronfeydd wrth gefn ar gyfer prosiect yn y dyfodol neu i sicrhau cynaliadwyedd yr elusen
- a yw’r buddsoddiadau’n darparu enillion ariannol (twf cyfalaf neu incwm) i ariannu gweithgareddau’r elusen
- unrhyw gyfyngiadau ar fuddsoddiadau y mae modd eu gwneud
- unrhyw ddyraniad i fuddsoddiad cymdeithasol
Gallai’r swm i’w fuddsoddi gynnwys cronfeydd anghyfyngedig, cronfeydd cyfyngedig, cronfeydd dynodedig, cronfeydd gwaddol.
Mae cronfeydd wrth gefn yn cyfeirio at gronfeydd anghyfyngedig sydd ar gael i’w gwario (heb gynnwys asedau sefydlog a ddefnyddir i gyflawni gweithgareddau’r elusen fel adeilad, neu fuddsoddiadau cymdeithasol). Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennau ‘Cronfeydd wrth gefn elusennau: meithrin gwydnwch (CC19)" yn datgan: ‘Mae’n bwysig bod gan elusennau bolisi sy’n esbonio eu hagwedd at gronfeydd wrth gefn. Nid oes un lefel na hyd yn oed ystod o gronfeydd wrth gefn sy’n briodol i bob elusen. Dylai unrhyw darged sy’n cael ei gosod gan ymddiriedolwyr ar gyfer lefel y cronfeydd wrth gefn sydd i’w cadw, neu benderfyniad nad oes angen cronfeydd wrth gefn, adlewyrchu amgylchiadau penodol yr elusen unigol a chael ei egluro yn y polisi.’
Fel arfer, bydd arian y gallai fod ar yr elusen angen cael gafael arno’n gyflym neu ar ddyddiad penodol yn cael ei gadw mewn arian parod neu mewn cynnyrch buddsoddi sy’n aeddfedu (talu enillion) cyn y bydd angen yr arian (er enghraifft bondiau penodol). Mae hyn yn osgoi’r posibilrwydd o fod angen cael gafael ar yr arian ar adeg pan fo gwerth y buddsoddiad yn is na’r disgwyl.
Os yw elusen yn annhebygol o fod angen cael gafael ar arian yn gyflym, er enghraifft oherwydd bod swm mawr o arian yn cael ei gadw neu fod modd cynllunio gwariant ymlaen llaw fel ar gyfer rhoi grantiau, yna mae modd ystyried dulliau buddsoddi eraill.
Gall y swm i’w fuddsoddi effeithio ar y math o reolaeth fuddsoddi sydd ar gael i’r elusen; gall cyllid a gydgasglwyd fod ag isafswm buddsoddiad isel (fel arfer rhwng £1,000 a £10,000), a gal portffolio pwrpasol gael swm buddsoddi lleiaf uwch.
Gall cyfyngiadau ar fuddsoddiadau y gall elusen eu gwneud gynnwys y canlynol:
- cyfyngiadau yn nogfen llywodraethu’r elusen
- pan mae cyllidwr yn mynnu bod yn rhaid cadw arian mewn arian parod wrth aros iddo gael ei wario ar brosiect neu ei ddefnyddio fel grantiau
- cyfyngiadau ar ddosbarthiadau asedau penodol sy’n cael eu gosod gan yr ymddiriedolwyr neu’r pwyllgor
Bydd anghenion ariannol elusen yn dibynnu ar ei chyd-destun. Er enghraifft, bydd gan rai elusennau ymrwymiadau gwario penodol yn seiliedig ar eu gweithgareddau, bydd rhai eraill yn gwario yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael; bydd rhai elusennau’n defnyddio’r enillion ariannol o’u buddsoddiadau i ariannu eu gweithgareddau elusennol, bydd rhai eraill yn cadw buddsoddiadau i sicrhau cynaliadwyedd gweithrediadau’r elusen yn hytrach na cheisio cael elw ariannol i’w wario ar weithgareddau elusennol.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgors feddu ar ddealltwriaeth glir o ba anghenion ariannol y mae’n rhaid eu diwallu o enillion ar fuddsoddiadau’r elusen.
Bydd targedau ariannol ar gyfer buddsoddiadau elusen yn seiliedig ar anghenion ariannol yr elusen ac ar archwaeth risg yr elusen.
Gall nifer o ffactorau gyfrannu at benderfynu ar dargedau ariannol yr elusen, gallai’r ffactorau hyn gynnwys y canlynol:
- gosod targed ar gyfer incwm (swm mewn punnoedd) neu dwf cyfalaf (fel canran o asedau presennol)
- gosod targed yn seiliedig ar wariant yr elusen (e.e. cyfradd dosbarthugrantiau, gwariant ar weithgarwch elusennol sy’n cael ei ariannu gan enillion ofuddsoddiadau'r elusen)
- a yw’r elusen yn ceisio cynnal gwerth enwol neu wirioneddol neu dyfu’r asedau dros amser, bydd hyn yn effeithio ar sut mae chwyddiant yn cael ei ystyried mewn perthynas â’r buddsoddiadau
Unwaith mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor wedi gosod targed ariannol, mae modd nodi buddsoddiadau, o fewn archwaeth risg. Ar gyfer cyllidebau cyfun a phortffolios pwrpasol fel arfer bydd targed ar gyfer perfformiad (e.e. X% + mesur chwyddiant) a meincnod cymharydd sy’n dangos sut mae’r buddsoddiadau’n perfformio yn erbyn buddsoddiadau eraill sydd â nodau tebyg. Bydd cronfa adneuo gyffredin fel arfer yn targedu enillion ariannol sy’n uwch na’r hyn y gellid ei gyflawni ar arian parod mewn cyfrif banc ond efallai na fydd targed penodol.
Association of Charitable Foundations - Er da ac Nid am Byth (gwario gan sefydliadau gwaddol)
Investing for Charities by James Brooke Turner, published by the Directory of Social Change
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall anghenion ariannol yr elusen dros y tymor byr, canolig a hwy; anghenion hylifedd (pa mor gyflym y gallai fod angen arian gwario ar yr elusen); a pha ddull buddsoddi a allai fod yn briodol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Bydd sut mae’r cyfnodau hyn yn cael eu diffinio yn dibynnu ar gyd-destun yr elusen, gan gynnwys maint buddsoddiadau’r elusen. Os oes llawer iawn o gronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw dros nifer o flynyddoedd, yna bydd cyfleoedd i ystyried strategaethau tymor hwy.
Mae modd hefyd ystyried goblygiadau gwahanol orwelion amser y rheini sy’n ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi’r elusen. Er enghraifft, efallai fod gan yr elusen orwel amser o 100 mlynedd a mwy, tra bo ymddiriedolwyr ac aelodau’r pwyllgor buddsoddiadau yn gwasanaethu am hyd at 9 mlynedd, a bo cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter i drafod buddsoddiadau. Gall sefydlu credoau buddsoddi sefydliadol (er enghraifft, p’un ai i gadw cyfranddaliadau dros y tymor hir gyda’r nod o ddileu ansefydlogrwydd er mwyn cynyddu enillion posibl), helpu i sicrhau nad yw’r strategaeth fuddsoddi’n newid yn ddramatig pan fydd ymddiriedolwyr neu aelodau’r pwyllgor buddsoddiadau yn newid.
Dyma rai enghreifftiau:
Tymor byr
- arian sy’n cael ei gadw i sicrhau hyfywedd parhaus yr elusen ac ar gyfer prosiectau penodol sydd ar y gweill, sy’n cael ei gadw fel cronfeydd anghyfyngedig, dynodedig neu gyfyngedig.
Enghreifftiau:
- 6 mis o dreuliau gweithredu; arian i dalu grantiau yr ymrwymwyd iddyn nhw; arian ar gyfer prosiect sydd ar y gweill; grantiau neu arian llif drwodd a dderbyniwyd lle nodwyd y byddan nhw’n cael eu cadw fel arian parod
Wedi’i fuddsoddi fel arfer:
- yn cael eu cadw fel arian parod mewn cyfrif banc, mewn cronfa adneuo gyffredin neu mewn buddsoddiad tebyg i arian parod
- os yw elusen yn gwybod pryd y gallai fod angen iddi gael gafael ar arian, er enghraifft ar gyfer prosiect penodol, yna mae modd edrych ar gyfrif banc gyda chyfnod rhybudd neu fond gyda dyddiad gorffen penodol er mwyn sicrhau enillion uwch
Tymor canolig
Enghreifftiau
- arian sy’n cael ei gadw mewn gwaddol treuliadwy gyda’r bwriad o’i wario dros gyfnod amser penodol
- cronfeydd wrth gefn y gallai fod angen eu defnyddio yn ystod cyfnodau o alw
Wedi’i fuddsoddi fel arfer:
- bondiau gydag elw sefydlog, buddsoddiadau tebyg i arian parod, asedau ag ansefydlogrwydd isel
Tymor hwy
- arian sy’n cael ei gadw mewn gwaddol parhaol neu mewn gwaddol treuliadwy gyda’r bwriad o fodoli dros y tymor hwy
- cronfeydd wrth gefn sy’n debygol o gael eu cadw dros gyfnod hwy neu’n barhaus
Wedi’i fuddsoddi fel arfer
- mewn portffolio sy’n cynnwys cyfranddaliadau (y dangoswyd eu bod yn perfformio’n well na dosbarthiadau asedau eraill yn y tymor hir), asedau a), bondiau amgen
- gall y rheini sy’n goruchwylio’r buddsoddiadau ddefnyddio gorwel tymor canolig at ddibenion cynllunio, er enghraifft ymrwymiadau gwario tair blynedd neu dargedau ar gyfer rheolwyr buddsoddi
Mae hylifedd yn cyfeirio at ba mor hawdd y mae modd troi buddsoddiad yn arian parod. Mae deall ‘anghenion hylifedd’ elusen yn golygu deall faint o arian y gallai fod ei angen ar elusen dros y tymor byr a’r tymor canolig.
Fel arfer, pan mae elusen yn fodlon derbyn risg uwch neu fwy o anwadalrwydd, bydd yr enillion yn uwch yn y tymor hir.
Mae’r risgiau y mae angen eu hystyried a’u cydbwyso yn cynnwys y canlynol::
- os bydd elusen angen cael gafael ar arian yn gyflym, mae risg y gallai fod angen i’r elusen werthu asedau am bris is
- os bydd elusen yn cadw ei holl arian mewn arian parod neu gynnyrch tebyg i arian parod, bydd fel arfer yn colli allan ar elw uwch dros y tymor hir
Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried effaith gwahanol amserlenni a sicrhau bod eu strategaethau buddsoddi yn gallu bodloni cynlluniau gweithredol yr elusen. Gall elusennau sydd â gorwel amser tymor hir roi strategaethau ar waith i reoli ansefydlogrwydd, er enghraifft symud arian i arian parod neu gynnyrch tebyg i arian parod i fodloni’r ymrwymiadau gwario sydd ar y gweill.
Mae elw llwyr yn golygu bod yr elusen dim ond yn gwario incwm a gynhyrchwyd o’r portffolio, er enghraifft, llog ar arian mewn cyfrif banc neu ddifidendau ar gyfranddaliadau. Mae dull elw llwyr yn caniatáu i’r elusen dynnu enillion cyfalaf ac incwm. Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ddeall pa ddull yw’r un mwyaf priodol i amgylchiadau eu helusen, a chael cyngor allanol os oes angen. Mae gan elusennau â gwaddol parhaol reolau penodol i’w dilyn wrth fabwysiadu dull elw llwyr (gweler isod)
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor, gan gymryd cyngor pan fo angen, yn edrych ar, yn pennu ac yn cofnodi parodrwydd elusen i dderbyn risg.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio, yn pennu ac yn cofnodi archwaeth risg yr elusen mewn perthynas â buddsoddiadau ac mae ganddyn nhw ddealltwriaeth ddigonol o’r berthynas rhwng risg ac enillion, a’r angen i amrywio buddsoddiadau.
Mae archwaeth risg yr elusen yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Bydd archwaeth risg yn dibynnu ar gyd-destun elusen. Bydd angen i elusen sydd â chronfeydd wrth gefn gydag arian yn dod i mewn, sy’n gallu amrywio’n fawr, gymryd llai o risg nag elusen sydd â gwaddol mawr. Bydd archwaeth risg elusen yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen o’r buddsoddiadau, er enghraifft bydd cynnal gwerth swm bach o gronfeydd wrth gefn yn gofyn am ddull risg gwahanol i gynnal gwerth gwaddol mawr y mae modd ei wario.
Dylai pob ymddiriedolwr feddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o sefyllfa ariannol yr elusen a’r archwaeth risg sy’n deillio ohoni, mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hynny sydd â dealltwriaeth ariannol neu arbenigedd buddsoddi a/neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen yn gallu darparu gwybodaeth a chefnogaeth i helpu ymddiriedolwyr i sicrhau dealltwriaeth sylfaenol. Bydd cytuno ar archwaeth risg yr elusen ymlaen llaw, er enghraifft faint y gall gwaddol fod yn is na’i werth gwirioneddol neu enwol a thros ba gyfnod o amser, yn helpu i osgoi gwneud penderfyniadau brys a allai fod yn wael yn ystod cyfnodau o gynnwrf ariannol. Dylai archwaeth risg yr elusen gael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr. Lle bo’n berthnasol, dylai Pwyllgor Archwilio a Risg yr elusen neu bwyllgor cyfatebol adolygu’r archwaeth risg.
Er y gall llawer o ymddiriedolwyr elusennau fod yn awyddus i ddewis yr opsiynau risg isaf, i elusennau sydd â chronfeydd wrth gefn neu waddol dros gyfnod hir, mae’n debygol y bydd hyn yn golygu bod y buddsoddiadau’n werth llai dros amser gan y bydd chwyddiant yn uwch na’r enillion. Bydd sicrhau bod gan yr holl ymddiriedolwyr ddealltwriaeth sylfaenol o sefyllfa ariannol yr elusen a’r archwaeth risg sy’n deillio ohoni yn galluogi trafodaethau gwybodus. Mae archwaeth risg yn golygu gweithredu’n fwriadol mewn perthynas â risg, bod yn hyderus bod rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi yn mynd ati i reoli risgiau ar ran yr elusen.
Gall arallgyfeirio buddsoddiadau, er enghraifft drwy fod â gwahanol ddosbarthiadau asedau fel bondiau neu fuddsoddiadau amgen ochr yn ochr â chyfranddaliadau, helpu i reoli risg. Os oes gan elusen ddaliad sylweddol mewn un ased, er enghraifft rhodd fawr o gyfranddaliadau mewn un cwmni, dylid rheoli effaith hyn ar ddull arallgyfeirio ac archwaeth risg yr elusen.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor benderfynu pa ddull buddsoddiadau sy’n gweddu orau i archwaeth risg yr elusen, er enghraifft asesu lefelau risg gwahanol gronfeydd cyfun neu ddewis cadw buddsoddiadau mewn arian parod neu gynhyrchion tebyg i arian parod neu fuddsoddi mewn dosbarthiadau asedau eraill. Gall elusennau ofyn am gyngor, yn enwedig os nad oes digon o arbenigedd ymysg yr ymddiriedolwyr/staff.
I ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n archwilio ac yn pennu archwaeth risg yr elusen, mae’r ffactorau i’w hystyried yn cynnwys y canlynol:
- deall y cydbwysedd rhwng risg ac enillion ariannol tebygol dros amser
- y rhyngweithio rhwng risg a hirhoedledd, er enghraifft sut mae gorwel amser hir yn cyflwyno cyfleoedd i gynyddu archwaeth risg ac enillion ariannol posibl
- risg hylifedd os yw buddsoddiadau’n fwy caeth (cymryd amser hir i droi’n arian parod) a bod yr elusen angen cael gafael ar arian yn sydyn, gallai hyn fod yn anodd
- gosod paramedrau risg, er enghraifft a fydd risg yn cael ei hasesu mewn termau absoliwt (er enghraifft ‘dylai’r portffolio gynnal o leiaf 90% o werth gwirioneddol’') neu’n gymharol â mynegai (er enghraifft ‘90% o risg marchnad fondiau y DU)
- defnyddio asiantaethau sgorio allanol i asesu risgiau gwahanol ddosbarthiadau asedau a buddsoddiadau
- risg chwyddiant, fel rheol gyffredinol lle mae buddsoddiadau’n cael eu cadw mewn asedau risg is (e.e. arian parod) mae’r enillion ariannol yn llai tebygol o drechu chwyddiant dros amser, gan arwain at werth real is dros amser
- proffiliau risg gwahanol y gwahanol ddosbarthiadau asedau (am ragor o wybodaeth am hyn gweler y dyraniad asedau isod)
- risgiau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol (ESG) er enghraifft mae cwmnïau ag arferion amgylcheddol neu hawliau dynol gwael yn debygol o berfformio’n waeth dros amser.
- risgiau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion yr elusen neu sy’n peri risgiau i enw da
I gael rhagor o wybodaeth am archwaeth risg mewn perthynas â buddsoddiadau cymdeithasol, gweler Buddsoddiadau Cyfrifol, Buddsoddiadau Effaith a Buddsoddiadau Cymdeithasol
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor, gan gymryd cyngor pan fo angen, yn pennu’r dyraniad asedau asedausy’n briodol i’r targedau ariannol a’r archwaeth risg. Mae dyraniad asedau’r elusen yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Dyrannu asedau yw sut mae buddsoddwyr yn rhannu eu portffolios ymysg gwahanol asedau, er enghraifft cyfranddaliadau, bondiau, asedau eraill ac arian parod. Mae buddsoddwyr fel arfer yn ceisio cydbwyso risgiau a gwobrwyon ar sail nodau ariannol, parodrwydd i dderbyn risg, a’r gorwel amser. Dyma rai enghreifftiau:
- gallai elusen sy’n gwybod pryd y bydd angen iddi wario arian, er enghraifft elusen sydd â hronfeydd wrth gefn y gellid galw arnynt neu arian ar gyfer prosiect penodol sydd ar y gweill, ddewis dyraniad asedau sy’n cynnwys arian parod a bondiau.
- - bydd elusen sydd â gorwel tymor hir neu sydd â buddsoddiadau sylweddol a’r gallu i gymryd risgiau er mwyn sicrhau mwy o elw, yn fwy tebygol o roi cyfran uwch o fuddsoddiadau mewn cyfranddaliadau
Mae gwahanol asedau’n ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft gallai rhai gynni incwm is a thwf cyfalaf, uwch, bydd rhai yn cynnig telerau sefydlog ac eraill yn amrywio.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n gyfrifol am gael trosolwg o fuddsoddiadau, gan gymryd cyngor pan fo angen, bennu dyraniad ased sy’n briodol i nodau ariannol yr elusen, y parodrwydd i gymryd risg a’r gorwel amser; caiff hyn wedyn ei drafod a’i gymeradwyo gan yr holl ymddiriedolwyr a’i gofnodi yn y polisi buddsoddi. Mae’n debygol y bydd gan y dyraniad asedau ystodau, er enghraifft 65-85% mewn cyfranddaliadau byd-eang, a bydd y rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi yn gallu gwneud penderfyniadau buddsoddi o fewn yr ystod honno. Mae’r dyraniad asedau hefyd yn debygol o gynnwys cyfyngiadau ar grynodiad rhy uchel mewn dosbarth unigol o asedau neu fuddsoddiad penodol. Os bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn penderfynu y byddai dosbarth asedau gwahanol yn briodol i gyd-destun yr elusen, mae angen i bob ymddiriedolwr drafod a chymeradwyo hyn a’i gofnodi yn y polisi buddsoddi.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth ddigonol o’r dosbarthiadau asedau a gynigir gan y rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi, gan gynnwys hylifedd, costau ac unrhyw risgiau posibl i enw da sy’n gysylltiedig â gwahanol ddosbarthiadau asedau. Mae rhai asedau, er enghraifft crypto-arian yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer buddsoddiadau elusennau.
Os yw elusen yn buddsoddi drwy gronfa gyfun yna bydd gan y gronfa ystodau ar gyfer dyrannu asedau. Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod yr ystod yn addas ar gyfer y dyraniad asedau sy’n briodol i’r elusen.
Mae pennu dyraniad asedau priodol, sy’n cael ei ddeall a’i gymeradwyo gan yr holl ymddiriedolwyr, yn rhan bwysig o sicrhau arallgyfeirio digonol o fewn y portffolio buddsoddi.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall a yw rheolwyr buddsoddi’r elusen yn bwriadu gwneud y canlynol a sut maen nhw’n bwriadu ei wneud:
- ymgymryd ag arferion buddsoddi cyfrifol (eg gwaredu, exclusion, sgrinio, stiwardiaeth ac ymgysylltu) i osgoi gwrthdaro â dibenion yr elusen a rheoli risgiau i enw da
- ymgymryd ag arferion buddsoddi cyfrifol a monitro ffactorau ESG gyda’r bwriad o reoli risg a chryfhau perfformiad ariannol
- ymgymryd â buddsoddi cyfrifol neu fuddsoddi effaith fel ffordd o hyrwyddo dibenion yr elusen
Mae targedau priodol yn cael eu gosod a’u monitro.
Mae dull yr elusen yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod proses glir ar gyfer cymeradwyo gweithgareddau stiwardiaeth ac ymgysylltu Gall terfynau amser rhai gweithgareddau fod yn dynn felly dylai’r broses gynnwys hyblygrwydd i unigolyn enwebedig gymeradwyo gweithgareddau penodol heb fod angen cymeradwyaeth gan y pwyllgor/bwrdd, llawn, a pharamedrau clir ar gyfer pa weithgareddau y mae angen eu cymeradwyo.
Mewn elusennau sydd â gwaddol parhaol mae, ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn ystyried a ddylid mabwysiadu dull cyfanswm enillion ar gyfer buddsoddiadau neu ddilyn dull incwm yn unig (ac ailystyried hyn o bryd i’w gilydd). Mae’r dull yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Gall pob elusen â buddsoddiadau ddilyn dull elw llwyr, dylai elusennau â gwaddol parhaol ddilyn canllawiau’r Comisiwn Elusennau.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i’r elusennau hynny sydd â gwaddol parhaol, gan gynnwys
- mabwysiadu dull elw gwirioneddol, lle mae’r elusen yn gwario enillion cyfalaf ac incwm o fuddsoddiadau, ar yr amod bod gwerth gwreiddiol y gwaddol yn cael ei gynnal
- adolygu a ddylid cynnal gwaddol parhaol. Gall elusennau wario rhywfaint neu’r cyfan o waddol parhaol, er enghraifft, os nad yw’r anghenion y sefydlwyd y gronfa ar eu cyfer yn bodoli mwyach neu os gellid eu diwallu mewn ffordd fwy effeithiol. Bydd yn rhaid i’r Comisiwn Elusennau roi caniatâd i wario cronfeydd gwaddol parhaol or dros £25,000.
- benthyca hyd at 25% o’r gwaddol parhaol - fel arfer gwneir hyn i ddiwallu anghenion uniongyrchol gyda chynllun i ad-dalu arian drwy godi arian yn y dyfodol neu drwy elw buddsoddi ar y gwaddol sy’n weddill
- trosglwyddo gwaddol parhaol i elusen arall gyda dibenion tebyg, er enghraifft, os gallai’r elusen honno gyflawni amcanion y gwaddol parhaol yn fwy effeithiol
Pennu gwerth gwaddol parhaol: Sefydliad St John (rhif elusen 201476): Mae’r Elusen wedi mabwysiadu dull cyfrifyddu sy’n seiliedig ar elw gwirioneddol o 1 Ionawr 2013 ymlaen. Ar y dyddiad hwn gwerth cychwynnol yr elw gwirioneddol heb ei gymhwyso oedd £45.5m a phrisiwyd y gwaddol cyfalaf craidd ar £35.0m. Wrth bennu’r gwerthoedd hyn, defnyddiodd yr ymddiriedolwyr werthoedd wedi’u mynegeio (gwerth cyfredol eiddo) y gwaddol parhaol ar 1 Ionawr 1995 i gynrychioli gwerth cadwedig y rhodd wreiddiol.”
Defnyddio dull ‘incwm yn unig’: Sefydliad Cripplegate (rhif elusen 207499): O dan delerau cynllun llywodraethu’r Sefydliad, dim ond incwm y gronfa waddol barhaol y caiff Llywodraethwyr [sy’n cyfateb i Ymddiriedolwyr] ei wario ac ni chânt wario’r cyfalaf. Y gronfa waddol barhaol yw cyfalaf sefydlog y Sefydliad, sy’n cael ei fuddsoddi mewn buddsoddiadau ac eiddo. Mae’r incwm ar gael at ddefnydd cyffredinol, ond ni ellir gwario’r cyfalaf, ac eithrio ar gyfer costau rheoli buddsoddiadau sydd ynghlwm â rheoli a gweinyddu portffolio, a chostau llywodraethu a chymorth y mae modd eu priodoli’n benodol i asedau buddsoddi ... dim ond yr incwm y mae modd ei wario, ac ni ddylid cyffwrdd â’r cyfalaf ac eithrio i waredu asedau.
Defnyddio dull ‘elw gwirioneddol’: Mae Trust for London wedi’i awdurdodi gan y Comisiwn Elusennau ers 2002 i fynd ar drywydd dull elw gwirioneddol o fuddsoddi asedau gwaddol parhaol yr Ymddiriedolaeth. Mae’r dull elw gwirioneddol yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ategu ei gwariant incwm gyda chyfran o’r enillion cyfalaf sydd wedi cronni dros amser. Mae hyn hefyd yn gofyn am ddyletswydd i fuddiolwyr presennol a buddiolwyr yn y dyfodol. I gydnabod y ddyletswydd honno, mae’r Ymddiriedolwyr ers 2010 wedi gweithredu polisi sy’n ceisio cynnal ‘pŵer gwario gwirioneddol’ eu hasedau buddsoddi yn 2002. Nod yr ymddiriedolwyr yw cynnal gwerth asedau’r gwaddol o fewn ystod o +/- 20%. Ar 10 Tachwedd 2003, rhoddodd y Comisiwn Elusennau awdurdod i’r Ymddiriedolaeth fabwysiadu Dull Elw Gwirioneddol wrth reoli ei phortffolios buddsoddi. Ar 1 Ionawr 2003, mabwysiadodd yr Ymddiriedolaeth y dull hwn a dewisodd 31 Rhagfyr 1942 fel y dyddiad cyfeirio’n ôl at ddibenion dadansoddi’r cronfeydd gwaddol parhaol rhwng yr ymddiriedolaeth ar gyfer buddsoddi a’r elw gwirioneddol heb ei gymhwyso, sef dwy elfen gwaddol parhaol a bennir yn rheoliadau’r Comisiwn Elusennau. O dan y dull elw gwirioneddol, caniateir i’r Ymddiriedolaeth ddyrannu o elfen elw gwirioneddol gwaddol parhaol i’r ymddiriedolaeth ar gyfer cymhwyso (incwm) unrhyw symiau y mae’n credu eu bod yn briodol i hyrwyddo ei gwaith ar yr amod ei bod yn cyflawni tasgau penodedig. Yn y bôn, nod y tasgau hyn yw arfer ei dyletswydd statudol i fod yn deg gyda’r buddiolwyr presennol a buddiolwyr y dyfodol, i gadw cydbwysedd yr elw gwirioneddol heb ei gymhwyso ar y fath lefel fel y bydd yn parhau’n gadarnhaol o ystyried pa mor anwadal yw marchnadoedd buddsoddi a derbyn y cyngor proffesiynol y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol wrth arfer y cyfrifoldebau hyn. Strategaeth yr Ymddiriedolaeth yw rheoli’r gwaddol yn effeithiol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y swm sydd ar gael i’w ddosbarthu tra’n cynnal gwir werth gwaddol parhaol yr Ymddiriedolaeth.
Os yw’r elusen yn bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, mae’r nodau a’r enillion disgwyliedig o’r buddsoddiad yn cael eu cofnodi. Mae archwaeth risg yr elusen mewn perthynas â buddsoddiadau cymdeithasol yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Polisi Buddsoddi
Mae’r Comisiwn Elusennau yn disgwyl i bob elusen sy’n buddsoddi gael polisi buddsoddi, ysgrifenedig; mae gofyniad cyfreithiol ar rai elusennau i gael un oherwydd strwythur, dull buddsoddi neu ddogfen lywodraethu’r elusen. Gall y polisi buddsoddi fod yn ddogfen syml os yw swm buddsoddi’r elusen yn fach.
I elusennau llai sy’n buddsoddi arian mewn cyfrif banc, yn bennaf, gall y polisi buddsoddi gael ei gynnwys o fewn polisi cronfeydd wrth gefn neu reoliadau ariannol cyfredol. Am ragor o wybodaeth, gweler llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf.
I elusennau mwy o faint, gweler CC14 a’r enghraifft o bolisi buddsoddi am ragor o wybodaeth am beth i’w gynnwys ac enghreifftiau o bolisïau buddsoddi gan elusennau eraill.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn datblygu polisi buddsoddi sy’n briodol i faint yr elusen a chymhlethdod y buddsoddiadau sy’n bodoli. Mae’r polisi buddsoddi yn cael ei gymeradwyo gan y bwrdd a’i adolygu ar adegau priodol.
Mae’r Comisiwn Elusennau yn disgwyl i bob elusen gael polisi buddsoddi ysgrifenedig (bydd hyn yn ofyniad cyfreithiol neu’n ofynnol dan y ddogfen lywodraethu ar gyfer rhai elusennau).
I elusennau llai sy’n buddsoddi arian mewn cyfrif banc yn bennaf, gall y polisi buddsoddi gael ei gynnwys o fewn polisi cronfeydd wrth gefn neu reoliadau ariannol cyfredol. Am ragor o wybodaeth, gweler elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf.

Nod y polisi buddsoddi yw
- cofnodi bwriadau’r elusen o ran buddsoddiadau, fel y’u cymeradwywyd gan y bwrdd
- rhoi cyfarwyddiadau i reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi’r, elusen, gan gynnwys targedau ar gyfer perfformiad a dull gweithredu (e.e. parodrwydd i dderbyn risg, dyrannu asedau).
Dylid adolygu’r polisi bob 4-5 blynedd (fel arfer yn unol â phroses adolygu/ail-dendro ar gyfer darparwyr proffesiynol) a phryd bynnag mae newidiadau sylweddol wedi’u gwneud i fuddsoddiadau.
Charity Finance Group / Charity Investors' Group - Ysgrifennu polisi buddsoddi eich elusen
Investing for Charities by James Brooke Turner, published by the Directory of Social Change
Os bydd angen, bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n datblygu’r polisi buddsoddi yn ceisio cyngor allanol, yn ymgynghori â chynghorydd buddsoddi, er enghraifft, a/neu’n ymgynghori â rheolwyr buddsoddi presennol yr elusen er mwyn sicrhau bod telerau’r polisi yn ymarferol ac yn gyraeddadwy.
Mae’r rheini sy’n datblygu’r polisi yn ystyried annibyniaeth unrhyw gyngor sy’n cael ei roi.
Bydd y cyngor sydd ei angen yn dibynnu ar gymhlethdod arfaethedig y buddsoddiadau. Mewn elusen sydd â buddsoddiadau cyfyngedig sy’n buddsoddi arian parod yn bennaf, efallai y bydd digon o sgiliau ariannol o fewn y staff neu fwrdd yr ymddiriedolwyr ar sail eu profiad personol neu broffesiynol.
Os oes gan yr elusen fuddsoddiadau sy’n sylweddol neu’n gymhleth, gall fod angen arbenigedd ychwanegol i sicrhau bod telerau’r polisi buddsoddi yn ymarferol ac yn gyraeddadwy. Gallai’r cyngor gael ei roi gan ymddiriedolwr/staff/aelod pwyllgor ag arbenigedd perthnasol mewn buddsoddi, neu gan gynghorydd buddsoddi proffesiynol.
Pan fydd elusen yn ymgynghori â irheolwr buddsoddiadau a pha un a yw’r polisi yn ymarferol ac yn gyraeddadwy neu beidio, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ganfod a yw’r rheolwr buddsoddiadau yn gallu cynnig cyngor annibynnol neu, er enghraifft, os gall ddim ond cynnig cyngor ar sail cynhyrchion buddsoddi’r rheolwr ei hun.
Gall darparwr proffesiynol presennol yr elusen roi cyngor, ond dylid ei ystyried yn wrthrychol, a dylid ystyried a oes angen cyngor annibynnol.
Dylid hefyd ystyried su y bydd elfennau o’r polisi sy’n ceisio osgoi gwrthdaro â dibenion a risgiau i enw da’r elusen, a/neu i hyrwyddo dibenion yr elusen y tu hwnt i enillion ariannol yn cael eu datblygu, er enghraifft ceisio mewnbwn gan y rheini sydd ag arbenigedd yn nibenion yr elusen.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn ystyried y berthynas rhwng y polisi buddsoddi a pholisïau perthnasol eraill.
Ar gyfer elusennau llai, mae’r polisi buddsoddi yn debygol o ryngweithio’n bennaf â’r polisi cronfeydd wrth gefn.
Ar gyfer elusennau mwy, gall nifer o bolisïau ryngweithio â’r polisi buddsoddi, er enghraifft polisïau ar y canlynol:
- cronfeydd wrth gefn
- y trysorlys
- caethwasiaeth fodern
- atal llwgrwobrwyo
- atal twyll
- strategaeth dreth
Penodi darparwyr allanol
Mae gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor broses ar gyfer penodi darparwyr proffesiynol allanol (e.e. darparwr cyfrif banc, rheolwr buddsoddi) sy’n cael ei gofnodi a’i gymeradwyo gan y bwrdd.
Am wybodaeth am ddewis darparwr cyfrif banc, gweler Elusennau sy’n buddsoddi arian yn benna
- a fydd y cynnyrch yn sicrhau elw ariannol yn unol â thargedau’r elusen
- a oes unrhyw ystyriaethau buddsoddi cyfrifol mewn perthynas â gwrthdaro â dibenion yr elusen neu risgiau i enw da
- ffioedd a thaliadau
Pan ddewisir un, bydd contract/llythyr cyflogi yn ei le ar gyfer unrhyw gynnyrch a ddewisir.
I elusennau sy’n bwriadu buddsoddi mewn cyfranddaliadau neu gynnyrch arall y tu hwnt i arian parod, mae opsiynau i fynd ar drywydd rheolaeth oddefol neu weithredol. Fel arfer, bydd elusennau sy’n buddsoddi drwy gronfa gyfun bortffolio pwrpasol gyda rheolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi yn chwilio am reolaeth weithredol yn y gobaith o berfformiad ariannol a/neu i ddefnyddio dulliau buddsoddi cyfrifol. Gall agwedd oddefol fod yn addas ar gyfer yr elusennau hynny sy’n awyddus i leihau ffioedd a thaliadau, ac sydd â digon o arbenigedd ymysg ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor, yn adolygu nodau’r cynllun a sut mae’n cyd-fynd pholisi a dull buddsoddi’r elusen, gan gynnwys:
- y targedau ariannol ar gyfer y gronfa, ac a yw’r dull risg a’r dyraniad asedau yn bodloni gofynion yr elusen
- pa mor gyflym y gall yr elusen gael gafael ar yr arian yn ôl os oes angen
- sut mae’r rheolwr yn ymgymryd ag arferion buddsoddi cyfrifol (e.e gwaredu, eithrio, sgrinio, stiwardiaeth ac ymgysylltu) ac yn monitro ffactorau ESG gyda’r bwriad o reoli risg a chryfhau perfformiad ariannol
- a fydd arferion buddsoddi cyfrifol sy’n cael eu cyflawni gan y rheolwr yn sicrhau bod y gronfa’n addas mewn perthynas â gwrthdaro â dibenion eich elusen neu fygythiadau i enw da
- a oes cyfleoedd i ddylanwadu ar ymarfer y gronfa, er enghraifft adborth neu gyfleoedd i gynnal arolygon cleientiaid
- trefniadau adrodd y gronfa
- ffioedd a thaliadau
- y camau sy’n cael eu cymryd gan y rheolwr mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- yn dibynnu ar faint y buddsoddiad posibl, mae gofyn i gynrychiolwyr o’r gronfa gyfun gyflwyno ac ateb cwestiynau gan yr ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hynny sy’n ymwneud â’r broses dendro
- mae ystyriaeth yn cael ei roi i a ddylid crynhoi buddsoddiadau gydag un darparwr (a allai fod â manteision gweinyddol ar feintiau buddsoddi llai) neu ar draws nifer o ddarparwyr. Pan mae nifer o ddarparwyr yn cael eu defnyddio, mae ystyriaeth n cael ei roi i wahaniaethau mewn dull buddsoddi a fydd yn sicrhau arallgyfeirio. Pan ddewisir un, bydd contract/llythyr cyflogi yn ei le ar gyfer unrhyw gynnyrch a ddewisir.
Mae amrediad o arolygon sy’n cymharu perfformiad cyllid a gydgasglwyd ar gael, mae’r rhain yn edrych ar berfformiad o ran elwau ariannol a ffactorau buddsoddi cyfrifol. Ymhlith yr enghreifftiau mae:
Arolwg cronfeydd cyfun Sefydliad EIRIS
Charity Finance Magazine - Arolwg ar gyllid a gydgasglwyd gan elusennau
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn gofyn am gynigion gan amrywiaeth o reolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi. Dylai’r cynigion gynnwys sut byddai’r rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi yn mynd ati i gyflawni’r gofynion sy’n cael eu nodi ym mholisi buddsoddi’r, elusen, gan gynnwys:
- y targedau ariannol a’r archwaeth risg, ac a oes modd cyflawni’r rhain o fewn dyraniad asedau arfaethedig yr elusen (neu gynnig ar gyfer dyrannu asedau)
- yr hylifedd arfaethedig (pa mor gyflym y gall yr elusen dynnu arian) ar gyfer y portffolio
- sut mae’r darparwr yn bwriadu ymgymryd ag arferion buddsoddi cyfrifol gyda’r bwriad o hyrwyddo dibenion yr elusen, osgoi gwrthdaro â dibenion yr elusen a risgiau i enw da, rheoli risg a chryfhau’r perfformiad ariannol. Mewn achosion lle mae’r darparwr yn gynghorydd buddsoddi neu’n rheolwr buddsoddi sy’n buddsoddi mewn cronfeydd sylfaenol eraill, yr hyn y byddan nhw’n gyfrifol amdano a sut byddan nhw’n sicrhau cydymffurfiaeth gan unrhyw reolwyr sylfaenol
- trefniadau adrodd
- ffioedd a thaliadau, dylai’r dadansoddiad gael ei lywio gan gymariaethau â’r farchnad a dealltwriaeth o’r dull gweithredu (e.e goddefol vs gweithredol, gan arwain at fuddsoddiad effaith a buddsoddiad cyfrifol effeithiol)

- a all y darparwr gynnig cyngor annibynnol neu a ydyn nhw wedi’u cyfyngu i’w cynnyrch a’u gwasanaethau eu hunain
- yn dibynnu ar faint y buddsoddiad posibl, mae gofyn i gynrychiolwyr o’r darparwr gyflwyno ac ateb cwestiynau gan yr ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hynny sy’n ymwneud â’r broses dendro
- mae ystyriaeth yn cael ei roi i a ddylid crynhoi buddsoddiadau gydag un darparwr (a allai fod â manteision gweinyddol ar feintiau buddsoddi llai) neu ar draws nifer o ddarparwyr. Pan mae nifer o ddarparwyr yn cael eu defnyddio, mae ystyriaeth n cael ei roi i wahaniaethau mewn dull buddsoddi a fydd yn sicrhau arallgyfeirio.
Mae contract ffurfiol yn cael ei lofnodi (gweler isod).
Os nad oes gan yr elusen ddigon o arbenigedd neu gapasiti ymhlith yr ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor i asesu ymatebion i’r broses dendro, eir ar ôl cyngor ychwanegol, er enghraifft, gan wirfoddolwr cyfetholedig ag arbenigedd priodol neu gynghorydd buddsoddi annibynnol a delir.
Cafwyd enghreifftiau o brosesau tendro cyhoeddus, a luniwyd i fod yn fwy tryloyw ac i wella dysgu ynghylch buddsoddiadau elusennol:
Lle mae buddsoddiadau sylweddol yn bodoli mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn cynnal proses dendro, gan gynnwys cwrdd â’r darparwyr proffesiynol sydd ar y rhestr fer (e.e. rheolwyr buddsoddi, cynghorwyr buddsoddi), gyda chyfleoedd i’r holl ymddiriedolwyr a thrawstoriad eang o staff gymryd rhan. Mae’r broses dendro:
- yn sicrhau bod dibenion yr elusen yn cael eu rhoi ar y blaen
- yn dadansoddi a all y darparwr proffesiynol gyflawni gofynion y polisi buddsoddi, gan gynnwys cyflawni targedau ariannol ac archwaeth risg
- cymharu ffioedd a thaliadau
- yn derbyn adnoddau cymesur, gan gynnwys staff, ymddiriedolwyr, aelodau pwyllgorau ac adnoddau ychwanegol yn ôl yr angen
Gall cynnwys ymddiriedolwyr a staff y tu hwnt i’r rheini â chyfrifoldebau buddsoddi helpu i sicrhau mai dibenion yr elusen sy’n cael eu hystyried yn bennaf wrth ddewis darparwr proffesiynol. Gallai adnodd ychwanegol gynnwys gweithio gydag unigolyn neu fudiad sy’n rhoi cyngor ar fuddsoddi i helpu i greu rhestr fer a chymharu a dewis darparwr proffesiynol.
Pan fydd penderfyniadau’n cael eu dirprwyo i reolwr buddsoddi (rheoli yn ôl disgresiwn) mae contract ffurfiol gyda’r rheolwr.
Pan fydd rheolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddiiser yn cael y pŵer i wneud penderfyniadau buddsoddi ar ran yr elusen mewn cyfrif buddsoddi ar wahân lle mae’r portffolio buddsoddi wedi’i lunio’n benodol ar gyfer yr elusen, gelwir hyn yn rheoli yn ôl disgresiwn. Mae’r Comisiwn Elusennau yn disgwyl i bob elusen sy’n defnyddio rheoli yn ôl disgresiwn gael contract ffurfiol gyda’r rheolwr (ac mae’n ofyniad cyfreithiol i rai elusennau).
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chanllawiau CC14 ynghylch dirprwyo’r broses o wneud penderfyniadau i reolwr buddsoddi (rheoli yn ôl disgresiwn) ac adolygu perfformiad eu rheolwr buddsoddi.
Dylai’r contract gynnwys yr amcanion, y strategaeth fuddsoddi a’r dull gweithredu a nodwyd yn y polisi buddsoddi a gofynion y gwasanaeth, er enghraifft, amlder yr adrodd.
Nid yw cronfa gyfun, cyfrif banc na chronfa adneuo gyffredin yn cael eu rheoli yn ôl disgresiwn. Er nad yw’r gofyniad am gontract ffurfiol yn berthnasol, dylai pob elusen ddisgwyl llofnodi contract yn nodi’r telerau ac amodau. Dylai ymddiriedolwyr wneud yn siŵr fod telerau’r contract yn bodloni gofynion polisi buddsoddi’r elusen.
Adolygu buddsoddiadau’r elusen
Mae canllaw CC14 y Comisiwn Elusennau yn rhestru adolygu ac adrodd ar fuddsoddiadau fel un o bedair dyletswydd penodol ymddiriedolwr o ran buddsoddiadau ariannol.
Mae ymddiriedolwyr (gyda help staff, aelodau pwyllgor a chynghorwyr allanol lle y bo angen) yn adolygu’r buddsoddiadau, yn adrodd arnynt, ac yn adolygu perfformiad unrhyw reolwr buddsoddiadau yn unol â’r gofynion yng nghanllaw CC14 y Comisiwn Elusennau.
Mae CC14 yn nodi gofynion penodol ar gyfer elusennau sy’n defnyddio dulliau rheoli yn ôl disgresiwn.
Mae CC14 hefyd yn nodi’r disgwyliadau o ran sut dylai elusennau sy’n defnyddio gwahanol ddulliau buddsoddi (er enghraifft cyfrif banc, cronfa adneuo gyffredin neu gronfa gyfun), adolygu ac adrodd ar fuddsoddiadau’r elusen.
Bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor, gan gymryd cyngor pan fo angen:
- asesu a yw’r buddsoddiadau (ariannol a chymdeithasol) yn cyflawni’r amcanion sy’n cael eu nodi yn y polisi buddsoddi ac yn addas ar gyfer yr elusen. Os oes tanberfformio, er enghraifft mewn perthynas â meincnodau ar enillion ariannol neu dargedau ar gyfer gweithgarwch wedi’i alinio â diben, neu newidiadau yn yr amgylchedd allanol a allai effeithio ar oddef risg, mae camau’n cael eu cymryd mewn modd amserol ond heb frys gormodol. Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud er budd yr elusen ac yn unol â’r cytundeb rhwng yr elusen a’r cyflenwr.
Fel arfer, bydd elusennau sy’n buddsoddi mewn cronfa gyfun neu bortffolio pwrpasol yn pennu meincnod(au) yn seiliedig ar berfformiad ariannol disgwyliedig y rheolwr buddsoddi neu'r cynghorydd buddsoddi. Gallai hyn fod yn seiliedig ar y canlynol:
- elw targed ynghyd â mesur chwyddiant (e.e. elw o 4% a’r Mynegai Prisiau Manwerthu y flwyddyn dros 5 mlynedd) i ddiwallu anghenion ariannol a chynnal gwerth (real neu enwol) y buddsoddiadau
- elw targed yn seiliedig ar anghenion ariannol heb fesur chwyddiant
- targed ar gyfer twf incwm a/neu gyfalaf
- cymharu â pherfformiad portffolios tebyg ym mynegeion ARC neu feincnodau cyfansawdd eraill
Yn ogystal ag edrych ar y perfformiad ariannol, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hefyd ystyried a ydynt yn teimlo bod strategaeth, cyngor, adroddiadau ac esboniadau’r darparwyr yn diwallu eu hanghenion.
Ar gyfer cyllid a gydgasglwyd, bydd y targed ar gyfer y gronfa yn cael ei bennu gan y rheolwr buddsoddiadau, felly dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau ei fod yn bodloni eu gofynion. Ar gyfer portffolio pwrpasol, gellir gosod y targed yn unol â gofynion yr elusen.
Pan fydd tanberfformio, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor fonitro hyn yn weithredol. Gall fod ffactorau allanol sy’n egluro’r tanberfformiad (er enghraifft ergydion economaidd sy’n effeithio ar berfformiad ehangach buddsoddiadau). Gall gweithredu’n rhy gyflym (er enghraifft, ar ôl tanberfformio am un chwarter) fod yn niweidiol yn y cyfnod mwy hirdymor. Trwy fonitro perfformiad yn weithredol, gall ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor weld lle mae tanberfformiad yn debygol o barhau heb unioni ei hun, a gweithredu yn unol â hyn, er enghraifft, trwy gynnal adolygiad cynnar o ddarparwyr proffesiynol.
Ni ddylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor golli golwg ar yr angen i asesu rheolwyr buddsoddi a chynghorwyr buddsoddi yn erbyn y polisi buddsoddi ehangach. Er enghraifft, cyflwyno adroddiadau a chwestiynu’r defnydd o ddulliau buddsoddi cyfrifol ac ystyriaethau EDI. Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hefyd gymryd camau rhesymol i ddeall sut mae’r rheolwr buddsoddi wedi pleidleisio ar ran yr elusen. Efallai y bydd angen trawstoriad ehangach o ymddiriedolwyr neu staff sy’n arbenigo yn nibenion yr elusen ar gyfer yr adolygiad hwn.
Pan fydd elusen yn gweithio gyda chynghorydd buddsoddier reoli’r portffolio, buddsoddi, bydd y cynghorydd yn dewis rheolwyr i adrodd a monitro ar ran yr elusen. Dylai fod gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ddealltwriaeth ddigonol o ddull a pharamedrau’r cynghorydd ar gyfer rheoli perfformiad (ariannol, perfformiad ehangach ac o ran buddsoddi cyfrifol/EDI) i sicrhau bod y buddsoddiadau’n cyflawni amcanion y polisi buddsoddi a’u bod yn addas ar gyfer yr elusen.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor deimlo’n hyderus wrth gymharu perfformiad â pherchnogion asedau eraill. Er enghraifft:
- mewn rhwydweithiau a gynhelir gan y Grŵp Cyllid Elusennau neu Gymdeithas y Sefydliadau Elusennol
- cysylltu ag elusennau o faint neu ddull buddsoddi tebyg er mwyn cymharu
Dylid nodi, oherwydd yr oedi, nad yw adrodd ar berfformiad buddsoddi yng nghyfrifon blynyddol elusen yn berfformiad cyfredol.
- gweithredu rheolaethau a threfniadau adrodd addas
Bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor fel arfer yn cael adroddiadau chwarterol ac yn cwrdd â’r rheolwr buddsoddi neu'r cynghorydd buddsoddi bob blwyddyn neu ddwywaith y flwyddyn. Gall monitro buddsoddiadau gynnwys:
- a yw buddsoddiadau’n cyd-fynd â dyraniad asedau’r elusen a’i pharodrwydd i dderbyn risg
- unrhyw newidiadau i’r amgylchedd allanol a allai effeithio ar elw ariannol neu risgiau, neu arwain at addasiadau yn y dyraniad asedau
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor drafod ymlaen llaw sut maent yn bwriadu delio ag unrhyw newidiadau, gyda pharamedrau ar gyfer pa bryd y mae modd cymryd camau (er enghraifft tanberfformiad ariannol yn is o lawer na’r meincnod ar gyfer pedwar chwarter yn olynol). Nid oes angen i newidiadau i’r amgylchedd allanol arwain at newidiadau sydyn yn y dull gweithredu. Os yw targedau priodol wedi cael eu pennu ar gyfer dyrannu asedau, parodrwydd i dderbyn risg ac elw ariannol, dylai’r portffolio buddsoddi allu goddef ansefydlogrwydd rhesymol.
Dylai’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn dderbyn diweddariadau rheolaidd gan yr ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hynny sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig am oruchwylio buddsoddiadau. Gallai hyn gynnwys diweddariad ysgrifenedig chwarterol a chyflwyniad blynyddol mwy trylwyr. Dylai unrhyw ddiweddariadau fod ar gael i bob ymddiriedolwr, a dylid cynnig cymorth ychwanegol lle bo angen i sicrhau dealltwriaeth ddigonol i gydymffurfio â dyletswydd yr ymddiriedolwyr i oruchwylio buddsoddiadau.
- cynnal proses adolygu/ail-dendro ar gyfer unrhyw ddarparwyr proffesiynol (e.e. rheolwyr buddsoddiadau, cynghorwyr buddsoddi) ar gyfnodau priodol
Yn ogystal â’r adrodd a’r monitro sy’n cael ei amlinellu uchod, bydd proses ail-dendro ar gyfer rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi yn cael ei chynnal bob 4-5 mlynedd er mwyn galluogi ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgo i wneud y canlynol:
- asesu perfformiad y darparwr dros gyfnod digon hir
- sicrhau bod lefel briodol o ffioedd a thaliadau’n cael ei defnyddio o gymharu â darparwyr eraill
- asesu’r gwahanol ddulliau gweithredu arfaethedig yn erbyn ei gilydd
Cyn unrhyw ail-dendro, dylid adolygu’r fframwaith dirprwyo a'r polisi buddsoddi.
Bod gwybodaeth sy’n cael ei darparu gan unrhyw ddarparwr proffesiynol (er enghraifft rheolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi) yn amserol, yn berthnasol, yn gywir ac yn cael ei darparu mewn fformat y gall y rhai sy’n ei ddefnyddio ei ddeall.
Mae angen i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor bennu disgwyliadau, er enghraifft, faint ymlaen llaw y mae angen rhannu dogfennau cyn cyfarfodydd. Pan fydd gan ddarparwr amserlen adrodd benodol, er enghraifft mewn cronfa gyfun, efallai y bydd angen trefnu cyfarfodydd yn unol â’r amserlen adrodd. Lle nad oes gan ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor lawer o arbenigedd neu arbenigedd yn nibenion yr elusen, sut mae sicrhau bod adroddiadau ar gael i’r ddau grŵp.
Dylai dulliau hefyd fod ar waith ar gyfer adroddiadau interim lle mae newidiadau sylweddol i’r buddsoddiadau, er enghraifft gostyngiad mewn perfformiad ariannol neu newid sylweddol yn y dyraniad asedau.
Gwneud penderfyniadau, risg a rheolaeth
Cael cyngor
Mae canllaw CC14 y Comisiwn Elusennau yn rhestru cymryd cyngor fel un o bedair dyletswydd penodol ymddiriedolwr o ran buddsoddiadau ariannol.
Ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â. Er enghraifft, efallai bod gennych:
- ddigon o arbenigedd yn eich elusen
- fuddsoddiadau cyfyngedig, gwerth isel
Rhoddir cyngor fel arfer gan:
- reolwr buddsoddi neu gynghorydd
- ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd â phrofiad a gallu perthnasol
Cymryd cyngor proffesiynol
Mae’n rhaid i chi geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, heblaw bod gennych reswm da dros beidio â gwneud hynny os yw eich elusen wedi’i strwythuro fel:
- ymddiriedolaeth
- cymdeithas anghorfforedig
Os yw eich elusen yn gwmni, neu’n fath arall o elusen gorfforedig, nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n buddsoddi wneud hyn.
Dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a dylai gael ei roi gan rywun sydd â phrofiad o faterion ariannol a materion eraill sy’n berthnasol i ddull buddsoddi eich elusen. Rhoddir cyngor fel arfer gan:
- reolwr buddsoddi neu gynghorydd
- ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd â phrofiad a gallu perthnasol
Efallai y byddwch yn penderfynu nad oes angen cyngor proffesiynol allanol arnoch. Er enghraifft, efallai bod gennych:
- ddigon o arbenigedd yn eich elusen
- fuddsoddiadau cyfyngedig, gwerth isel
Cadwch gofnod o’ch rhesymau os penderfynwch beidio â chymryd cyngor proffesiynol allanol.
Mae ymddiriedolwyr (gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor lle bo angen) yn nodi a oes angen iddyn nhw gael cyngor ar fuddsoddiadau’r elusen a chofnodi’r link to Cofnodwyd canlyniad.
Caiff unrhyw gyngor ei roi gan unigolyn neu fudiad ag arbenigedd priodol, a gellir ei roi’n wirfoddol neu am dâl, er enghraifft, gan ymddiriedolwr neu aelod pwyllgor neu gan weithiwr proffesiynol allanol.
Gall fod angen cyngor ar nifer o feysydd, er enghraifft:
- strategaeth a dull buddsoddi’r elusen
- polisi buddsoddi’r, elusen, er enghraifft anghenion hylifedd, parodrwydd i dderbyn risg a dyraniad asedau
- er mwyn i’r elusen benodi darparwyr allanol
- er mwyn adolygu buddsoddiadau’r elusen
Mae CC14 yn dweud: ‘mae’r Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy’n gwneud buddsoddiadau’ ‘gymryd cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, oni bai fod gennych chi reswm da dros beidio â gwneud hynny’.
Nid yw’r Comisiwn yn disgwyl y bydd angen i elusennau sydd â ‘buddsoddiadau cyfyngedig, isel eu gwerth’ gael cyngor proffesiynol allanol.
Mae’r ddogfen ‘elusennau llai sy’n buddsoddi arian yn bennaf’ yn edrych ar bryd y gallai’r elusennau hyn ystyried cymryd cyngor.
Fel y nodwyd yn CC14, dylai’r elusen ‘gadw cofnod Cofnodwyd o’ch rhesymau os byddwch chi’n penderfynu peidio â chymryd cyngor proffesiynol allanol’.
Ar gyfer elusennau sydd â symiau mwy wedi’u buddsoddi ac sy’n defnyddio cynnyrch buddsoddi y tu hwnt i’r rhai sy’n cael eu rhestru uchod, mae’n debygol y bydd angen cyngor.
Mae CC14 yn nodi ‘dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a chael ei roi gan rywun sydd â phrofiad o faterion ariannol a materion eraill sy’n berthnasol i ddull buddsoddi eich elusen. Fel arfer, mae cyngor yn cael ei roi gan:
- cynghorydd neu reolwr buddsoddi
- ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd â phrofiad a gallu perthnasol’
Yn ymarferol, mae elusennau sydd â symiau mwy wedi’u buddsoddi ac sy’n defnyddio cynnyrch buddsoddi y tu hwnt i arian parod, yn debygol o gael cyngor gan unigolion mewnol ac allanol.
Bydd pennu a oes digon o arbenigedd yn fewnol a lle y bydd angen cyngor allanol yn dibynnu ar gyd-destun yr elusen.
Mewnol: Fel arfer, bydd unigolyn sydd â phrofiad a gallu perthnasol yn ymddiriedolwr, neu’n aelod o bwyllgor buddsoddiadau’r. Dylai’r ymddiriedolwr neu’r unigolyn fod â chefndir mewn rheoli buddsoddiadau neu ddealltwriaeth ariannol ddigonol (er enghraifft drwy redeg busnes neu weithio fel cyfrifydd) sy’n gymesur â maint a chymhlethdod buddsoddiadau’r elusen. Os oes gan ymddiriedolwr gefndir proffesiynol ym maes rheoli buddsoddiadau a’i fod yn rhoi cyngor i’r elusen, ef sy’n gyfrifol am ansawdd y cyngor hwnnw.
Pan fydd cyngor yn cael ei roi gan ymddiriedolwr, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ddilyn canllawiau CC14 ar gael cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr.
Am ragor o wybodaeth: gweler Egwyddor 5 - recriwtio
Allanol: Cyngor sy’n cael ei roi gan reolwr buddsoddi neu gynghorydd buddsoddi.
Mae gwahaniaethau rhwng cyngor sy’n cael ei roi gan reolwr buddsoddi a fydd fel arfer yn gyfyngedig i gynhyrchion sy’n cael eu cynnig gan y mudiad a chyngor sy’n cael ei roi gan gynghorydd buddsoddi a fydd fel arfer ar draws ystod ehangach o gynnyrch. Gall pa fath o gyngor sydd fwyaf addas i’ch elusen ddibynnu ar a yw ymddiriedolwr neu unigolyn arall (e.e. aelod o’r pwyllgor) sydd â’r profiad a’r gallu perthnasol ar gael, a maint a chymhlethdod buddsoddiadau’r elusen. Mae modd rhoi cyngor yn barhaus (er enghraifft, pan mae rheolwr buddsoddi yn rhedeg portffolio buddsoddiadau elusen o ddydd i ddydd neu fod cynghorydd buddsoddi yn dewis ac yn goruchwylio amrywiaeth o reolwyr buddsoddi ar ran yr elusen) neu yn ôl yr angen (er enghraifft, wrth benodi rheolwr buddsoddi neu oherwydd na all ymddiriedolwyr gytuno ar gamau gweithredu).
Pan fydd cyngor yn cael ei roi gan reolwr buddsoddiadau, dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor bennu a yw’r cyngor yn annibynnol neu’n gyfyngedig i gynhyrchion y rheolwr buddsoddiadau ei hun, os yw’r cyngor yn gyfyngedig, dylid cofnodi hyn. Mae unrhyw gyngor proffesiynol a dderbynnir yn ffurfiol, yn cael ei gofnodi a’r unigolyn neu’r mudiad sy’n darparu’r cyngor sy’n gyfrifol am ansawdd y cyngor hwnnw.
Sefydliad Guy's and St Thomas' (rhif elusen 1160316)
Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree (rhif elusen 210037)
Charity Investment Consulting Partnership - Canllaw ymddiriedolwr i gael cyngor ar fuddsoddiadau
Dull Strategaeth a Buddsoddi
Mae canllaw CC14 y Comisiwn Elusennau yn dweud bod:
- ystyried os yw’r buddsoddiadau yn addas ar gyfer eich elusen os byddant yn bodloni ei hamcanion buddsoddi.
- ystyried yr angen i amrywio buddsoddiadau, os yw’n briodol i’ch elusen, er mwyn lledaenu’r risg
yn ddau o bedair dyletswydd penodol ymddiriedolwr o ran buddsoddiadau ariannol.
Mae’r Egwyddorion yn nodi cyfres o gamau argymelledig a all helpu ymddiriedolwyr i gyflawni eu dyletswyddau ymddiriedolwyr, gyda chymorth staff ac aelodau pwyllgor, gan gynnwys:
- asesu anghenion ariannol yr elusen, ei, pharodrwydd i dderbyn risg a’i hanghenion hylifedd
- datblygu strategaeth a dull buddsoddi
Rhoddir sylw i Roi cyngor uchod yn Egwyddor 4.
Rhoddir sylw i Adolygu buddsoddiadau eich elusen isod yn Egwyddor 4.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgo, yn pennu ac yn cofnodi sefyllfa ariannol yr elusen, yn gosod targedau i ddiwallu anghenion ariannol yr elusen ac yn adolygu’r rhain o leiaf unwaith y flwyddyn. Caiff targedau ariannol yr elusen eu cofnodi yn y polisi buddsoddi a gymeradwyir gan bob ymddiriedolwr. Gall hyn gynnwys:
- swm i’w fuddsoddi
- sefyllfa ariannol gyffredinol yr elusen, gan gynnwys ei hanghenion tymor hir a thymor byr
- a yw unrhyw ran o’r buddsoddiadau yn gronfeydd wrth gefn ar gyfer prosiect yn y dyfodol neu i sicrhau cynaliadwyedd yr elusen
- a yw’r buddsoddiadau’n darparu enillion ariannol (twf cyfalaf neu incwm) i ariannu gweithgareddau’r elusen
- unrhyw gyfyngiadau ar fuddsoddiadau y mae modd eu gwneud
- unrhyw ddyraniad i fuddsoddiad cymdeithasol
Gallai’r swm i’w fuddsoddi gynnwys cronfeydd anghyfyngedig, cronfeydd cyfyngedig, cronfeydd dynodedig, cronfeydd gwaddol.
Mae cronfeydd wrth gefn yn cyfeirio at gronfeydd anghyfyngedig sydd ar gael i’w gwario (heb gynnwys asedau sefydlog a ddefnyddir i gyflawni gweithgareddau’r elusen fel adeilad, neu fuddsoddiadau cymdeithasol). Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennau ‘Cronfeydd wrth gefn elusennau: meithrin gwydnwch (CC19)" yn datgan: ‘Mae’n bwysig bod gan elusennau bolisi sy’n esbonio eu hagwedd at gronfeydd wrth gefn. Nid oes un lefel na hyd yn oed ystod o gronfeydd wrth gefn sy’n briodol i bob elusen. Dylai unrhyw darged sy’n cael ei gosod gan ymddiriedolwyr ar gyfer lefel y cronfeydd wrth gefn sydd i’w cadw, neu benderfyniad nad oes angen cronfeydd wrth gefn, adlewyrchu amgylchiadau penodol yr elusen unigol a chael ei egluro yn y polisi.’
Fel arfer, bydd arian y gallai fod ar yr elusen angen cael gafael arno’n gyflym neu ar ddyddiad penodol yn cael ei gadw mewn arian parod neu mewn cynnyrch buddsoddi sy’n aeddfedu (talu enillion) cyn y bydd angen yr arian (er enghraifft bondiau penodol). Mae hyn yn osgoi’r posibilrwydd o fod angen cael gafael ar yr arian ar adeg pan fo gwerth y buddsoddiad yn is na’r disgwyl.
Os yw elusen yn annhebygol o fod angen cael gafael ar arian yn gyflym, er enghraifft oherwydd bod swm mawr o arian yn cael ei gadw neu fod modd cynllunio gwariant ymlaen llaw fel ar gyfer rhoi grantiau, yna mae modd ystyried dulliau buddsoddi eraill.
Gall y swm i’w fuddsoddi effeithio ar y math o reolaeth fuddsoddi sydd ar gael i’r elusen; gall cyllid a gydgasglwyd fod ag isafswm buddsoddiad isel (fel arfer rhwng £1,000 a £10,000), a gal portffolio pwrpasol gael swm buddsoddi lleiaf uwch.
Gall cyfyngiadau ar fuddsoddiadau y gall elusen eu gwneud gynnwys y canlynol:
- cyfyngiadau yn nogfen llywodraethu’r elusen
- pan mae cyllidwr yn mynnu bod yn rhaid cadw arian mewn arian parod wrth aros iddo gael ei wario ar brosiect neu ei ddefnyddio fel grantiau
- cyfyngiadau ar ddosbarthiadau asedau penodol sy’n cael eu gosod gan yr ymddiriedolwyr neu’r pwyllgor
Bydd anghenion ariannol elusen yn dibynnu ar ei chyd-destun. Er enghraifft, bydd gan rai elusennau ymrwymiadau gwario penodol yn seiliedig ar eu gweithgareddau, bydd rhai eraill yn gwario yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael; bydd rhai elusennau’n defnyddio’r enillion ariannol o’u buddsoddiadau i ariannu eu gweithgareddau elusennol, bydd rhai eraill yn cadw buddsoddiadau i sicrhau cynaliadwyedd gweithrediadau’r elusen yn hytrach na cheisio cael elw ariannol i’w wario ar weithgareddau elusennol.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgors feddu ar ddealltwriaeth glir o ba anghenion ariannol y mae’n rhaid eu diwallu o enillion ar fuddsoddiadau’r elusen.
Bydd targedau ariannol ar gyfer buddsoddiadau elusen yn seiliedig ar anghenion ariannol yr elusen ac ar archwaeth risg yr elusen.
Gall nifer o ffactorau gyfrannu at benderfynu ar dargedau ariannol yr elusen, gallai’r ffactorau hyn gynnwys y canlynol:
- gosod targed ar gyfer incwm (swm mewn punnoedd) neu dwf cyfalaf (fel canran o asedau presennol)
- gosod targed yn seiliedig ar wariant yr elusen (e.e. cyfradd dosbarthugrantiau, gwariant ar weithgarwch elusennol sy’n cael ei ariannu gan enillion ofuddsoddiadau'r elusen)
- a yw’r elusen yn ceisio cynnal gwerth enwol neu wirioneddol neu dyfu’r asedau dros amser, bydd hyn yn effeithio ar sut mae chwyddiant yn cael ei ystyried mewn perthynas â’r buddsoddiadau
Unwaith mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor wedi gosod targed ariannol, mae modd nodi buddsoddiadau, o fewn archwaeth risg. Ar gyfer cyllidebau cyfun a phortffolios pwrpasol fel arfer bydd targed ar gyfer perfformiad (e.e. X% + mesur chwyddiant) a meincnod cymharydd sy’n dangos sut mae’r buddsoddiadau’n perfformio yn erbyn buddsoddiadau eraill sydd â nodau tebyg. Bydd cronfa adneuo gyffredin fel arfer yn targedu enillion ariannol sy’n uwch na’r hyn y gellid ei gyflawni ar arian parod mewn cyfrif banc ond efallai na fydd targed penodol.
Association of Charitable Foundations - Er da ac Nid am Byth (gwario gan sefydliadau gwaddol)
Investing for Charities by James Brooke Turner, published by the Directory of Social Change
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall anghenion ariannol yr elusen dros y tymor byr, canolig a hwy; anghenion hylifedd (pa mor gyflym y gallai fod angen arian gwario ar yr elusen); a pha ddull buddsoddi a allai fod yn briodol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Bydd sut mae’r cyfnodau hyn yn cael eu diffinio yn dibynnu ar gyd-destun yr elusen, gan gynnwys maint buddsoddiadau’r elusen. Os oes llawer iawn o gronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw dros nifer o flynyddoedd, yna bydd cyfleoedd i ystyried strategaethau tymor hwy.
Mae modd hefyd ystyried goblygiadau gwahanol orwelion amser y rheini sy’n ymwneud â phenderfyniadau buddsoddi’r elusen. Er enghraifft, efallai fod gan yr elusen orwel amser o 100 mlynedd a mwy, tra bo ymddiriedolwyr ac aelodau’r pwyllgor buddsoddiadau yn gwasanaethu am hyd at 9 mlynedd, a bo cyfarfodydd yn cael eu cynnal bob chwarter i drafod buddsoddiadau. Gall sefydlu credoau buddsoddi sefydliadol (er enghraifft, p’un ai i gadw cyfranddaliadau dros y tymor hir gyda’r nod o ddileu ansefydlogrwydd er mwyn cynyddu enillion posibl), helpu i sicrhau nad yw’r strategaeth fuddsoddi’n newid yn ddramatig pan fydd ymddiriedolwyr neu aelodau’r pwyllgor buddsoddiadau yn newid.
Dyma rai enghreifftiau:
Tymor byr
- arian sy’n cael ei gadw i sicrhau hyfywedd parhaus yr elusen ac ar gyfer prosiectau penodol sydd ar y gweill, sy’n cael ei gadw fel cronfeydd anghyfyngedig, dynodedig neu gyfyngedig.
Enghreifftiau:
- 6 mis o dreuliau gweithredu; arian i dalu grantiau yr ymrwymwyd iddyn nhw; arian ar gyfer prosiect sydd ar y gweill; grantiau neu arian llif drwodd a dderbyniwyd lle nodwyd y byddan nhw’n cael eu cadw fel arian parod
Wedi’i fuddsoddi fel arfer:
- yn cael eu cadw fel arian parod mewn cyfrif banc, mewn cronfa adneuo gyffredin neu mewn buddsoddiad tebyg i arian parod
- os yw elusen yn gwybod pryd y gallai fod angen iddi gael gafael ar arian, er enghraifft ar gyfer prosiect penodol, yna mae modd edrych ar gyfrif banc gyda chyfnod rhybudd neu fond gyda dyddiad gorffen penodol er mwyn sicrhau enillion uwch
Tymor canolig
Enghreifftiau
- arian sy’n cael ei gadw mewn gwaddol treuliadwy gyda’r bwriad o’i wario dros gyfnod amser penodol
- cronfeydd wrth gefn y gallai fod angen eu defnyddio yn ystod cyfnodau o alw
Wedi’i fuddsoddi fel arfer:
- bondiau gydag elw sefydlog, buddsoddiadau tebyg i arian parod, asedau ag ansefydlogrwydd isel
Tymor hwy
- arian sy’n cael ei gadw mewn gwaddol parhaol neu mewn gwaddol treuliadwy gyda’r bwriad o fodoli dros y tymor hwy
- cronfeydd wrth gefn sy’n debygol o gael eu cadw dros gyfnod hwy neu’n barhaus
Wedi’i fuddsoddi fel arfer
- mewn portffolio sy’n cynnwys cyfranddaliadau (y dangoswyd eu bod yn perfformio’n well na dosbarthiadau asedau eraill yn y tymor hir), asedau a), bondiau amgen
- gall y rheini sy’n goruchwylio’r buddsoddiadau ddefnyddio gorwel tymor canolig at ddibenion cynllunio, er enghraifft ymrwymiadau gwario tair blynedd neu dargedau ar gyfer rheolwyr buddsoddi
Mae hylifedd yn cyfeirio at ba mor hawdd y mae modd troi buddsoddiad yn arian parod. Mae deall ‘anghenion hylifedd’ elusen yn golygu deall faint o arian y gallai fod ei angen ar elusen dros y tymor byr a’r tymor canolig.
Fel arfer, pan mae elusen yn fodlon derbyn risg uwch neu fwy o anwadalrwydd, bydd yr enillion yn uwch yn y tymor hir.
Mae’r risgiau y mae angen eu hystyried a’u cydbwyso yn cynnwys y canlynol::
- os bydd elusen angen cael gafael ar arian yn gyflym, mae risg y gallai fod angen i’r elusen werthu asedau am bris is
- os bydd elusen yn cadw ei holl arian mewn arian parod neu gynnyrch tebyg i arian parod, bydd fel arfer yn colli allan ar elw uwch dros y tymor hir
Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried effaith gwahanol amserlenni a sicrhau bod eu strategaethau buddsoddi yn gallu bodloni cynlluniau gweithredol yr elusen. Gall elusennau sydd â gorwel amser tymor hir roi strategaethau ar waith i reoli ansefydlogrwydd, er enghraifft symud arian i arian parod neu gynnyrch tebyg i arian parod i fodloni’r ymrwymiadau gwario sydd ar y gweill.
Mae elw llwyr yn golygu bod yr elusen dim ond yn gwario incwm a gynhyrchwyd o’r portffolio, er enghraifft, llog ar arian mewn cyfrif banc neu ddifidendau ar gyfranddaliadau. Mae dull elw llwyr yn caniatáu i’r elusen dynnu enillion cyfalaf ac incwm. Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor ddeall pa ddull yw’r un mwyaf priodol i amgylchiadau eu helusen, a chael cyngor allanol os oes angen. Mae gan elusennau â gwaddol parhaol reolau penodol i’w dilyn wrth fabwysiadu dull elw llwyr (gweler isod)
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor, gan gymryd cyngor pan fo angen, yn edrych ar, yn pennu ac yn cofnodi parodrwydd elusen i dderbyn risg.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn archwilio, yn pennu ac yn cofnodi archwaeth risg yr elusen mewn perthynas â buddsoddiadau ac mae ganddyn nhw ddealltwriaeth ddigonol o’r berthynas rhwng risg ac enillion, a’r angen i amrywio buddsoddiadau.
Mae archwaeth risg yr elusen yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Bydd archwaeth risg yn dibynnu ar gyd-destun elusen. Bydd angen i elusen sydd â chronfeydd wrth gefn gydag arian yn dod i mewn, sy’n gallu amrywio’n fawr, gymryd llai o risg nag elusen sydd â gwaddol mawr. Bydd archwaeth risg elusen yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen o’r buddsoddiadau, er enghraifft bydd cynnal gwerth swm bach o gronfeydd wrth gefn yn gofyn am ddull risg gwahanol i gynnal gwerth gwaddol mawr y mae modd ei wario.
Dylai pob ymddiriedolwr feddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o sefyllfa ariannol yr elusen a’r archwaeth risg sy’n deillio ohoni, mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor hynny sydd â dealltwriaeth ariannol neu arbenigedd buddsoddi a/neu gynghorwyr buddsoddi’r elusen yn gallu darparu gwybodaeth a chefnogaeth i helpu ymddiriedolwyr i sicrhau dealltwriaeth sylfaenol. Bydd cytuno ar archwaeth risg yr elusen ymlaen llaw, er enghraifft faint y gall gwaddol fod yn is na’i werth gwirioneddol neu enwol a thros ba gyfnod o amser, yn helpu i osgoi gwneud penderfyniadau brys a allai fod yn wael yn ystod cyfnodau o gynnwrf ariannol. Dylai archwaeth risg yr elusen gael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr. Lle bo’n berthnasol, dylai Pwyllgor Archwilio a Risg yr elusen neu bwyllgor cyfatebol adolygu’r archwaeth risg.
Er y gall llawer o ymddiriedolwyr elusennau fod yn awyddus i ddewis yr opsiynau risg isaf, i elusennau sydd â chronfeydd wrth gefn neu waddol dros gyfnod hir, mae’n debygol y bydd hyn yn golygu bod y buddsoddiadau’n werth llai dros amser gan y bydd chwyddiant yn uwch na’r enillion. Bydd sicrhau bod gan yr holl ymddiriedolwyr ddealltwriaeth sylfaenol o sefyllfa ariannol yr elusen a’r archwaeth risg sy’n deillio ohoni yn galluogi trafodaethau gwybodus. Mae archwaeth risg yn golygu gweithredu’n fwriadol mewn perthynas â risg, bod yn hyderus bod rheolwyr buddsoddi neu gynghorwyr buddsoddi yn mynd ati i reoli risgiau ar ran yr elusen.
Gall arallgyfeirio buddsoddiadau, er enghraifft drwy fod â gwahanol ddosbarthiadau asedau fel bondiau neu fuddsoddiadau amgen ochr yn ochr â chyfranddaliadau, helpu i reoli risg. Os oes gan elusen ddaliad sylweddol mewn un ased, er enghraifft rhodd fawr o gyfranddaliadau mewn un cwmni, dylid rheoli effaith hyn ar ddull arallgyfeirio ac archwaeth risg yr elusen.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor benderfynu pa ddull buddsoddiadau sy’n gweddu orau i archwaeth risg yr elusen, er enghraifft asesu lefelau risg gwahanol gronfeydd cyfun neu ddewis cadw buddsoddiadau mewn arian parod neu gynhyrchion tebyg i arian parod neu fuddsoddi mewn dosbarthiadau asedau eraill. Gall elusennau ofyn am gyngor, yn enwedig os nad oes digon o arbenigedd ymysg yr ymddiriedolwyr/staff.
I ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n archwilio ac yn pennu archwaeth risg yr elusen, mae’r ffactorau i’w hystyried yn cynnwys y canlynol:
- deall y cydbwysedd rhwng risg ac enillion ariannol tebygol dros amser
- y rhyngweithio rhwng risg a hirhoedledd, er enghraifft sut mae gorwel amser hir yn cyflwyno cyfleoedd i gynyddu archwaeth risg ac enillion ariannol posibl
- risg hylifedd os yw buddsoddiadau’n fwy caeth (cymryd amser hir i droi’n arian parod) a bod yr elusen angen cael gafael ar arian yn sydyn, gallai hyn fod yn anodd
- gosod paramedrau risg, er enghraifft a fydd risg yn cael ei hasesu mewn termau absoliwt (er enghraifft ‘dylai’r portffolio gynnal o leiaf 90% o werth gwirioneddol’') neu’n gymharol â mynegai (er enghraifft ‘90% o risg marchnad fondiau y DU)
- defnyddio asiantaethau sgorio allanol i asesu risgiau gwahanol ddosbarthiadau asedau a buddsoddiadau
- risg chwyddiant, fel rheol gyffredinol lle mae buddsoddiadau’n cael eu cadw mewn asedau risg is (e.e. arian parod) mae’r enillion ariannol yn llai tebygol o drechu chwyddiant dros amser, gan arwain at werth real is dros amser
- proffiliau risg gwahanol y gwahanol ddosbarthiadau asedau (am ragor o wybodaeth am hyn gweler y dyraniad asedau isod)
- risgiau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol (ESG) er enghraifft mae cwmnïau ag arferion amgylcheddol neu hawliau dynol gwael yn debygol o berfformio’n waeth dros amser.
- risgiau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau sy’n gwrthdaro â dibenion yr elusen neu sy’n peri risgiau i enw da
I gael rhagor o wybodaeth am archwaeth risg mewn perthynas â buddsoddiadau cymdeithasol, gweler Buddsoddiadau Cyfrifol, Buddsoddiadau Effaith a Buddsoddiadau Cymdeithasol
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor, gan gymryd cyngor pan fo angen, yn pennu’r dyraniad asedau asedausy’n briodol i’r targedau ariannol a’r archwaeth risg. Mae dyraniad asedau’r elusen yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Dyrannu asedau yw sut mae buddsoddwyr yn rhannu eu portffolios ymysg gwahanol asedau, er enghraifft cyfranddaliadau, bondiau, asedau eraill ac arian parod. Mae buddsoddwyr fel arfer yn ceisio cydbwyso risgiau a gwobrwyon ar sail nodau ariannol, parodrwydd i dderbyn risg, a’r gorwel amser. Dyma rai enghreifftiau:
- gallai elusen sy’n gwybod pryd y bydd angen iddi wario arian, er enghraifft elusen sydd â hronfeydd wrth gefn y gellid galw arnynt neu arian ar gyfer prosiect penodol sydd ar y gweill, ddewis dyraniad asedau sy’n cynnwys arian parod a bondiau.
- - bydd elusen sydd â gorwel tymor hir neu sydd â buddsoddiadau sylweddol a’r gallu i gymryd risgiau er mwyn sicrhau mwy o elw, yn fwy tebygol o roi cyfran uwch o fuddsoddiadau mewn cyfranddaliadau
Mae gwahanol asedau’n ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft gallai rhai gynni incwm is a thwf cyfalaf, uwch, bydd rhai yn cynnig telerau sefydlog ac eraill yn amrywio.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sy’n gyfrifol am gael trosolwg o fuddsoddiadau, gan gymryd cyngor pan fo angen, bennu dyraniad ased sy’n briodol i nodau ariannol yr elusen, y parodrwydd i gymryd risg a’r gorwel amser; caiff hyn wedyn ei drafod a’i gymeradwyo gan yr holl ymddiriedolwyr a’i gofnodi yn y polisi buddsoddi. Mae’n debygol y bydd gan y dyraniad asedau ystodau, er enghraifft 65-85% mewn cyfranddaliadau byd-eang, a bydd y rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi yn gallu gwneud penderfyniadau buddsoddi o fewn yr ystod honno. Mae’r dyraniad asedau hefyd yn debygol o gynnwys cyfyngiadau ar grynodiad rhy uchel mewn dosbarth unigol o asedau neu fuddsoddiad penodol. Os bydd ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn penderfynu y byddai dosbarth asedau gwahanol yn briodol i gyd-destun yr elusen, mae angen i bob ymddiriedolwr drafod a chymeradwyo hyn a’i gofnodi yn y polisi buddsoddi.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth ddigonol o’r dosbarthiadau asedau a gynigir gan y rheolwr buddsoddi neu’r cynghorydd buddsoddi, gan gynnwys hylifedd, costau ac unrhyw risgiau posibl i enw da sy’n gysylltiedig â gwahanol ddosbarthiadau asedau. Mae rhai asedau, er enghraifft crypto-arian yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer buddsoddiadau elusennau.
Os yw elusen yn buddsoddi drwy gronfa gyfun yna bydd gan y gronfa ystodau ar gyfer dyrannu asedau. Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod yr ystod yn addas ar gyfer y dyraniad asedau sy’n briodol i’r elusen.
Mae pennu dyraniad asedau priodol, sy’n cael ei ddeall a’i gymeradwyo gan yr holl ymddiriedolwyr, yn rhan bwysig o sicrhau arallgyfeirio digonol o fewn y portffolio buddsoddi.
Mae ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn deall a yw rheolwyr buddsoddi’r elusen yn bwriadu gwneud y canlynol a sut maen nhw’n bwriadu ei wneud:
- ymgymryd ag arferion buddsoddi cyfrifol (eg gwaredu, eithrio, sgrinio, stiwardiaeth ac ymgysylltu) i osgoi gwrthdaro â dibenion yr elusen a rheoli risgiau i enw da
- ymgymryd ag arferion buddsoddi cyfrifol a monitro ffactorau ESG gyda’r bwriad o reoli risg a chryfhau perfformiad ariannol
- ymgymryd â buddsoddi cyfrifol neu fuddsoddi effaith fel ffordd o hyrwyddo dibenion yr elusen
Mae targedau priodol yn cael eu gosod a’u monitro.
Mae dull yr elusen yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Dylai ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor sicrhau bod proses glir ar gyfer cymeradwyo gweithgareddau stiwardiaeth ac ymgysylltu Gall terfynau amser rhai gweithgareddau fod yn dynn felly dylai’r broses gynnwys hyblygrwydd i unigolyn enwebedig gymeradwyo gweithgareddau penodol heb fod angen cymeradwyaeth gan y pwyllgor/bwrdd, llawn, a pharamedrau clir ar gyfer pa weithgareddau y mae angen eu cymeradwyo.
Mewn elusennau sydd â gwaddol parhaol mae, ymddiriedolwyr/staff/aelodau pwyllgor yn ystyried a ddylid mabwysiadu dull cyfanswm enillion ar gyfer buddsoddiadau neu ddilyn dull incwm yn unig (ac ailystyried hyn o bryd i’w gilydd). Mae’r dull yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Gall pob elusen â buddsoddiadau ddilyn dull elw llwyr, dylai elusennau â gwaddol parhaol ddilyn canllawiau’r Comisiwn Elusennau.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i’r elusennau hynny sydd â gwaddol parhaol, gan gynnwys
- mabwysiadu dull elw gwirioneddol, lle mae’r elusen yn gwario enillion cyfalaf ac incwm o fuddsoddiadau, ar yr amod bod gwerth gwreiddiol y gwaddol yn cael ei gynnal
- adolygu a ddylid cynnal gwaddol parhaol. Gall elusennau wario rhywfaint neu’r cyfan o waddol parhaol, er enghraifft, os nad yw’r anghenion y sefydlwyd y gronfa ar eu cyfer yn bodoli mwyach neu os gellid eu diwallu mewn ffordd fwy effeithiol. Bydd yn rhaid i’r Comisiwn Elusennau roi caniatâd i wario cronfeydd gwaddol parhaol or dros £25,000.
- benthyca hyd at 25% o’r gwaddol parhaol - fel arfer gwneir hyn i ddiwallu anghenion uniongyrchol gyda chynllun i ad-dalu arian drwy godi arian yn y dyfodol neu drwy elw buddsoddi ar y gwaddol sy’n weddill
- trosglwyddo gwaddol parhaol i elusen arall gyda dibenion tebyg, er enghraifft, os gallai’r elusen honno gyflawni amcanion y gwaddol parhaol yn fwy effeithiol
Pennu gwerth gwaddol parhaol: Sefydliad St John (rhif elusen 201476): Mae’r Elusen wedi mabwysiadu dull cyfrifyddu sy’n seiliedig ar elw gwirioneddol o 1 Ionawr 2013 ymlaen. Ar y dyddiad hwn gwerth cychwynnol yr elw gwirioneddol heb ei gymhwyso oedd £45.5m a phrisiwyd y gwaddol cyfalaf craidd ar £35.0m. Wrth bennu’r gwerthoedd hyn, defnyddiodd yr ymddiriedolwyr werthoedd wedi’u mynegeio (gwerth cyfredol eiddo) y gwaddol parhaol ar 1 Ionawr 1995 i gynrychioli gwerth cadwedig y rhodd wreiddiol.”
Defnyddio dull ‘incwm yn unig’: Sefydliad Cripplegate (rhif elusen 207499): O dan delerau cynllun llywodraethu’r Sefydliad, dim ond incwm y gronfa waddol barhaol y caiff Llywodraethwyr [sy’n cyfateb i Ymddiriedolwyr] ei wario ac ni chânt wario’r cyfalaf. Y gronfa waddol barhaol yw cyfalaf sefydlog y Sefydliad, sy’n cael ei fuddsoddi mewn buddsoddiadau ac eiddo. Mae’r incwm ar gael at ddefnydd cyffredinol, ond ni ellir gwario’r cyfalaf, ac eithrio ar gyfer costau rheoli buddsoddiadau sydd ynghlwm â rheoli a gweinyddu portffolio, a chostau llywodraethu a chymorth y mae modd eu priodoli’n benodol i asedau buddsoddi ... dim ond yr incwm y mae modd ei wario, ac ni ddylid cyffwrdd â’r cyfalaf ac eithrio i waredu asedau.
Defnyddio dull ‘elw gwirioneddol’: Mae Trust for London wedi’i awdurdodi gan y Comisiwn Elusennau ers 2002 i fynd ar drywydd dull elw gwirioneddol o fuddsoddi asedau gwaddol parhaol yr Ymddiriedolaeth. Mae’r dull elw gwirioneddol yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ategu ei gwariant incwm gyda chyfran o’r enillion cyfalaf sydd wedi cronni dros amser. Mae hyn hefyd yn gofyn am ddyletswydd i fuddiolwyr presennol a buddiolwyr yn y dyfodol. I gydnabod y ddyletswydd honno, mae’r Ymddiriedolwyr ers 2010 wedi gweithredu polisi sy’n ceisio cynnal ‘pŵer gwario gwirioneddol’ eu hasedau buddsoddi yn 2002. Nod yr ymddiriedolwyr yw cynnal gwerth asedau’r gwaddol o fewn ystod o +/- 20%. Ar 10 Tachwedd 2003, rhoddodd y Comisiwn Elusennau awdurdod i’r Ymddiriedolaeth fabwysiadu Dull Elw Gwirioneddol wrth reoli ei phortffolios buddsoddi. Ar 1 Ionawr 2003, mabwysiadodd yr Ymddiriedolaeth y dull hwn a dewisodd 31 Rhagfyr 1942 fel y dyddiad cyfeirio’n ôl at ddibenion dadansoddi’r cronfeydd gwaddol parhaol rhwng yr ymddiriedolaeth ar gyfer buddsoddi a’r elw gwirioneddol heb ei gymhwyso, sef dwy elfen gwaddol parhaol a bennir yn rheoliadau’r Comisiwn Elusennau. O dan y dull elw gwirioneddol, caniateir i’r Ymddiriedolaeth ddyrannu o elfen elw gwirioneddol gwaddol parhaol i’r ymddiriedolaeth ar gyfer cymhwyso (incwm) unrhyw symiau y mae’n credu eu bod yn briodol i hyrwyddo ei gwaith ar yr amod ei bod yn cyflawni tasgau penodedig. Yn y bôn, nod y tasgau hyn yw arfer ei dyletswydd statudol i fod yn deg gyda’r buddiolwyr presennol a buddiolwyr y dyfodol, i gadw cydbwysedd yr elw gwirioneddol heb ei gymhwyso ar y fath lefel fel y bydd yn parhau’n gadarnhaol o ystyried pa mor anwadal yw marchnadoedd buddsoddi a derbyn y cyngor proffesiynol y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol wrth arfer y cyfrifoldebau hyn. Strategaeth yr Ymddiriedolaeth yw rheoli’r gwaddol yn effeithiol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y swm sydd ar gael i’w ddosbarthu tra’n cynnal gwir werth gwaddol parhaol yr Ymddiriedolaeth.
Os yw’r elusen yn bwriadu gwneud buddsoddiadau cymdeithasol, mae’r nodau a’r enillion disgwyliedig o’r buddsoddiad yn cael eu cofnodi. Mae archwaeth risg yr elusen mewn perthynas â buddsoddiadau cymdeithasol yn cael ei gofnodi yn y polisi buddsoddi sy’n cael ei gymeradwyo gan bob ymddiriedolwr.
Polisi buddsoddi